BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2021 canlyniadau

Mae CThEM wedi ymestyn y terfyn amser ar gyfer hysbysu penderfyniad i optio i drethu tir ac adeiladau, i 90 diwrnod o’r dyddiad y penderfynwyd i optio. Mae hyn yn gymwys i benderfyniadau a wnaed rhwng 15 Chwefror a 30 Mehefin 2020. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae gwyliau blynyddol â thâl yn hawl gyfreithiol y mae’n rhaid i gyflogwr ei darparu. Mae gan bob gweithiwr hawl i gael amser i ffwrdd gyda thâl am bob awr maen nhw’n ei weithio, dim ots os ydyn nhw’n gweithio’n rhan amser, yn gweithio shifftiau neu’n gweithio oriau afreolaidd. Pobl sy’n gweithio patrymau gwaith gwahanol, fel gweithwyr asiantaeth neu staff dros dro, yn ogystal â gweithwyr rhan amser neu’r rheini sy’n gweithio shifftiau sydd yn...
Bydd Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2020 yn cydnabod cyflawniadau anhygoel busnesau newydd yn economi Cymru. Categorïau gwobrau 2020 yw: busnes newydd y flwyddyn ym maes gwasanaethau busnes i fusnes busnes newydd y flwyddyn – Caerdydd busnes adeiladu newydd y flwyddyn busnes newydd y flwyddyn ym maes gwasanaethau i ddefnyddwyr busnes creadigol newydd y flwyddyn busnes seiber newydd y flwyddyn busnes digidol newydd y flwyddyn busnes newydd y flwyddyn ym maes gwasanaethau ariannol a phroffesiynol busnes...
Cyngor CThEM i bobl sy’n dewis ildio eu hincwm i gefnogi eu busnes neu roi i elusen yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Yn ystod pandemig COVID-19, mae llawer o bobl yn dewis ildio rhan o’u hincwm i gefnogi eu busnes neu gyflogwyr, neu roi i elusen. Mae CThEM yn awyddus i gefnogi pobl sy’n dewis ildio rhan o’u hincwm, yn enwedig o ran deall unrhyw oblygiadau o ran treth. Am ragor o wybodaeth, ewch...
Bydd Cronfa Arloesi Bwyd Môr y DU sy’n werth £10 miliwn yn cefnogi diwydiannau pysgota, dyframaethu a bwyd môr y DU i ddarparu technolegau a phrosiectau arloesol o’r radd flaenaf. Mae’r gronfa ar agor i bob sefydliad yn y DU neu’r UE sydd â syniad arloesol sy’n cyflawni amcanion y gronfa. Gall sefydliadau’r UE wneud cais fel arweinydd prosiect, neu gallant fod yn rhan o gais fel is-gontractwr. Caiff prosiectau cydweithredol sy’n cynnwys arbenigwyr o’r...
Y ceisiadau ar gyfer y cynllun newydd i roi cymorth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru yn agor ar 18 Mehefin, i gefnogi’r ffermwyr yr effeithiwyd fwyaf arnynt gan yr amodau eithriadol diweddar o fewn y farchnad oherwydd Covid 19. Trwy’r gronfa, bydd ffermwyr llaeth cymwys: angen dangos eu bod wedi dioddef gostyngiad o 25% neu fwy yn y pris a dalwyd ar gyfartaledd am eu llaeth ym mis Ebrill ac yn dilyn hynny ym mis...
Mae canllawiau ar gyfer gweithredwyr a gyrwyr ar ffyrlo ar reolau oriau gwaith symudol yr UE a rheolau tacograff ac oriau gyrwyr yr UE ac AETR wedi’u cyhoeddi Mae’r canllawiau yn egluro sut mae gwneud y canlynol: cofnodi eich gweithgareddau os ydych chi ar ffyrlo, gan gynnwys wrth wneud gwaith arall, naill ai ar eich tacograff neu drwy wneud cofnodion â llaw os na ellir defnyddio’r tacograff mae bod ar ffyrlo yn berthnasol i’r rheolau...
Mae gan gyflogwyr rôl bwysig i sicrhau nad yw’r materion sy’n wynebu eu gweithwyr yn cael eu gwaethygu gan benderfyniadau gwahaniaethol o ran ffyrlo, tâl salwch neu ddiswyddiadau. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi llunio canllawiau ar gyfer cyflogwyr wrth i’r pandemig coronafeirws gael effaith benodol ar bobl â nodweddion gwarchodedig penodol, ac fel cyflogwr, mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnoch chi o hyd i sicrhau nad yw’r penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud mewn ymateb i’r...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r diweddariadau nesaf: Bydd y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws yn cael ei ymestyn a bydd y rhai sy’n gymwys yn gallu hawlio ail grant ym mis Awst - hwn fydd y grant terfynol. Y diweddaraf am y Cynllyn Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws O 1 Gorffennaf 2020, gall cyflogwyr ddod â gweithwyr sydd wedi bod ar ffyrlo yn flaenorol yn ôl i’r gwaith am unrhyw...
Wrth inni symud drwy’r heriau o ymdrin â’r argyfwng COVID-19, a dechrau edrych yn ofalus at ddod â’r cyfyngiadau symud i ben ar draws gwahanol feysydd busnes, rydym yn cynnig amrediad eang o gymorth ymarferol a chanllawiau ar gyfer cyflogwyr. Bydd y dolenni a’r canllawiau’n datblygu gydag amser i adlewyrchu statws y cyfyngiadau symud, felly edrychwch ar y tudalennau hyn yn rheolaidd i weld y canllawiau diweddaraf. Ewch i’r tudalennau Diogelu Cymru yn y Gweithle...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.