BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

171 canlyniadau

Cynhelir Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth rhwng 13 a 19 Mawrth 2023. Gan fod gan 15% o boblogaeth y DU gyflyrau niwroamrywiol, mae'n bwysig gwerthfawrogi manteision gweithle niwroamrywiol. Yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 2023, cynhelir wythnos o ddigwyddiadau wedi'u hanelu at addysgu ac ysbrydoli sgyrsiau am Niwroamrywiaeth, gan gynnwys 'Manteision Niwroamrywiaeth yn y Gweithle'. Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol...
Nod y gwobrau yw pontio'r bwlch rhwng dysgu academaidd a datrys problemau yn y byd go iawn a cheisiadau traws-sector, denu doniau a syniadau newydd, a hwyluso cysylltiadau rhwng myfyrwyr a diwydiant. Mae gan y Gwobrau 5 categori: Arloesi technegol Celf Ddigidol ac Adrodd Straeon yn Greadigol Dylunio UX (profiad defnyddiwr) ac UI (rhyngwyneb defnyddiwr) Synhwyraidd Y gorau yn gyffredinol Bydd cyflwyniadau'n cael eu beirniadu ar sail sut y cânt eu cyflwyno, eu creadigrwydd, eu...
Ydych chi'n gyflogwr sydd wedi recriwtio gweithwyr tramor neu ydych chi'n ceisio recriwtio o dramor? Os felly, mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed gennych chi! Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwil i benderfynu a oes gan fusnesau sy'n ceisio recriwtio o dramor y gefnogaeth angenrheidiol i wneud hynny. Neu, a yw diffyg mynediad at gymorth a chyngor ar fewnfudo yng Nghymru yn atal cyflogwyr rhag recriwtio o dramor. Os hoffech rannu eich barn, cwblhewch yr arolwg...
Lansiwyd The Climate Change Hub - sy'n canoli'r adnoddau, y wybodaeth a'r arweiniad diweddaraf ar addasu i newid hinsawdd i gefnogi tirfeddianwyr, rheolwyr coetiroedd ac ymarferwyr coedwigaeth i fynd i'r afael â bygythiadau newid hinsawdd – gan Lywodraeth Cymru, Defra, Forest Research a Scottish Forestry. Mae'n darparu gwybodaeth gryno am risgiau’n gysylltiedig â'r hinsawdd yn newid, sut i amlygu mesurau addasu addas ac enghreifftiau o sut mae rheolwyr eraill yn gweithredu arferion addasol. I gael...
Coleddwch eich cwsmeriaid allweddol. Yn ogystal â gwneud cyfraniad mawr at eich mantolen, maen nhw hefyd yn dylanwadu ar eraill yn y diwydiant. Maen nhw’n ffynhonnell gwerthiannau ychwanegol ac os byddwn yn eu colli nhw i gystadleuydd, gall ein twf aros yn ei unfan. Felly, mae cwmnïau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid yn ceisio ‘cloi i mewn’ eu cyfrifon allweddol. Maen nhw nid yn unig yn ceisio eu cadw nhw ond cynyddu’r refeniw ohonynt i’r eithaf...
Mae’r argyfyngau ariannol y mae llawer o economïau’r byd wedi’u profi yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael eu hybu i raddau helaeth gan ddiwylliant o drachwant ac ymddygiad hunanol. Yn wir, nid oes enghraifft well o faglau gosod llwyddiant ar sylfeini mor annibynadwy. Maen nhw wedi rhoi ergyd aruthrol i wledydd a chymunedau ar draws y byd, yn ogystal â difetha bywydau llawer o bobl. Mae athroniaethau, cenadaethau a strategaethau personol wedi’u seilio ar...
Cynhelir Prif Ddigwyddiad Caffael Sector Cyhoeddus Cymru ar 8 Tachwedd 2023. Gan gysylltu prynwyr a chyflenwyr ar draws y gadwyn gyflenwi caffael, bydd Procurex Cymru yn darparu cyfoeth o gyfleoedd datblygu sgiliau, rhwydweithio, cydweithio ac arddangos cynnyrch i sefydliadau sy’n gweithio’n frwd gyda’r sector cyhoeddus, neu sy’n chwilio am ffyrdd o weithio ar draws marchnad gaffael Cymru a thu hwnt. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Home - Procurex Wales 2022
Yn y cam olaf hwn o'r rhaglen, bydd yr holl hangeri ar y bont yn cael eu newid. Pan fydd lôn ar gau, bydd goleuadau traffig yn gweithredu'n rhan amser ar bob pen i'r bont - gan ganiatáu i gerbydau groesi i'r naill gyfeiriad neu'r llall pan fydd hynny'n cael ei ganiatáu. Bydd y treialu yn dechrau ar y 6 Mawrth 2023 a'r bwriad yw ei gwblhau o fewn pedwar diwrnod, er y gallai hyn...
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer 'Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2023', a gynhelir ar 18 Mai 2023 yn Venue Cymru, Llandudno. Bydd y gwobrau cenedlaethol yn rhoi llwyfan i ddathlu cynhyrchwyr a chyflenwyr Cymreig. Byddant yn tynnu sylw at amrywiaeth y sector, ac yn amlygu’r llwyddiannau sy'n datblygu, creu cyflogaeth ac a fydd yn ysbrydoliaeth i eraill. Bydd 15 categori i ddewis ohonynt a gallwch roi cynnig ar hyd at 2, rhaid bod...
Mae Fframwaith Windsor, y cytunwyd arno gan y Prif Weinidog a Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn disodli hen Brotocol Gogledd Iwerddon, gan ddarparu fframwaith cyfreithiol a chyfansoddiadol newydd. Mae'n sicrhau bod nwyddau yn gallu llifo'n rhydd rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon drwy gael gwared ar unrhyw ymdeimlad o'r ffin ym Môr Iwerddon ar gyfer nwyddau sy'n aros yn y DU. Bydd nwyddau o Brydain Fawr yn teithio i Ogledd Iwerddon fel yr arfer drwy...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.