BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1731 canlyniadau

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a Chonsortiwm Manwerthu Cymru wedi lansio Pecyn Adnoddau Cadernid Seiber ar gyfer Manwerthu, sef canllawiau i’w rhoi ar waith sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer arbenigwyr mewn meysydd ar wahân i seiber, fel aelodau Bwrdd, y rhai sydd mewn swyddi strategol, a busnesau newydd. Mae’n tynnu sylw at y bygythiadau sy’n wynebu manwerthwyr, cwestiynau allweddol i’w hystyried wrth ddatblygu strategaethau cadernid seiber a chanllawiau ar y mathau o fesurau diogelwch y...
Bydd busnesau a ohiriodd eu taliadau TAW a oedd yn ddyledus rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 yn cael cyfle i dalu symiau llai dros gyfnod hirach. Yn hytrach na thalu’r swm llawn erbyn diwedd mis Mawrth 2021, gallwch dalu symiau llai hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022, yn ddi-log. Bydd angen i chi optio i mewn i’r cynllun, ac os ydych chi’n gwneud hynny, ni fydd angen i chi dalu’r symiau TAW llawn...
Mae ceisiadau Grantiau Datblygu Busnes cam 3 y Gronfa Cadernid Economaidd bellach ar agor. Bwriad y gronfa hon yw cefnogi busnesau Cymru gyda phrosiectau datblygu er mwyn helpu i adfer o effeithiau pandemig Covid-19 a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Rydym yn disgwyl cefnogi prosiectau a fydd yn helpu i wella sut mae cwmnïau’n gweithredu ac yn adfer o’u hamgylchiadau presennol. Yn arbennig, rydym yn croesawu prosiectau datblygu a fydd yn helpu i gynnal a chreu swyddi...
Gan ein bod i gyd yn dilyn canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol ar hyn o bryd oherwydd y coronafeirws, efallai na fydd busnesau'n gallu cynllunio fel y gaeaf diwethaf ond gall meddwl ymlaen llaw a pharatoi ar gyfer yr hyn a allai ddod yn sgil y tywydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gall pob busnes gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn barod am dywydd gwael. Er enghraifft: cofrestru i gael rhybuddion o lifogydd...
Ymddiriedolwyr yw’r bobl sy’n gyfrifol am elusennau. Maen nhw’n chwarae rôl allweddol, yn gwirfoddoli eu hamser ac yn gweithio gyda’i gilydd i wneud penderfyniadau pwysig am waith yr elusen. Mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i arddangos gwaith gwych yr ymddiriedolwyr a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael er mwyn i bobl o bob cefndir gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Bydd Wythnos Ymddiriedolwyr eleni yn cael ei chynnal rhwng 2 Tachwedd ac 6...
Mae economegwyr y Sefydliad Fraser Allander wedi bod yn dadansoddi'r rhagolygon economaidd diweddaraf. Maent yn chwilio am fusnesau sydd â diddordeb i adolygu'r wybodaeth economaidd bresennol am Brifddinas Rhanbarth Caerdydd, ac effaith y pandemig ar fusnesau ledled Caerdydd. Os hoffech wybod mwy am sut mae cyflogaeth wedi newid, effeithiau gweithio gartref, a'r newidiadau posib i'r ffordd y gallai busnesau weithredu yn y dyfodol, ymunwch â'n gweminar am ddim, a fydd yn digwydd ddydd Mawrth, 3...
Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn cau ar 31 Hydref 2020 a bydd angen i chi gyflwyno unrhyw hawliadau terfynol ar neu cyn 30 Tachwedd. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno neu ychwanegu at unrhyw hawliadau ar ôl 30 Tachwedd 2020. O 1 Hydref, mae llywodraeth y DU wedi talu 60% o gyflogau arferol i gyflogwyr hyd at gap o £1,875 y mis am yr oriau nad oedd gweithwyr ar ffyrlo yn eu...
Mae hon yn gronfa sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achosir gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru yn sgil COVID-19. Diben y gronfa yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau sydd wedi’u rhoi ar waith. Bydd y grant yn agored i geisiadau ar 28 Hydref a bydd yn cau am 5pm ar 20 Tachwedd 2020 neu...
O 1 Ionawr 2021, ni fyddwch bellach yn gallu adnewyddu na chofrestru ar gyfer enwau parth .eu: os yw’ch sefydliad, busnes neu fenter wedi’i sefydlu yn y DU ond ddim yn yr UE/Ardal Economaidd Ewropeaidd (AAE) neu os ydych yn byw y tu allan i’r UE/AAE a ddim yn ddinesydd UE/AAE Darllenwch hysbysiad diweddaraf y Comisiwn Ewropeaidd ar enwau parth .eu. Gallwch ddim ond cofrestru neu gadw enwau parth .eu: os ydych chi’n ddinesydd UE/AAE...
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau ar y Busnesau a mangreoedd nad ydynt yn hanfodol y mae'n rhaid eu cau yn ystod cyfnod atal byr. Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â chau busnesau'n unig. Mae hefyd yn nodi at ba ddibenion cyfyngedig y gellir cael mynediad at rai busnesau a mangreoedd sydd wedi cau. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r rhai sy'n gyfrifol am fangreoedd sy'n parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, neu am...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.