BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1721 canlyniadau

Gyda dim ond wythnos ar ôl cyn dyddiad cau Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 am ganol dydd ar 13 Tachwedd, peidiwch â cholli’r cyfle i ymgeisio ac ymfalchïo yn eich llwyddiant! Mae’r Gwobrau’n ddathliad o fusnesau Cymru sydd wedi ymrwymo i gefnogi eu gweithlu drwy brentisiaethau. Mae’r cynnig cyfle ardderchog i’r rhai sydd ar y rhestr fer a’r enillwyr dynnu sylw at eu cyfraniad at brentisiaethau mewn amrywiol gyhoeddiadau ac ar-lein. Cyflwynwch eich cais nawr! Am...
Cael mynediad at gymorth am ddim gan arbenigwyr a helpu’ch busnes i ddod dros effaith y Coronafeirws. Mae’r Sector Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes ac Enterprise Nation, gyda chefnogaeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, wedi cydweithio i gynnig cyngor am ddim i fusnesau bach a chanolig i’w helpu i ddod dros effaith y Coronafeirws. Bydd y cynnig ar gael tan 31 Rhagfyr 2020. Mae cyrff proffesiynol a chymdeithasau masnach yn trefnu arbenigwyr yn eu...
O 6 Ebrill 2021, mae newidiadau pwysig i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres. Mae CThEM wedi cyhoeddi canllawiau cymorth i helpu’ch busnes i baratoi. Mae angen i chi baratoi ar gyfer y newidiadau os ydych chi’n: Sefydliad canolig neu fawr o du allan i’r sector cyhoeddus sy’n defnyddio contractwyr sy’n gweithio drwy eu cyfryngwr eu hunain Asiantaeth gyflogaeth sy’n cyflenwi contractwyr sy’n gweithio drwy eu cyfryngwr eu hunain Awdurdod cyhoeddus – bydd newidiadau ychwanegol...
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn ar Orchymyn Cymru Amaethyddol 2021. Mae hyn yn cynnwys: strwythur gradd cyflog o'r newydd cyfraddau a lwfansau isafswm cyflog diweddariadau i ddiffiniadau o lwfansau a gweithwyr amaethyddol myfyrwyr Cyflwynwch eich sylwadau yma erbyn 20 Tachwedd 2020
Mae busnesau ar hyd a lled y DU yn cael cymorth ariannol ychwanegol fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer cam nesaf ei hymateb i bandemig y coronafeirws. Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws - a elwir hefyd yn y cynllun Ffyrlo - yn parhau ar agor tan fis Mawrth 2021, a bydd gweithwyr cyflogedig yn derbyn 80% o’u cyflog cyfredol am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at...
O 1 Ionawr 2021, bydd gan y DU gyfrifoldeb llwyr am ddyfodol moroedd a diwydiant pysgota’r DU ac mae angen i fusnesau fod yn barod am newid. Mae’r Sefydliad Rheoli Morol (MMO) yn cefnogi busnesau i baratoi nawr drwy lunio cyfres o ganllawiau i gyfeirio at y camau y gallai pysgotwyr masnachol ac allforwyr bwyd môr fod angen eu cymryd i ddal ati i fasnachu. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau am ddim, digidol a rhyngweithiol dros un wythnos, lle gall unrhyw un sy'n angerddol am newid yn yr hinsawdd ymuno â sgyrsiau gyda llunwyr polisi cenedlaethol a byd-eang, ymgyrchwyr ac arloeswyr ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Drwy gydol yr wythnos, bydd y sesiynau'n ymdrin â materion sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth, pobl ifanc, ysbytai ac ysgolion, yn ogystal â ffasiwn, busnesau, symudedd...
Mae Acas yn darparu canllaw i gyflogwyr, gweithwyr a chynrychiolwyr sy’n ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion cyflogaeth o bopeth fel cymryd gwyliau a deall hawliau rhieni i fynd i’r afael â gwahaniaethu a delio â sefyllfaoedd diswyddiadau. Hefyd, mae’n cynnig templedi defnyddiol ar gyfer llythyrau, ffurflenni a rhestrau cyfeirio at gyfer eich busnes. Mae’r canllaw ar gael i’w lawrlwytho, ei ddefnyddio a’i rannu yn rhad ac am ddim. I gael rhagor o wybodaeth ewch...
Bydd pobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu am hyd at 14 diwrnod yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Bydd modd i bobl sydd ar incwm isel wneud cais am daliad o £500 os ydynt wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn gofyn iddynt hunanynysu oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif. Yn ogystal, mae taliad ychwanegol...
Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys i hawlio’r *Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a beth sydd angen i chi ei wneud i’w hawlio rhwng 15 Chwefror 2021 a 31 Mawrth 2021. Edrychwch: pwy all hawlio y gweithwyr y gallwch chi hawlio amdanynt y trothwy isafswm incwm sut i baratoi ar gyfer hawlio cysylltu â CThEM Os yw CThEM yn dal i wirio eich ceisiadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.