BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1631 canlyniadau

Mae’r Cynllun Grant Tollau wedi’i sefydlu i helpu busnesau i baratoi ar gyfer trefniadau tollau newydd o 1 Ionawr 2021. Mae hyn yn cynnwys cefnogi busnesau sy’n masnachu gyda’r UE i gynnal hyfforddiant i wella eu dealltwriaeth o ofynion tollau a gweithio gyda chyfryngwyr tollau. Mae hefyd yn helpu cyfryngwyr tollau i wella eu gallu i gwblhau datganiadau tollau a chyflymu twf y sector er mwyn ymateb i’r cynnydd mewn galw o 1 Ionawr 2021...
Bydd Innovate UK, sy’n rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £2 filiwn o’r Rhaglen Pecynnu Plastig Cynaliadwy Doeth (SSPP) ar gyfer prosiectau cyfnod cynnar, a gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais. Mae’r her SSPP yn ceisio sefydlu’r DU fel arloeswr blaenllaw mewn pecynnu plastig cynaliadwy ar gyfer cynhyrchion defnyddwyr. Ei nod yw sicrhau twf glanach ledled y gadwyn gyflenwi, gyda gostyngiad sylweddol mewn gwastraff plastig sy’n cyrraedd...
Bydd cyfyngiadau lefel uwch yn dod i rym i reoli cyfraddau’r coronafeirws, sy'n cynyddu’n gyflym ledled Cymru. Cadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd yn cyfateb i’r meini prawf yn y cynllun ‘goleuadau traffig’ newydd Cynllun Rheoli’r Coronafeirws sy’n golygu symud i lefel rhybudd 4. Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i Gymru gyfan: bydd pob busnes manwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos, a...
Mewn ymateb i’r pwysau ar gadwyni cyflenwi lleol a chenedlaethol, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno mesur llacio brys cyfyngedig a dros dro ar orfodi rheolau oriau gyrwyr yr UE yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bydd y llacio dros dro yn para tan 11:59pm ar 30 Rhagfyr 2020. Mae’r llacio yn gymwys i unrhyw un sy’n gyrru o fewn Prydain Fawr o dan reolau oriau gyrwyr yr UE sy’n cludo: Bwy a nwyddau hanfodol eraill o...
Data personol yw unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod person, gan gynnwys enwau, manylion personol, cyfeiriadau IP, neu ddata adnoddau dynol fel manylion cyflogres. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn defnyddio data personol yn eu gweithrediadau dyddiol. Enghraifft o hyn yw cwmni o’r DU sy’n derbyn gwybodaeth am gwsmeriaid gan gwmni o’r UE, fel enwau a chyfeiriadau, er mwyn darparu nwyddau neu wasanaethau. Os ydych chi’n derbyn data personol gan yr UE/AAE, gweithredwch...
Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei ‘nabod yn rhedeg busnes bach ysbrydoledig sy’n addas ar gyfer #TheSmallAwards. Os felly, ewch amdani i gystadlu yn 2021! Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o ymgysylltu cadarn â’r gymuned gan fusnesau bach tra hefyd yn chwilio am berfformiad effeithiol fel busnes parhaus. Dyma’r categorïau: Arwr Stryd Fawr – y busnes stryd fawr gorau Gwobr ‘Bricks and Clicks’ – busnes bach amlsianel gorau Gwobr Etifeddiaeth – y...
Wrth iddi brysuro ar fusnesau wrth i’r gwyliau agosáu, mae’n rhaid iddyn nhw i gyd gael mesurau ar waith i ddiogelu gweithwyr, ymwelwyr a chwsmeriaid rhag risg coronafeirws (COVID-19). Gydol mis Rhagfyr, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i gynnal hapwiriadau ac archwiliadau drwy ffonio ac ymweld â busnesau i sicrhau eu bod yn ddiogel o ran COVID. Yn ystod y galwadau a’r ymweliadau, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rhoi...
Trethi a thollau busnesau’r DU: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi sy’n cwmpasu pa drethi a thollau y gallai busnesau’r UE eu talu wrth fasnachu gyda’r DU o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Busnesau o’r UE yn allforio i’r DU: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar gyfer busnesau’r UE i weld beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i allforio i’r DU o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diweddariad i'r Cynllun Rheoli’r Coronafeirws, sy'n adeiladu ar y fframwaith cyfyngiadau ‘goleuadau traffig’ a gyflwynwyd yn wreiddiol ym mis Mai 2020. Mae’r cynllun wedi’i ddiweddaru yn sefydlu pedair lefel rhybudd, sy'n cyd-fynd â'r mesurau y bydd angen iddynt fod ar waith i reoli lledaeniad y feirws yn ystod cyfnod anodd y gaeaf ac i ddiogelu iechyd pobl. Mae’r cynllun yn esbonio hefyd sut a phryd y bydd Cymru’n symud rhwng...
Mae’r ffordd o hysbysebu cyfleoedd i gyflenwi’r sector cyhoeddus yn y DU ar fin newydd. O 23:00 ar 31 Rhagfyr 2020, bydd gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar gyfleoedd am gontractau sector cyhoeddus yn y DU, ar y gwasanaeth Find a Tender (FTS) newydd: Mae FTS am ddim i’w ddefnyddio ac yn disodli swyddogaeth Tenders Electronic Daily, Cyfnodolyn Swyddogol yr UE (OJEU/TED) ar gyfer caffael yn y DU. Bydd FTS yn gweithio law yn llaw...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.