BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2111 canlyniadau

Mae'r broses ymgeisio ar gyfer busnesau sy'n gymwys i gael cymorth ariannol drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd bellach ar agor. Mae manylion llawn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer busnesau ac elusennau i'w galluogi i ymgeisio i'w gweld ar y dudalen Cymorth Ariannol a Grantiau. Cwblhewch y gwiriwr cymhwystedd cymorth fusnes COVID-19 i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys i wneud cais. Ar ôl ei gwblhau cewch ddolen i'r cais ar-lein.
Mae rhwydweithiau UK Ability Networks yn cynnal gweminarau am ddim er mwyn cyflwyno gwybodaeth ymarferol a defnyddiol i gyflogwyr i sicrhau eu bod yn cadw cyswllt agos gyda’r gymuned o gyflogwyr hyderus o ran anabledd, fel bod pobl anabl yn parhau i gael eu recriwtio a’u cadw mewn gwaith yn ystod COVID-19 ac ar ôl hynny ac nad ydyn nhw’n cael eu gadael ar ôl. Mae pynciau’r gweminarau a mwy o fanylion isod: New Ways...
Mae’r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) wedi cyhoeddi canllawiau gan lywodraeth y DU ar sut i helpu i sicrhau cyllid allforio er mwyn dal ati i fasnachu yn ystod yr argyfwng coronafeirws – gan gyfathrebu’n uniongyrchol ag allforwyr a buddsoddwyr. Yn ogystal â chyngor ar ba gymorth ariannol sydd ar gael i gwmnïau i reoli effeithiau coronafeirws, mae DIT yn barod i ddarparu cymorth gydag awdurdodau tollau er mwyn sicrhau bod cynhyrchion busnes yn cael eu...
Mae ACAS yn cynnal gweminarau Coronafeirws ar-lein ar gyfer cyflogwyr. Mae’r gweminarau yn darparu cyngor ymarferol i gyflogwyr er mwyn helpu i reoli effaith coronafeirws yn y gweithle, a gallwch gofrestru i wylio eu recordiad gweminar diweddaraf. Gallwch hefyd ymuno ag arbenigwyr ACAS bob bore Gwener am 10:30am i sgwrsio yn fyw ar Twitter am eich cwestiynau neu bryderon am y coronafeirws (COVID-19) ac am: amser i ffwrdd o’r gwaith cyflog gweithio o bell pa...
Cyhoeddwyd rheolau newydd i ddiogelu gweithwyr yn ystod achosion coronafeirws. Bydd y rheoliadau’n golygu y bydd y rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m yn berthnasol i unrhyw weithle, gan gynnwys cartrefi, lle mae gwaith ac atgyweiriadau’n cael eu gwneud a mannau awyr agored. Bydd rhaid i bob busnes weithredu pob mesur rhesymol i sicrhau bod y rheol 2m yn cael ei chynnal rhwng pobl yn yr eiddo pan mae gwaith yn cael ei wneud. I...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ragor o wybodaeth am y gronfa gan gynnwys y meini prawf ar gyfer pa fusnesau ac elusennau sy’n gymwys, er mwyn eu galluogi i baratoi i wneud cais. Bydd y gronfa’n darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian. Bydd o gymorth i fynd i’r afael â bylchau nad ydynt yn cael eu llenwi gan y cynlluniau a...
Mae CThEM wedi cyhoeddi canllawiau ar-lein newydd sy’n cynnwys gwybodaeth am bwy all ddefnyddio’r cynllun a’r cofnodion sy’n rhaid i gyflogwyr eu cadw. Bydd Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws yn ad-dalu cyflogwyr y gyfradd Tâl Salwch Statudol bresennol y maent yn ei thalu i gyn-weithwyr neu weithwyr presennol am gyfnodau salwch yn dechrau ar neu ar ôl 13 Mawrth 2020. Os ydych chi’n gyflogwr sy’n talu mwy na’r gyfradd bresennol o Dâl Salwch Statudol...
Mae’r cyllid yn cael ei ddarparu drwy Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru ac yn cynnwys: Cronfa dycnwch y Celfyddydau gwerth £7 miliwn Cronfa Cydnerthedd Chwaraeon £8 miliwn Cronfa gwerth £1miliwn Cymru Greadigol i roi cymorth i leoliadau cerddoariaeth lleol i ymateb i bwysau ar unwaith Cronfa Cydnerthedd Diwylliannol gwerth £1 miliwn ar gyfer amgueddfeyddd, casgliadau, gwasanaethau cadwraeth, archifau a llyfrgelloedd cymunedol Cronfa Cymorth Brys gwerth £750,000 i gefnogi ein sefydliadau chwaraeon, amgueddfeydd a threftadaeth...
Newidiadau dros dro i ganiatáu i yrwyr bysiau a lorïau na all gwblhau hyfforddiant CPC Gyrwyr gorfodol i barhau i yrru. Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o yrwyr lorïau a bysiau gwblhau 35 awr o hyfforddiant cyfnodol bob 5 mlynedd i gadw eu cerdyn CPC Gyrwyr (a elwir yn ‘gerdyn cymhwyster gyrwyr’ neu ‘DQC’ o bryd i’w gilydd). Yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19), gallai fod yn anodd i yrwyr gyflawni’r hyfforddiant gofynnol. Felly, mae’r...
Mae CThEM yn darparu rhaglen o weminarau ar fesurau i gefnogi cyflogwyr, cyflogeion a’r hunangyflogedig drwy’r cyfnod hwn o aflonyddwch sydd wedi’i achosi gan COVID-19. Gallwch hefyd fynychu gweminarau’n ddi-dâl yn y dyfodol i ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i helpu i chi ddelio ag effeithiau economaidd coronafeirws. Am ragor o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i wefan GOV.UK.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.