BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1881 canlyniadau

Byddwch yn wyliadwrus rhag sgamiau, sy’n dynwared negeseuon Llywodraeth y DU fel ffordd o ymddangos yn ddilys ac yn ddi-fygythiad. Chwiliwch am ‘sgamiau’ / ‘scams’ ar GOV.UK am wybodaeth am sut i gydnabod deunydd go iawn gan CThEM. Gallwch hefyd anfon negeseuon e-bost amheus sy’n honni eu bod gan CThEM at phishing@hmrc.gov.uk a tecsts i 60599. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i ailagor. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn cynnwys: Busnesau twristiaeth a lletygarwch: canllawiau i ailagor yn raddol Canllawiau ar yr economi ymwelwyr: Rhestr wirio i fusnesau twristiaeth a lletygarwch Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin Canllawiau cadw pellter cymdeithasol y coronafeirws (COVID-19) i bawb yng Nghymru Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i ailddechrau eich busnes yn ddiogel, mae gan...
Mae’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear - gan gynnwys Sellafield Ltd a Magnox Ltd - wedi cydweithio ag Innovate UK i alw ar gwmnïau i feddwl am syniadau newydd a dulliau arloesol o fynd i’r afael â’r her. Mae roboteg, synwyryddion, deallusrwydd artiffisial a systemau awtonomaidd ond yn rhai o’r technolegau posibl y gellid eu defnyddio ar gyfer y gystadleuaeth Didoli a Gwahanu Gwastraff Niwclear. Mae ar agor i unrhyw sefydliad sydd â diddordeb - does dim...
Bydd pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do a chanolfannau hamdden yn gallu ailagor o ddydd Llun 10 Awst 2020. Bydd ardaloedd chwarae dan do i blant hefyd yn gallu agor eu drysau unwaith eto fel rhan o’r newidiadau diweddaraf i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru. Fodd bynnag, dylai ardaloedd megis pyllau peli nad oes modd eu glanhau yn hawdd barhau ar gau. Dan gyfraith Cymru, mae’n ofynnol bod mesurau yn cael eu cymryd i leihau’r risg...
Mae'r Cynllun Aer Glân yn nodi ystod o gamau gweithredu i'w cyflawni gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid i wella ansawdd aer y genedl. Bydd y mesurau a amlinellir yn y Cynllun yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau presennol i leihau'r llygredd aer y mae'r cyhoedd yn dod i gysylltiad ag ef. Bydd y camau hyn yn lleihau llygredd aer, risgiau iechyd ac anghydraddoldebau er mwyn gwella iechyd y cyhoedd. Mae rhai o'r mesurau yn...
Mae’r Rhwydwaith Ymateb Busnes Cenedlaethol yn nodi anghenion cenedlaethol a lleol gan grwpiau cymunedol, ysgolion, awdurdodau lleol, cyrff cydnerthedd lleol, elusennau a chynghreiriau. Yna, mae’r rhwydwaith yn cysylltu adnoddau busnes i ddiwallu’r anghenion canlynol: Bwyd Technoleg Gofal cymdeithasol Busnesau bach Mae’r adnoddau busnes a fydd yn cyfateb i’r anghenion cymunedol yn cynnwys: Cymorth proffesiynol Adnoddau benthyg/rhoi Logisteg Gall sefydliadau cymunedol sydd angen cymorth gofnodi eu ceisiadau: Drwy ffonio’r llinell gymorth 24 awr ar 0141 285...
Os ydych chi’n gweithgynhyrchu, yn cynllunio neu’n datblygu cynhyrchion yng Nghymru, yna beth am gymryd rhan yn Gwnaed yng Nghymru 2020? Mae’r Gwobrau yn dathlu’r cynhyrchion, yr arloesedd a’r syniadau gwych sydd gan gwmnïau o bob math ledled Cymru. Dyma’r categorïau ar gyfer 2020: gwobr technoleg / peirianneg ddigidol gwobr arloesi mewn gweithgynhyrchu gwobr allforio gwobr bwyd a diod gwobr gweithgynhyrchu cynaliadwy / moesegol gwobr prentisiaeth / cynllun hyfforddiant gweithgynhyrchu prentis y flwyddyn gwobr ym...
Mae Her Ffotograff Haf y PopUp Business School ar gyfer unrhyw un sy’n rhedeg busnes, sy’n hunangyflogedig, neu sydd â syniad newydd ar gyfer busnes. Cymerwch ran i gael cyfle i ennill taleb Amazon gwerth £200 neu un o’r talebau gwerth £50 i’r ail orau. I roi cynnig arni, tynnwch un llun sy’n dangos rhan o’r hyn rydych chi’n ei wneud, neu am ei wneud, ar gyfer eich busnes yr haf hwn. Does dim ots...
Hoffai llywodraeth San Steffan newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod cynhyrchion ‘clyfar’ – fel setiau teledu, camerâu ac offer cartref sy’n cysylltu â’r we – yn fwy diogel a saffach i bobl eu defnyddio, a chael eich barn ar y mater. Croesewir syniadau gan rai â buddiant a diddordeb yn y mater, gan gynnwys sefydliadau unigol a gaiff eu heffeithio gan y rheoliad arfaethedig, cymdeithasau masnach, grwpiau defnyddwyr ac arbenigwyr seiberddiogelwch. Ymatebwch erbyn 6...
Mae gwisgo laniard neu fathodyn gyda’r logo Iaith Gwaith yn ffordd wych o hysbysu cwsmeriaid dy fod ti a/neu dy staff yn siarad neu’n dysgu Cymraeg. I dderbyn nwyddau ‘Iaith Gwaith’ am ddim, yr oll sydd angen ei wneud yw: Mewngofnodi neu greu cyfrif ar wefan Helo Blod drwy gofrestru gyda SOC yma Dewis ‘Cais Newydd’ o fewn dy gyfrif Helo Blod a Fi Dewis ‘Mae gen i gwestiwn/ymholiad’ ac yna dilyn y cyfarwyddiadau A...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.