BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1921 canlyniadau

Mae’r Swyddfa Gartref wedi rhyddhau rhagor o fanylion am system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau’r DU, a ddaw i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae’r datganiad yn cynnwys gwybodaeth am: ofynion y system seiliedig ar bwyntiau trothwyon cyflogau a sgiliau ar gyfer gweithwyr medrus llwybr ar gyfer myfyrwyr a graddedigion pwy all ymgeisio ymweld â’r DU llwybrau mewnfudo eraill Gall dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 ymgeisio i ymgartrefu yn...
Ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a sut gall ffyrlo hyblyg gefnogi eich busnes? Ymunwch yng ngweminar byw CThEM am y wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys: trosolwg o newidiadau i’r cynllun, gan gynnwys sut gallwch ddod â gweithwyr sydd wedi bod ar ffyrlo yn flaenorol yn ôl i’r gwaith i ddiwallu anghenion eich busnes cyflwyniad i ffyrlo hyblyg a sut mae’n gweithio enghraifft o sut...
‘Bydd y GIG yng Nghymru yn brechu oddeutu 1 miliwn o oedolion a phlant ar draws Cymru yn flynyddol, gan gynnwys imiwneiddiadau plentyndod a’r ffliw.’ Eleni, yn sgil y pandemig COVID-19, bydd darparu’r breichiadau hyn yn fwy o her, yn sgil ystod ehangach o grwpiau agored i niwed (cysgodi), mesurau ymbellhau cymdeithasol, rheoli heintiau a chynnwys brechiad COVID-19. Y senario gorau fyddai brechiad COVID-19 yn cael ei ddarparu ar fyrder i nifer fawr o bobl...
Mae cronfa newydd gwerth £4 miliwn wedi cael ei lansio gan Chwaraeon Cymru er mwyn helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad. Bydd y gronfa newydd, ‘Cronfa Cymru Actif’, yn ffynhonnell bwysig o gefnogaeth i warchod clybiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi cael eu taro’n ddrwg gan bandemig Covid-19 a’u helpu i baratoi ar gyfer ailddechrau gweithgareddau yn ddiogel. Mae’r cyfyngiadau symud wedi creu risg ariannol ddifrifol i lawer o glybiau cymunedol yng...
Ar 1 Ionawr 2021 bydd y cyfnod pontio gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, a’r Deyrnas Unedig yn gweithredu ffin allanol, lawn fel cenedl sofran. Mae hyn yn golygu y bydd rheolaethau’n cael eu gosod ar symud nwyddau rhwng Prydain a’r UE. Er mwyn rhoi mwy o amser i’r diwydiant wneud trefniadau angenrheidiol, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu cyflwyno’r rheolaethau ffin newydd mewn tri cham hyd at 1 Gorffennaf 2021. Mae Llywodraeth y...
Mae gan chwarae teg nifer o weminarau i helpu eich busnes gan gynnwys: Hanfodion busnes – dydd Mercher 22 Gorffennaf, 12yp i 1yp – wedi’i gynllunio er mwyn eich helpu i gymryd y camau cyntaf gyda'ch syniad busnes a'i drawsnewid yn rhywbeth y gallech chi ei weithredu, cofrestrwch yma Cefnogi menopos yn y gwaith – dydd Iau 23 Gorffennaf, 1yp i 2yp – ymunwch â Hannah Botes o Chwarae Teg a fydd yn rhannu argymhellion...
Bydd gweminar y National Cyber Security Centre (NCSC) yn darparu trosolwg o’r risgiau seiberddiogelwch y mae busnesau’n eu hwynebu yn ystod ac ar ôl COVID-19, yn ogystal ag edrych ar yr amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael am ddim i fusnesau gan yr NCSC. Cynlluniwyd y weminar ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19 ac sydd â diddordeb mewn datblygu eu busnes ar-lein. Bydd y weminar yn cynnwys deunydd ar: rôl...
Mae’r Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS) wedi’i ddiweddaru gyda nifer o newidiadau yn cynnwys y canlynol: mae SEISS wedi cau ar gyfer y grant cyntaf, ond mae’r cynllun yn eich galluogi i hawlio’r ail a’r grant trethadwy olaf. Gallwch gyflwyno hawliad am yr ail grant os ydych yn gymwys, hyd yn oed os na wnaethoch chi gyflwyno hawliad am y grant cyntaf, rhagor o wybodaeth yma cyhoeddwyd canllawiau newydd sy’n berthnasol os ydych chi...
Mae’r Sector Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes ac Enterprise Nation, gyda chefnogaeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, wedi uno i gynnig cyngor am ddim i fusnesau bach a chanolig i’w helpu i adfer o effaith y Coronafeirws. Mae cyrff proffesiynol a chymdeithasau masnach yn defnyddio arbenigwyr yn eu sector i gynnig galwadau am ddim ar bynciau o gyfrifyddu i hysbysebu, o AD i faterion cyfreithiol. Mae Enterprise Nation yn darparu mynediad am ddim i’r...
Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch), a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn caniatáu lefel uwch o arloesedd busnes yn nhechnolegau gweithgynhyrchu’r dyfodol, gan sbarduno a chefnogi ymchwil, datblygu ac arloesedd blaengar. Os ydych chi’n gwmni gweithgynhyrchu, gallwch chi gael mynediad at arbenigwyr ymchwil Prifysgol sydd â ffocws ar ddiwydiant i gefnogi eich busnes i dyfu allan o’r...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.