BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

161 canlyniadau

Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr a chânt eu cydnabod ar draws y byd fel symbol o ansawdd. Rydym wedi rheoli’r Faner Las, Gwobr Arfordir Glas a’r Wobr Glan Môr ers dros 20 mlynedd. I gael un o’r gwobrau blaenllaw hyn, mae’n rhaid i draeth, marina neu gwmni teithiau cychod fodloni a chynnal y safonau amgylcheddol uchaf a chyrraedd targedau ansawdd dŵr llym. Mae Gwobrau Arfordir Cymru...
Datganiad Ysgrifenedig: Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. “Rwyf wedi llofnodi Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023, sy’n gosod isafswm cyflog yr awr i bob gweithiwr ym maes amaeth, garddwriaeth ac amaeth-goedwigaeth yng Nghymru, yn ogystal â’u hamodau cyflogaeth gofynnol. Mae’r cyfraddau wedi’u seilio ar gyngor Panel Cynghori Amaethyddol annibynnol Cymru. Bydd y Gorchymyn newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023 ac yn: cynyddu’r cyfraddau a’r lwfansau isafswm...
Os ydych chi eisiau allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid o’r DU, rhaid i chi enwebu rhywun i lofnodi tystysgrif iechyd allforio. Bydd yr unigolyn yn filfeddyg swyddogol neu weithiau’n arolygydd gydag awdurdod lleol (swyddog iechyd yr amgylchedd fel rheol). Bydd yn gwirio bod eich llwyth yn bodloni gofynion iechyd y wlad mae’n mynd iddi. Am ragor o wybodaeth a’r rhestr ddiweddaraf o filfeddygon ac arolygwyr awdurdodau lleol sy’n gallu ardystio eich llwyth, ewch i wefan...
Os ydych chi'n berchennog busnes bach, rydych chi'n gwybod y gall costau cynyddol fod yn her wirioneddol. Mae'n hawdd cael eich llethu trwy geisio cadw eich busnes i fynd mewn economi ansicr sy’n cynnwys chwyddiant uchel a dirwasgiad posibl. Mae canllaw’r British Business Bank ar gyfer adeiladu gwydnwch busnes yn cynnwys gwybodaeth a chefnogaeth ddiduedd, ymarferol, a gweithredadwy i helpu busnesau llai i reoli eu costau, rhoi hwb i'w proffidioldeb hirdymor, a chynyddu eu gwydnwch...
Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn gweithio gyda Her Faraday Battery i fuddsoddi hyd at £1.5 miliwn mewn prosiectau arloesi y gellir cynnyddu eu graddfa. Nod y gystadleuaeth hon yw: cefnogi ymchwil a datblygiad BBaCh i ddatblygu technolegau batri yn y DU cefnogi BBaCh i ddefnyddio UK Battery Industrialisation Centre (UKBIC) a dangos technolegau ar raddfeydd addas i gwsmeriaid cynyddu ymgysylltiad ag UKBIC symud arloesiadau batri'r DU o botensial...
Cynllun peilot yw’r Grant dechrau busnes carbon sero net sy’n ceisio helpu egin fusnesau cymdeithasol i lwyddo, gan ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd ar yr un pryd. Mae Cylch 3 y cynllun ar agor nawr am gyfnod byr i unrhyw fusnes cymdeithasol neu fudiad masnachu gwirfoddol yng Nghymru sy’n cychwyn ar ei daith. Nid oes angen i chi fod yn grŵp sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd neu’r newid yn yr hinsawdd i wneud cais...
Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn alwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gwelir gweithgarwch sylweddol ledled y byd wrth i grwpiau ddod ynghyd i ddathlu cyflawniadau menywod neu ymgyrchu dros degwch i fenywod. Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod, a ddethlir yn flynyddol ar 8 Mawrth, yn un o ddiwrnodau pwysicaf y flwyddyn i: ddathlu cyflawniadau menywod addysgu a...
Os ydych chi'n cynhyrchu, dylunio neu'n datblygu cynnyrch yng Nghymru, beth am roi cynnig ar Wobrau Gwnaed yng Nghymru 2023. Mae gwobrau unigryw Insider yn dathlu'r cynhyrchion, yr arloesiadau a'r syniadau gwych gan gwmnïau o bob maint ledled Cymru. Mae'n gyfnod cyffrous a heriol i weithgynhyrchwyr yng Nghymru. Mae llawer wedi arloesi a chwilio am farchnadoedd newydd i gynyddu gwerthiant. Mae rhai wedi newid eu ffordd o weithio ac wedi rhoi sgiliau ffres i staff...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fis Ebrill 2023. Yn llawn, dyma’r cynnydd: Y Cyflog Byw Cenedlaethol (23+) yn codi o £9.50 i £10.42 Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (21-22) yn codi o £9.18 i £10.18 Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (18-20) yn codi o £6.83 i £7.49 Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (16-17) yn codi o £4.81 i £5.28 Cyflog Prentisiaeth yn codi o £4.81 i...
Rydyn ni i gyd yn byw yn hirach, sy'n golygu bod y mwyafrif ohonom yn debygol o fod yn gweithio am gyfnod hirach hefyd. Yng Nghymru, mae traean o'r gweithlu yn 50 oed neu'n hŷn, ac erbyn 2023, bydd hanner oedolion y DU dros 50 oed. Mae’ch cwsmeriaid a'ch gweithlu'n heneiddio. Felly, mae recriwtio, cadw staff ac ailhyfforddi unigolion hŷn yn y gweithle yn hanfodol i fusnesau a'r economi ehangach. Mae angen i fusnesau weithredu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.