BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1911 canlyniadau

Ar 31 Rhagfyr 2020 bydd cyfnod pontio’r DU gyda’r UE yn dod i ben a bydd y DU yn gweithredu ffiniau llawn, allanol fel cenedl sofran. Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar Strategaeth Ffiniau 2025 y DU ac mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar sut y gall systemau digidol newydd wella profiad masnachwyr a theithwyr a gwneud y DU yn lle mwy diogel. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Awst...
Mae Gwobrau'r Frenhines am Fenter yn cael eu rhoi am gyflawniad rhagorol busnesau'r DU yn y categorïau hyn: arloesi masnach ryngwladol datblygu cynaliadwy hybu cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol Beth fydd yn digwydd os bydd eich cwmni’n ennill Os byddwch yn ennill, byddwch yn: cael eich gwahodd i'r derbyniad Brenhinol derbyn y wobr, a fydd yn cael ei chyflwyno gan un o gynrychiolwyr y Frenhines sy’n Arglwydd Raglaw, yn eich cwmni cael hedfan baner Gwobrau'r Frenhines...
Bydd modd i lety gwyliau sydd â chyfleusterau a rennir, megis meysydd pebyll, ailagor o ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf 2020 ymlaen, ynghyd ag atyniadau tanddaearol. Dyma nodi carreg filltir bwysig gan y bydd atyniadau Cymru i ymwelwyr yn ailagor yn llawn. Hefyd, bydd rheolau newydd sy’n ei gwneud yn orfodol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, yn dod i rym ddydd Llun 27 Gorffennaf 2020. Dyma’r cam diweddaraf yn y...
Mae grantiau ymateb ac ail-ddychmygu’n cynnig cyllid o rhwng £10,000 a £50,000, gan ddarparu cyllid i helpu amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol ymateb i heriau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â’r argyfwng Covid-19 a chynnig cymorth i addasu ac ail-ddychmygu ffyrdd o weithio yn y tymor hirach. Croesewir ceisiadau gan amgueddfeydd cyhoeddus, orielau, tai hanesyddol, llyfrgelloedd ac archifau yn y DU sydd â: gofodau i’r cyhoedd ymweld â nhw fel arfer a phrofi’r celfyddydau gweledol neu gasgliadau...
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn cyflwyno’r newidiadau dros dro canlynol i ffioedd o 30 Gorffennaf 2020 tan 31 Mawrth 2021 mewn perthynas â phatentau, nodau masnach a dyluniadau cofrestredig: bydd ffioedd am estyniadau amser yn sero ni chodir tâl ychwanegol am dalu ffi ymgeisio am batent ar ôl dyddiad cyflwyno’r cais bydd ffioedd i wneud cais am ailsefydlu ac adfer yn sero o ran patentau a dyluniadau, ni chodir tâl ychwanegol am dalu ffi adnewyddu...
Mae Innovate UK wedi cyhoeddi ton newydd o’r Gwobrau Merched sy’n Arloesi i ganfod a chefnogi’r arloeswyr benywaidd mwyaf addawol yn y DU i ddatblygu eu syniadau a mynd a’u busnesau o nerth i nerth. Mae Innovate UK a’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth yn cynnal digwyddiad briffio a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am gwmpas y gystadleuaeth a’r broses ymgeisio, ynghyd â chynnig y cyfle i rwydweithio â Merched eraill sy’n Arloesi a chael y...
Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar fesurau newydd i ddiogelu masnach fewnol yn y DU pan fydd pwerau’n dychwelyd o’r UE ym mis Ionawr 2021. Nod y cynigion yw sicrhau y gall y datganoli barhau i weithio i bawb; bod pob maes polisi datganoledig yn parhau yn ddatganoledig, gan gynnal sicrwydd ar gyfer busnesau drwy sicrhau bod rheolau a safonau ledled y DU yn cael eu cydnabod gan bawb, er mwyn sicrhau bod masnachu...
Mae gweminar wedi’i recordio gan CThEM ar gael i chi ei gwylio pan yn gyfleus i chi, a fydd yn eich helpu gyda thasgau cyflogres a llenwi ffurflen P11D ar gyfer treuliau a buddion blynyddol. Mae’r weminar yn cynnwys: pa gyflogeion sydd angen ffurflen P11D y ffurflen P11D a phryd i’w chyflwyno treuliau a buddion trethadwy cyfraniadau Yswiriant Gwladol sut i gywiro P11D I wylio’r weminar mae angen i chi gofrestru yma.
Nod yr alwad hon gan y Rhaglen Technoleg Awyrofod Genedlaethol (NSTP) yw datblygu gallu sector awyrofod y DU trwy ddarparu cronfa sbarduno ar gyfer syniadau arloesol cynnar. Mae grantiau hyd at £75,000 ar gael gan Lywodraeth y DU i sector awyrofod y DU ddatblygu technolegau masnachol a’u cyflwyno i’r farchnad. Mae cyllid ar gael gan Asiantaeth Awyrofod y DU ar gyfer busnesau, a sefydliadau dielw ac academaidd. Gofynnir am geisiadau ar gyfer prosiectau ymchwil technoleg...
Porth ar-lein yw Veteran Owned UK ar gyfer dros 1204 o fusnesau. Sefydlwyd y porth gan Gyn-beiriannydd o’r Fyddin Frenhinol Brydeinig er mwyn helpu i gefnogi cyn-filwyr sy’n berchnogion busnes a chynnig aelodaeth ar amrywiol lefelau sy’n addas i bawb. Prif nod y safle yw cefnogi busnesau sy’n eiddo i gyn-filwyr felly gall unrhyw gyn-filwr sy’n berchen busnes gofrestru yn y cyfeiriadur yn rhad ac am ddim. Yn ogystal â’r porth Veterans Owned UK, mae...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.