BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

1981 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau ar gau busnesau ac eiddo yng Nghymru gan fod rhai o'r cyfyngiadau bellach yn cael eu lleddfu. Mae'r canllawiau'n cynnwys: busnesau ac adeiladau y mae'n rhaid iddynt aros ar gau gwaith yn cael ei wneud yng nghartrefi pobl hyd y cau cydymffurfiaeth cefnogaeth ariannol cefnogaeth i fusnesau Sut alla i gael cyngor ar beth alla i ei wneud a beth na alla i ei wneud? Mae Llywodraeth Cymru...
Mae CThEM yn cyhoeddi’r bwletin cyflogwyr chwe gwaith y flwyddyn, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau am bynciau a materion a allai effeithio arnynt. Dim ond ar-lein y mae’r bwletin cyflogwyr ar gael. Gallwch lawrlwytho a darllen y bwletin cyflogwyr ar y sgrin neu ei argraffu. Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysiadau e-bost cyflogwyr CThEM i dderbyn negeseuon e-bost gan CThEM a fydd yn eich hysbys pan fydd y rhifyn nesaf ar gael...
Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn. Mae pedwar prif beth: nid yw busnesau penodol yn cael agor mae’n rhaid i bobl aros yn lleol a pheidio â bod dan do gydag unrhyw un nad yw’n aelod o’r aelwyd os nad oes rheswm da dros wneud hynny mae rheolau wedi’u gwneud am gadw pobl 2 fetr ar wahân os ydynt...
Mae Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation, hyd at £800,000 gan y Gronfa Ymchwil ac Arloesi Plastigion, i fuddsoddi mewn prosiectau busnes sy’n ceisio deall ymddygiad cwsmeriaid a defnyddwyr yn well a defnyddio’r ddealltwriaeth honno i greu cysyniadau cynllunio arloesol. Mae’n rhaid i brosiectau ddatblygu cysyniadau cynllunio nad ydynt yn dibynnu ar blastig defnydd untro gan ddefnyddio ymchwil ymysg defnyddwyr a chwsmeriaid. Gallent ystyried ailgynllunio nwyddau, gwasanaethau neu fodelau busnes presennol neu gynllunio...
Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn dod i ben ar 31 Hydref 2020 ac mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru ei chanllawiau. Yr hyn sydd angen i chi ei wneud o fis Gorffennaf: dechrau rhoi eich gweithwyr ar ffyrlo hyblyg o 1 Gorffennaf ymlaen. Gallwch benderfynu ar yr oriau a’r patrymau shifft y byddan nhw’n gweithio i fodloni anghenion eich busnes - byddwch yn talu eu cyflogau am yr amser y...
Bydd busnesau manwerthu yn cael ailddechrau masnachu os gallant gymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â'r ddyletswydd yng nghyfraith Cymru i gadw pellter cymdeithasol, a hynny er mwyn arafu lledaeniad yr haint a diogelu gweithwyr a chwsmeriaid mewn siopau. Mae'r newidiadau yn rhan o gyfres gynhwysfawr o gamau a fydd yn cael eu cyflwyno gam wrth gam bob dydd Llun. Daw hyn yn sgil pedwerydd adolygiad statudol Gweinidogion Cymru o reoliadau’r coronafeirws, gan ddefnyddio'r dystiolaeth...
Ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws yn caniatáu i chi hawlio grant trethadwy gwerth 80% o’ch elw masnachu misol, i’w dalu mewn un taliad unigol i gwmpasu gwerth 3 mis o elw, wedi’i gapio ar gyfanswm o £7,500. Os ydych chi’n gymwys, mae’n rhaid i chi wneud cais am y grant cyntaf ar neu cyn 13 Gorffennaf 2020. Mae’r cynllun hwn yn cael ei ymestyn, cliciwch yma i...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Profi, Olrhain, Diogelu er mwyn atal lledaeniad yr haint, olrhain y feirws a diogelu ein cymunedau. Mae profi gweithwyr hanfodol yn allweddol i lwyddiant y dull hwn o weithredu ac i barhad busnes er mwyn galluogi gweithwyr hanfodol i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflymach ac yn fwy diogel. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu asedau i’ch helpu i gyfleu’r neges hon i’ch gweithwyr hanfodol. Yn y pecyn cymorth hwn fe welwch...
Bydd Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) yn cynorthwyo cynigion campus sy’n para hyd at 18 mis a fydd yn bodloni o leiaf un o’r canlynol: cynnig ymchwil neu arloesedd newydd gyda llwybr effaith clir sydd â’r potensial (o fewn cyfnod y dyfarniad) i wneud cyfraniad sylweddol at ddeall ac ymateb i’r pandemig Covid-19 a’i effeithiau cynnig sy’n cynorthwyo’r gwaith o weithgynhyrchu a/neu fabwysiadu’n ehangach ymyrraeth sydd â photensial sylweddol cynnig sy’n casglu data...
Mae Diwrnod Aer Glân Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o ymgyrch llygredd aer fwyaf y DU ac ymgyrch codi ymwybyddiaeth o ansawdd aer fwyaf Cymru. Cynhelir Diwrnod Aer Glân fel arfer ar y trydydd dydd Iau ym mis Mehefin. Eleni, yn sgil COVID-19, cynhelir y Diwrnod Aer Glân ar 8 Hydref 2020. Mae sawl ffordd o gymryd rhan a gallwch lawrlwytho adnoddau am ddim ar gyfer eich gweithle, grŵp cymunedol neu ysgol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.