BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1741 canlyniadau

Mae CThEM wedi nodi y bydd rhai cwsmeriaid Hunanasesu, a ddewisodd ohirio talu eu Taliad i gyfrif ym mis Gorffennaf 2020 yn sgil COVID-19, yn derbyn datganiad Hunanasesu yn dangos bod taliad yn ddyledus gyda llog. Mae CThEM wedi cadarnhau na fyddant yn codi unrhyw log taliadau hwyr na dirwyon ar y Taliad i Gyfrif a ohiriwyd ym mis Gorffennaf 2020, cyn belled â’i fod yn cael ei dalu yn llawn erbyn 31 Ionawr 2021...
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru ei chanllawiau ar yr hyn sydd angen i weithredwyr cerbydau nwyddau ei wneud i gludo nwyddau ar lorïau yn rhyngwladol o 1 Ionawr 2021, gan gynnwys: Meddu ar y drwydded gweithredwr cywir Cael yr hawlenni cywir Cofrestru trelars eich cerbyd Trelars llwyth anarferol Dogfennau cofrestru cerbydau Gwirio bod HGV yn barod i groesi’r ffin Arddangos sticeri GB Yswiriant cerbyd a threlar Beth ddylech chi ei wneud os yw eich...
Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch i weithwyr sy’n gweithio gartref ag unrhyw weithwyr eraill. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi llunio canllawiau os yw’ch pobl yn gweithio o gartref. Dylech: ddarparu’r cyfarpar sydd eu hangen arnyn nhw, er enghraifft cyfrifiadur, ffôn a chyfleusterau fideo-gynadledda cadw mewn cysylltiad rheolaidd â nhw, gan sicrhau eich bod yn trafod eu llesiant Mae’r canllawiau yn egluro’r mesurau y dylech chi eu rhoi ar waith...
Bydd “cyfnod atal byr” yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru i helpu i ddod ag achosion o’r coronafeirws o dan reolaeth unwaith eto. Golyga hyn y bydd cyfres o fesurau ar waith o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan 12:01am ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Dim mynd allan, heblaw ar gyfer bwyd, addysg, gofal, iechyd neu waith, os na allwch weithio gartref. Dim cwrdd â phobl sydd ddim yn byw gyda chi, dan do...
Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar gyflogwyr i ddefnyddio cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru i ddiogelu gweithwyr sydd mewn perygl o fod yn anghymwys ar gyfer cynlluniau cymorth cyflogau Llywodraeth y DU. Gyda’r cyfnod atal byr yn dechrau ar draws Cymru heno, mae Llywodraeth Cymru yn awr yn camu i’r adwy i ychwanegu £5 miliwn at y gronfa ddewisol o £20 miliwn a ddarperir i awdurdodau lleol i gefnogi busnesau i gadw’r gweithwyr sydd mewn perygl...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mwy o gymorth i fusnesau a gweithwyr oherwydd y pandemig coronafeirws, yn cynnwys: Y Cynllun Cefnogi Swyddi – am ragor o wybodaeth darllenwch y Daflen Ffeithiau Agored ar y Cynllun Swyddi Grant i bobl hunangyflogedig – am ragor o wybodaeth ewch i wefan CThEM Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.
Os ydych chi wedi gofyn i’ch gweithwyr weithio gartref yn sgil COVID-19 yna efallai eu bod wedi gorfod ysgwyddo costau ychwanegol. Os nad ydych chi wedi ad-dalu’ch gweithwyr, gallant hawlio rhyddhad treth ar £6 yr wythnos neu £26 y mis ar gyfer y costau ychwanegol hyn. Os ydyn nhw am hawlio mwy, rhaid iddyn nhw roi tystiolaeth i’r CThEM i gefnogi eu cais. Gallant ddim ond hawlio os ydych chi wedi gofyn iddyn nhw weithio...
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill i amddiffyn iechyd y cyhoedd. Maent yn disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Mae'r rheoliadau'n cynnwys rhestr o fusnesau a gwasanaethau y mae eu hadeiladau yn ddarostyngedig i gyfyngiadau neu gau eu safleoedd. Mae'r rhestr i'w gweld ar dudalen 37 o'r rheoliadau. Busnesau a mangreoedd nad ydynt yn hanfodol y mae'n rhaid eu cau o 6pm ar 23 Hydref 2020...
Newidiadau i ymarfer cyfreithiol o 1 Ionawr 2021 ymlaen – canllawiau ar gyfer gweithwyr cyfreithiol proffesiynol: Mae canllawiau ar gyfer gweithwyr cyfreithiol proffesiynol ar sut y bydd meysydd amrywiol o ymarfer cyfreithiol yn newid o 1 Ionawr 2021 ymlaen wedi’u cyhoeddi yma. Lansio cronfa hyfforddiant i helpu milfeddygon i baratoi ar gyfer 1 Ionawr 2021: Nod y gronfa hyfforddiant ar gyfer milfeddygon yw hybu gallu ardystio ar gyfer allforion i’r UE ar ddiwedd y cyfnod...
Cafodd y Diwrnod Mentora Cenedlaethol ei sefydlu er mwyn cydnabod manteision sylweddol mentora ar draws y DU ac mae’n cael ei gynnal ar 27 Hydref bob blwyddyn. Mae mentora yn golygu bod un person yn rhoi cymorth i’r llall, a gall wneud gwahaniaeth sylweddol i wybodaeth, gwaith, a ffordd o feddwl y sawl sy’n cael ei fentora. Mae pawb - unigolion, cwmnïau, ysgolion, cymunedau, prifysgolion a llywodraethau, yn cael eu hannog i rannu eu straeon...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.