BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1891 canlyniadau

Mae BT wedi lansio ‘Small Business Support Scheme’, sy’n cyflwyno pob math o fesurau newydd i helpu busnesau bach gan gynnwys: hybu cysylltedd – cyllido cysylltiadau busnes cyflym iawn, bwrsarïau ar gyfer busnesau newydd y DU, helpu busnesau bach i droi’n fusnesau dim arian parod llif arian gwell – taliadau prydlon i gyflenwyr busnesau bach BT, hyblygrwydd ariannol i’r rhai sydd wedi’u taro waethaf magu hyder – mentora, cael gafael ar hysbysebion digidol a’r cyfryngau...
Mae’r Swyddfa Symleiddio Treth (OTS) wedi cyhoeddi arolwg ar-lein a galwad am dystiolaeth i geisio barn ar y Dreth ar Enillion. Mae’r OTS am glywed gan unigolion a busnesau ynghyd â chynghorwyr proffesiynol a chyrff cynrychiadol ynghylch pa agweddau ar y dreth ar enillion cyfalaf sy’n arbennig o gymhleth ac yn anodd ei chael yn iawn, a chlywed unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Daw’r alwad am dystiolaeth mewn dwy ran: mae’r gyntaf yn ceisio sylwadau...
Ym mis Ebrill, ataliwyd y Cynnig Gofal Plant dros dro er mwyn gallu canolbwyntio adnoddau ar anghenion gofal plant gweithwyr hanfodol a phlant a oedd yn agored i niwed drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws. Wrth i Gymru gymryd camau i lacio’r cyfyngiadau ymhellach, ac wrth i ysgolion baratoi i ailgydio o fis Medi, bydd y Cynnig yn dechrau derbyn ceisiadau o’r newydd, gan alluogi teuluoedd i fanteisio ar y gofal plant. Bydd modd...
Gall cyflogwyr hawlio’r Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws i bob gweithiwr cymwys sydd wedi bod ar ffyrlo. Bydd busnesau yn derbyn taliad unigol o £1,000 am bob gweithiwr sydd wedi bod ar ffyrlo yn flaenorol os ydyn nhw’n dal i gael eu cyflogi ar ddiwedd mis Ionawr 2021. Mae rhagor o fanylion am y Bonws ar gael yma, byddwn yn cyhoeddi canllawiau llawn ym mis Medi 2020.
Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn annog modurwyr y mae eu MOT yn dod i ben yn ystod yr hydref i drefnu MOT ar eu cerbydau cyn gynted â phosib cyn y rhuthr disgwyliedig am brofion. Cafodd ceir, beiciau modur a faniau ysgafn gyda’u MOT yn dod i ben rhwng 30 Mawrth a 31 Gorffennaf 2020 estyniad o 6 mis i helpu i gadw modurwyr ar y lôn yn ystod y pandemig coronafeirws...
Fel arfer, mae gan weithwyr gyda mwy na 2 flynedd o wasanaeth parhaus sy’n colli eu gwaith hawl i daliad colli swydd statudol sy’n seiliedig ar hyd gwasanaeth, oedran a chyflog, hyd at uchafswm statudol. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth o ddydd Gwener 31 Gorffennaf a fydd yn: sicrhau bod gweithwyr ar ffyrlo yn derbyn tâl colli swydd statudol ar sail eu cyflogau arferol, yn hytrach na chyfradd ffyrlo ostyngedig golygu nad yw’r...
I ddiwallu anghenion elusennau bach a lleol a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi, ar 3 Awst 2020, bydd Lloyds Bank Foundation for England and Wales yn agor cyllid newydd ar gyfer COVID-19 i gefnogi elusennau i adfer y tu hwnt i’r argyfwng sydd ohoni. Bydd y Gronfa Adfer COVID yn cynnig grant anghyfyngedig dwy flynedd o £50,000 i elusennau law yn llaw â chefnogaeth Partner Datblygu i helpu elusennau i nodi a gweithredu ar unrhyw...
Os yw’ch busnes yn cwblhau datganiadau tollau, gallwch wneud cais am grantiau i gael cyllid ar gyfer recriwtio, hyfforddiant a gwelliannau TG. Rhagor o wybodaeth isod: pwy all wneud cais ar gyfer beth mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r grantiau symiau'r cyllid sydd ar gael beth fyddwch chi ei angen sut mae gwneud cais ar ôl i chi wneud cais sut i drin y grantiau ar gyfer trethi Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae CThEM yn cynnal gweminarau am ddim ar y cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’, a bydd y gweminarau yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: trosolwg o'r cynllun sut mae'r cynllun yn gweithio sefydliadau cymwys cofrestru a gwneud hawliad beth sy'n digwydd ar ôl i chi hawlio Mae nifer o ddyddiadau ac amseroedd i ddewis ohonynt, archebwch eich lle yma. Mae CThEM hefyd wedi cynhyrchu posteri, delweddau a deunyddiau hyrwyddo eraill i'w defnyddio gan sefydliadau sy'n...
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi datgan y newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru gan ei gwneud yn haws i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod yn yr awyr agored. O ddydd Llun 3 Awst 2020 ymlaen, bydd hyd at 30 o bobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored ac ni fydd plant dan 11 oed yn gorfod cadw 2m o bellter oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion mwyach, yn unol â’r dystiolaeth wyddonol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.