BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

191 canlyniadau

Cydweithio er mwyn sicrhau swyddi gwell, gwell gwasanaethau iechyd a gofal, amgylchedd mwy gwyrdd ac economi fwy ffyniannus, dyna'r genhadaeth sydd wrth wraidd y strategaeth arloesi newydd i Gymru, sy'n cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru: Strategaeth arloesi newydd yn nodi dyhead i Gymru fod yn genedl flaengar ac arloesol. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod technolegau newydd arloesol yn cael eu datblygu er mwyn helpu i ddatrys yr heriau mwyaf sy'n wynebu...
Mae Innovate UK yn cynnig cyfran o hyd at £20 miliwn mewn grantiau i fusnesau bach a micro sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Yn ogystal â'r cymorth grant, cewch gynnig cymorth busnes teilwredig a gyflwynir gan Innovate UK EDGE. Nod y gystadleuaeth hon yw darparu pecyn o gefnogaeth dargedig i alluogi busnesau micro a bach uchelgeisiol sydd wedi’u cofrestru yn y DU mewn technolegau trawsnewidiol i gyrraedd eu potensial. Rhaid i'ch arloesedd arwain at...
Mae 4.5 miliwn tunnell o fwyd bwytadwy yn cael ei daflu bob blwyddyn gan aelwydydd yn y DU. Yn syfrdanol, mae 25% o'r bwyd hwn sy'n cael ei wastraffu yn digwydd oherwydd coginio, paratoi neu weini gormod - mae hyn yn costio £3.5 biliwn i aelwydydd y DU bob blwyddyn. Dyna pam y mae Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn neilltuo wythnos gyfan o weithredu i amlygu sut y gall ymddygiadau syml i leihau gwastraff bwyd...
Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw'r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (cymedr neu canolrif) dynion a menywod ar draws gweithlu. O 2017 ymlaen, os ydych chi'n gyflogwr sydd â 250 neu fwy o bobl ar eich 'dyddiad cipolwg' rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau ar adrodd bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae cyfrifiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi’u seilio ar ddata cyflogres cyflogwyr a dynnwyd o ddyddiad penodol bob blwyddyn. Enw'r dyddiad penodol hwn...
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cynnig amrywiaeth eang o gyhoeddiadau sy'n cynnwys cyngor ac arweiniad i gyflogwyr, gweithwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol. Fel pob cyhoeddiad gan HSE, mae'r taflenni canllaw iechyd a diogelwch ar gael i'w lawrlwytho ar wefan HSE. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol HSE Publications - free leaflets to download
Cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 y DU yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â newidiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mewn ymateb i dân Tŵr Grenfell, roedd ein Papur Gwyn ar Adeiladau mwy diogel yng Nghymru yn nodi cynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth yn gynhwysfawr er mwyn gwella diogelwch yr holl adeiladau preswyl aml-feddiannaeth yng Nghymru (y rheini sy’n cynnwys dwy set neu ragor o anheddau domestig), o’r cam dylunio...
Cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig y bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £22.9 miliwn ar gael i ffermwyr Cymru dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn eu cefnogi wrth iddynt baratoi at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i fusnesau, yn gwella cadernid, yn sicrhau cyfleoedd i fanteisio ar y datblygiadau arloesol diweddaraf yn ogystal â helpu i ddatblygu busnesau ffermio. Trwy gynnig cyngor a chymorth, mae...
Mae Cyllid a Thollau EF yn atgoffa busnesau sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW i ffeilio eu ffurflenni a thalu ar amser, cyn i gosbau newydd gael eu cymhwyso. Mae disgwyl i'r ffurflenni misol cyntaf a'r taliadau sy'n cael eu heffeithio gan y cosbau gael eu cyhoeddi erbyn 7 Mawrth 2023. Cyflwynwyd y cosbau talu hwyr a'r cosbau cyflwyno hwyr ar sail pwyntiau o 1 Ionawr 2023, gan ddisodli'r gordal diofyn TAW, ac maent yn...
Cynhelir cynadleddau Archwilio Allforio Cymru ddydd Iau 9 Mawrth 2023 yn Stadiwm Dinas Caerdydd a dydd Iau 16 Mawrth 2023 yng Ngwesty’r Village St David's, Glannau Dyfrdwy. Byddant yn cynnwys sesiynau un-i-un gyda chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor, seminarau ar allforio, arddangosfeydd, a pharth allforio penodedig gan Lywodraeth Cymru, lle gall busnesau archwilio ein hoffer digidol a chwrdd â'n Cynghorwyr Masnach Ryngwladol. Os yw eich busnes yn allforio ar hyn o bryd neu'n ystyried mentro i...
Mae Amazon, WRAP ac EIT Climate-KIC, sef prif ganolfan arloesi hinsawdd Ewrop wedi ymuno i gefnogi entrepreneuriaid gyda chynhyrchion defnyddwyr cynaliadwy a thechnolegau ailgylchu. Mae'r Cyflymydd Cynaliadwyedd yn agored i fusnesau newydd sy'n creu cynhyrchion defnyddwyr mwy cynaliadwy ac, am y tro cyntaf, y rheiny sy'n datblygu technoleg a all helpu'r diwydiant i ailgylchu cynhyrchion yn fwy effeithiol ac effeithlon. Mae'r rhaglen nawr yn derbyn ceisiadau gan fusnesau newydd cyfnod cynnar yn Ewrop. Y dyddiad...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.