BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2031 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa o £150,000 i helpu cwmnïau iechyd i ddatblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio technoleg ddigidol yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws. Nod y gronfa fydd treialu’n gyflym brosiectau yn y sectorau iechyd a gofal i hwyluso diagnosis o bell, casglu data a monitro argaeledd cyfarpar amddiffyn personol (PPE). Bydd y gronfa yn cefnogi treialu a gwerthuso’n gyflym blatfformau digidol newydd, apiau a thechnolegau i benderfynu ar eu defnydd hirdymor...
Profi, Olrhain, Diogelu yw cynllun Llywodraeth Cymru i brofi ac olrhain cysylltiadau a fydd yn helpu dinasyddion Cymru i ddychwelyd i'w bywydau bob dydd yn raddol ac yn ddiogel. Bydd Profi, Olrhain, Diogelu yn cael ei gyflawni trwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru sy'n cynnwys nifer o bartneriaid sector cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i reoli lledaeniad y feirws. Mae'r canllawiau hyn yn egluro sut y gall cyflogwyr yng Nghymru chwarae eu...
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach unwaith eto eleni yn tynnu sylw at 100 o fusnesau bach, un y diwrnod am y 100 diwrnod sy’n arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach 5 Rhagfyr 2020. Am y saith mlynedd diwethaf’, mae’r 100 wedi cael sylw nid yn unig ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn y wasg leol a chenedlaethol, maent hefyd wedi ymuno â thîm Dydd Sadwrn y Busnesau Bach...
Mae Rhwydwaith Menter Ewrop yn helpu busnesau arloesol, sy’n tyfu, i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd busnes yn Ewrop a’r tu hwnt. Trwy’r rhwydwaith gall eich busnes gael cymorth, yn cynnwys: arloesi i dyfu mynediad at gyllid a threfniadau cyllido mynediad at gynghorwyr ledled y byd dod o hyd i bartneriaid dibynadwy gwneud cysylltiadau byd-eang tyfu ymhellach ac ehangu I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Rhwydwaith Menter Ewrop. For further information please visit...
Mae’r newidiadau yn dilyn y trydydd adolygiad statudol o’r rheoliadau gan Weinidogion Cymru. O ddydd Llun 1 Mehefin 2020, bydd aelodau o ddwy wahanol aelwyd yn yr un ardal leol yn gallu cyfarfod yn yr awyr agored. Wrth wneud hynny, fodd bynnag, mae’n rhaid i bobl ddilyn arferion llym o ran cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo, i reoli lledaeniad y feirws. Yn gyffredinol mae lleol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir...
Gall elusennau, ysgolion a grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau hyd at £1,000 drwy Gronfa Gymunedol NFU Mutual Mae’r gronfa ar gael mewn ardaloedd sy’n lleol i weithrediadau NFU Mutual yn y DU Mae ceisiadau’n fwy tebygol o lwyddo os ydyn nhw’n bodloni un neu fwy o flaenoriaethau canlynol y gronfa: cysylltu’r gymuned; lleihau ynysu cymdeithasol, darparu cyfleoedd ac annog cydnerthedd darparu gofal a chymorth i aelodau o'r gymuned sy’n agored i niwed lleddfu tlodi...
Bydd mesurau newydd yn dod i rym ar ffin y DU ar 8 Mehefin 2020. Maent yn cynnwys gofyniad i unrhyw un sy’n dod i mewn i’r DU hunanynysu am 14 diwrnod, heblaw am restr fer o eithriadau. Mae’r rhestr lawn ar gael ar GOV.UK ac yn cynnwys: gweithwyr cludiant ffyrdd a gweithwyr cludo, er mwyn sicrhau na effeithir ar gyflenwad nwyddau gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n teithio i helpu yn y frwydr yn erbyn y...
Yn sgil yr argyfwng COVID-19 bydd llawer o fusnesau yn cael eu gorfodi i ohirio darpariaeth wyneb yn wyneb a/neu hyfforddiant oddi ar y safle. Bydd hyn yn golygu cynnal rhaglenni hyfforddiant y gellir eu darparu ar-lein am y tro. Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yma i gynorthwyo’ch busnes i gynnal hyfforddiant ar-lein. Mae’r Rhaglen yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru i roi cyfraniad ariannol tuag at uwchsgilio gweithwyr busnesau yng Nghymru, Mae hyn yn...
Mae gan gyflogwyr, pobl hunangyflogedig a phobl sy’n rheoli eu heiddo eu hunain, fel landlordiaid, ddyletswydd i nodi a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â chlefyd y lleng filwyr. Os yw’ch adeilad wedi cau neu os oes llai yn ei ddefnyddio yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19), gall eich system ddŵr ddioddef yn sgil aros yn llonydd am nad yw’n cael ei defnyddio cymaint, gan gynyddu’r perygl o glefyd y lleng filwyr. Ewch i wefan yr...
Mae Pick For Britain yn helpu i ddod â gweithwyr a chyflogwyr at ei gilydd a sicrhau y gall y DU barhau i ddarparu’r ffrwythau a’r llysiau gorau o Brydain i bawb eu mwynhau. Mae gan wefan Pick for Britain wybodaeth ar gyfer tyfwyr, recriwtwyr ac asiantaethau sydd â chyfleoedd swyddi ledled y wlad. O gasglwyr a gweithwyr pecynnu, i gynnal a chadw peiriannau a gyrwyr tractors a wagenni fforch godi, mae dewis eang o...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.