BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

201 canlyniadau

Darganfyddwch fwy am ddulliau y mae twyllwyr yn eu defnyddio i geisio cael eich gwybodaeth bersonol drwy wylio enghreifftiau o sgamiau a amlygwyd gan CThEF. Weithiau, bydd CThEF yn cysylltu â chwsmeriaid dros y ffôn, drwy e-bost, llythyr ac weithiau'n defnyddio cwmnïau ymchwil i gysylltu â chwsmeriaid. Os nad ydych yn siŵr bod y cyswllt yn ddilys, yna edrychwch ar y canllaw wedi'i ddiweddaru ar enghreifftiau o negeseuon e-bost gwe-rwydo, galwadau ffôn a negeseuon testun...
Mae cynllun newydd yn anelu at helpu mwy na 10,500 o bobl, sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau neu alcohol neu sydd â salwch meddwl, i gael addysg, hyfforddiant neu waith. Cafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen, sef yr unig wasanaeth o’i fath yng Nghymru, yn helpu cyfranogwyr i feithrin eu hyder drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a’u cefnogi i gael mynediad at hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad gwaith neu waith gwirfoddoli. Caiff cyfranogwyr eu...
Bydd Skills Cymru, y digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau i Gymru, yn cael ei gynnal yn Llandudno a Chaerdydd ym mis Hydref eleni. Mae’r digwyddiad hynod ryngweithiol hwn yn croesawu hyd at 10,000 o ymwelwyr, gan ddarparu amrywiaeth eang iawn o gyfleoedd iddyn nhw yn ogystal â’r llwybrau i’w dilyn i’w cyflawni. Bob blwyddyn, bydd dros 100 o gwmnïau a sefydliadau’n mwynhau cwrdd â’r genhedlaeth nesaf o arweinyddion a gweithwyr yng Nghymru a dylanwadu arnyn nhw...
Mae pecyn cymorth i fusnesau arfordirol yng Nghymru wedi cael ei gynllunio i helpu busnesau i farchnata eu cynnyrch a’u gwasanaethau drwy ddefnyddio atyniad y Llwybr a sut y gall fod o fudd iddyn nhw. Mae’r adnodd ar-lein hawdd ei ddefnyddio, rhad ac am ddim hwn yn rhoi mynediad i fusnesau at ystod eang o ddeunyddiau a gwybodaeth mewn un man - yn cynnwys logos, eitemau newyddion, posteri a fideos i’w defnyddio wrth farchnata a...
O 2025, bydd llinellau ffôn ISDN (rhwydwaith digidol gwasanaethau integredig) a PSTN (rhwydwaith cyfnewidfeydd ffôn cyhoeddus) yn cael eu diffodd yn barhaol ac mae hyn yn berthnasol i gwsmeriaid busnes a chartref. Mae angen i chi ddechrau cynllunio eich symudiad heddiw oherwydd gallai fod llawer i'w wneud. Cofiwch, nid yw'n ymwneud â'ch gwasanaethau ffôn yn unig, mae angen i chi adolygu popeth rydych chi'n ei gysylltu â'ch llinellau ffôn, fel larymau, peiriannau EPOS, systemau mynediad...
Llywodraeth y DU yn lansio cystadleuaeth i fusnesau gynnig am gyfran o £1 filiwn i ysgogi arloesi ym maes Iechyd Galwedigaethol. Bydd cynigwyr llwyddiannus yn cael hyd at £100,000 i gefnogi eu prosiectau o 19 Mai 2023 ymlaen, gan fod Llywodraeth y DU yn chwilio am atebion arloesol i yrru mynediad gwell at wasanaethau Iechyd Galwedigaethol i BBaCh a phobl hunangyflogedig. Caiff ymgeiswyr eu hannog i ddangos sut byddent yn cyflwyno gwelliannau i iechyd galwedigaethol...
Â’r haf yn prysur nesáu a’r cynnydd mewn gwaith tymhorol yn sgil hynny, mae gweithwyr mor debygol o gael damwain yn ystod y chwe mis cyntaf mewn gweithle ag y maen nhw yn ystod gweddill eu bywyd gwaith. Mae’r risg ychwanegol yn digwydd oherwydd y canlynol: diffyg profiad o weithio mewn diwydiant neu weithle newydd ddim yn gyfarwydd â'r swydd a’r amgylchedd gwaith amharodrwydd i fynegi pryderon (neu ddim yn gwybod sut i wneud hynny)...
Bydd mwy o blant dwy oed ledled Cymru yn cael manteisio ar ofal blant a ariennir diolch i fuddsoddiad pellach o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid ychwanegol yn rhan o gynllun gam wrth gam i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais benodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae hwn yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Bydd y buddsoddiad newydd yn...
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd rhwng 5 a 12 Awst 2023. Er mai cystadlu yw calon yr ŵyl, a’i bod yn denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, mae'r Maes ei hun wedi tyfu a datblygu'n ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu cyfan. Mae'r Brifwyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, felly bachwch ar y cyfle hwn i hyrwyddo'ch busnes...
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt. Mae rhifyn mis Chwefror o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol: rhoi gwybod am gyflogau cynnar newidiadau i Offer TWE Sylfaenol a Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE trothwyon benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig o fis Ebrill 2023 ymlaen sut i helpu cyflogeion gyda rhyddhad treth incwm...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.