BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1971 canlyniadau

Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i ailddechrau eich busnes yn ddiogel, mae gan ‘Diogelu Cymru yn y Gweithle ' ganllawiau, enghreifftiau ac adnoddau manwl i helpu, gan gynnwys: canllawiau'r gweithle – ystod gynhwysfawr o ganllawiau ar gyfer busnesau sy’n gweithredu mewn gwahanol sectorau canllawiau cyfreithiol – mae canllawiau cyfreithiol cyfredol a chymeradwy wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru Pecyn Cymorth – adnoddau ymarferol a fydd yn helpu cyflogwyr i gadw...
Mae Small Business Britain a BT Skills for Tomorrow yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu sgiliau digidol i fusnesau bach ledled y DU. Mae’r digwyddiadau diweddar wedi bod yn anodd i gymaint o fusnesau ac mae’r heriau wedi bod yn rhai caled dros ben. I lwyddo yn y byd newydd, dyw canolbwyntio ar “adfer” ddim yn ddigon ac efallai nad “mynd yn ôl i’r drefn arferol” sydd angen i chi ei wneud. Bydd y gweminar...
Mae ceisiadau ar gyfer rhaglenni twf arloesol Tech Nation ar agor nawr. Y rhaglenni yw: Applied AI 2.0 Fintech 3.0 Net Zero 1.0 Os ydych chi’n gwmni sy’n datblygu technoleg sy’n brwydro yn erbyn carbon, uwchraddio i chwyldroi arian neu’n gwmni deallusrwydd artiffisial sy’n darparu atebion sy’n datrys problemau yn y byd go iawn, mae gan Tech Nation y rhaglen twf perffaith i chi ennill eich lle a gwireddu’ch potensial. Am ragor o wybodaeth, ewch...
Mewnforio anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid a bwyd a phorthiant risg uchel nad ydynt yn deillio o anifeiliaid o wlad y tu allan i’r UE, o 1 Ionawr 2021 Yr hyn sydd angen i fusnesau ei wneud i fewnforio anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid, bwyd a phorthiant risg uchel i’r DU o 1 Ionawr 2021. Rhagor o wybodaeth yma. Mewnforio ac allforio planhigion a chynhyrchion planhigion o 1 Ionawr 2021 Sut mae masnachu mewn planhigion a chynhyrchion planhigion, gan...
Mae cwmni Innovate UK wedi lansio rhaglen newydd dros gyfnod o 3 blynedd ar gyfer Arloeswyr Ifanc o’r enw ‘Ideas Mean Business’. Bydd y rhaglen ar agor i bobl rhwng 18 a 30 oed sy’n meddu ar syniad busnes creadigol ac arloesol er mwyn eu helpu nhw i wireddu eu breuddwyd. Bydd hefyd yn cefnogi hyd at 100 o bobl ifanc dros gyfnod o 3 blynedd, gydag unigolion yn elwa o grant o £5,000, sesiwn...
Bob blwyddyn, mae Acas yn cefnogi miliynau o gyflogwyr a gweithwyr yn y DU i wella cysylltiadau yn y gweithle. Mae’r argyfwng Coronafeirws wedi arwain at sawl her i fusnesau a’u staff. Os ydych chi wedi parhau i weithredu neu wedi gorfod cau yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, bydd gweithio’n effeithiol gyda’ch pobl yn allweddol wrth symud ymlaen. Mae Acas yn cynnal sioeau teithiol rhithwir am ddim a fydd yn rhoi syniadau i gyflogwyr er...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau amrywiol a allai fod yn ddefnyddiol i’ch busnes. Mae’n cynnwys gwybodaeth am: defnyddio cyfarpar diogelu personol a masgiau wyneb yn y gwaith – canllawiau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, gan gynnwys profion maint wyneb a chyngor ar gyfarpar diogelu personol ar gyfer gweithwyr nad ydyn nhw’n weithwyr gofal iechyd rheoleiddio iechyd a diogelwch galwedigaethol – amlinelliad o ddull rheoleiddio’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ystod...
Fel rhan o gefnogaeth Llywodraeth y DU i fusnesau yn ystod COVID-19, rhoddodd CThEM yr opsiwn i fusnesau ohirio eu taliadau TAW os nad oeddent yn gallu talu ar amser, heb orfod talu llog ynghlwm wrth daliadau hwyr neu gosbau. Gellir gohirio talu TAW sy’n ddyledus rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 tan 31 Mawrth 2021. Rhaid i chi barhau i ffeilio’ch ffurflen TAW mewn pryd, hyd yn oed os byddwch yn gohirio’r taliad...
Mae Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Llywodraeth y DU yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i gyflogwyr bach a chanolig. Os ydych chi’n gyflogwr gyda llai na 250 o weithwyr, ac os ydych chi wedi talu Tâl Salwch Statudol i weithwyr am absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth. Gallwch siarad gyda’ch asiant treth ynglŷn âchyflwyno hawliadau ar eich rhan hefyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan...
Mae Salesforce yn gweithio mewn partneriaeth ag Enterprise Nation i gynnig cyfle i fusnesau bach cymwys dderbyn grant o £5,000 i’w helpu drwy’r argyfwng COVID-19. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i gwmnïau: fod wedi cofrestru yn nhŷ’r Cwmnïau fod wedi’u sefydlu ers o leiaf 12 mis fod heb dderbyn unrhyw grant arian arall yn ystod 2020 mewn perthynas â COVID-19 gan unrhyw Lywodraeth fod wedi’u lleoli yn y DU gyda chyfrif banc Prydeinig fod...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.