BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2121 canlyniadau

Mae busnesau ac unigolion ledled y byd yn wynebu heriau enfawr yn wyneb y pandemig coronafeirws. Mae’r gofyniad i aros gartref a chadw pellter cymdeithasol neu ymneilltuo yn cyflwyno bygythiadau newydd i ystod eang o fusnesau a gwasanaethau, o fusnesau dosbarthu i wneuthurwyr bwyd, adloniant, gwasanaethau ariannol, gofal iechyd, lletygarwch, adwerthu, trafnidiaeth a chymorth cymunedol. Gall arloesi busnes wneud cyfraniad pwysig iawn at ddatblygu ffyrdd o ysgafnhau’r aflonyddwch yn sgil COVID-19 ac unrhyw aflonyddu byd-eang...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi llunio canllawiau os oes llai o swyddogion cymorth cyntaf yn eich busnes yn sgil coronafeirws neu os nad ydych chi’n gallu cael yr hyfforddiant cymorth cyntaf sydd ei angen arnoch chi er mwyn parhau i gydymffurfio â’r gyfraith, mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud, gan gynnwys: Sicrhau digon o swyddogion cymorth cyntaf - os oes llai o bobl yn dod i’ch gweithle efallai y bydd yn...
Daeth Cyflog Byw Cenedlaethol 2020 i rym ddydd Mercher 1 Ebrill 2020. Mae’r gyfres lawn o daliadau isod: y Cyflog Byw Cenedlaethol i bobl 25 oed a hŷn yw £8.72 yr awr yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl 21 i 24 oed yw £8.20 yr awr yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl 18 i 20 oed yw £6.45 yr awr yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed yw £4.55...
Symud nwyddau drwy dollfeydd yn ystod yr argyfwng coronafeirws – mae rhagor o wybodaeth am symud nwyddau a mynd drwy dollfeydd yn ystod yr argyfwng coronafeirws ar gael yma. Awdurdodiadau tollfeydd yn ystod coronafeirws – mae rhagor o wybodaeth am newidiadau dros dro i bolisi ac awdurdodiadau tollfeydd yn ystod coronafeirws ar gael yma. Ewch i dudalennau Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ar goronafeirws i fusnesau am wybodaeth i’ch busnes ar sut i ddelio â’r...
Mae archwiliadau hawl i weithio wedi’u haddasu dros dro yn sgil coronafeirws (COVID-19). Mae hyn er mwyn ei gwneud yn haws i gyflogwyr eu cynnal. Ers 30 Mawrth 2020, mae’r newidiadau dros dro canlynol wedi’u gwneud: Gellir cynnal archwiliadau nawr ar alwadau fideo Gall ymgeiswyr am swyddi a gweithwyr presennol anfon dogfennau wedi’u sganio neu lun o ddogfennau ar gyfer archwiliadau gan ddefnyddio e-bost neu ap ffôn symudol, yn hytrach nag anfon fersiynau gwreiddiol Dylai...
Mae CThEM wedi cyflwyno mesur dros dro i helpu bragwyr a thafarnwyr i gael gwared ar gwrw sydd wedi troi yn ystod coronafeirws. Fel arfer, mae’n rhaid i swyddog cyfrifol o’r bragdy oruchwylio’r broses o ddinistrio cwrw. Fodd bynnag, yn sgil gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae’n anodd i fragwyr a thafarnwyr ddilyn y canllaw hwn ar hyn o bryd. Nawr, gall bragwyr benodi’r tafarnwr neu berson y cytunir arno ar y safle i ddinistrio cwrw...
Mae Siambr De Cymru yn cynnig platfform sy’n galluogi pob cwmni yng Nghymru a’r tu hwnt i rannu cyfleoedd cyflenwad a galw yn deillio o’r sefyllfa economaidd a masnachu bresennol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn ac mae’n agored i bawb – aelodau ac eraill, fel ei gilydd. Anfonwch e-bost at support@southwaleschamber.co.uk gyda’ch ymholiad neu gynnig. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Siambr Fasnach De Cymru. Ewch i...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ffermwyr yn cael mis ychwanegol i gyflwyno eu Ffurflen y Cais Sengl, gyda’r dyddiad cau bellach wedi cael ei estyn i 15 Mehefin 2020. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.
Mae’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth yn annog busnesau, gwyddonwyr data ac ymchwilwyr biofeddygol i ymuno â Hackathon rhithiol proffil uchel sydd wedi’i lunio i wella’r dulliau o fonitro, rhoi diagnosis a rheoli’r Coronafeirws. Ar hyn o bryd mae angen brys am gymorth meddygol a mathau eraill o gymorth yn y DU oherwydd lledaeniad Covid-19 a’r galw am dechnolegau gan gynnwys: darparu gofal dwys addysg a hyfforddiant carlam i staff gofal iechyd cefnogi pobl sy’n hunanynysu neu’n...
Mae’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra wedi lansio canllaw newydd i adwerthwyr yn y sector cyfleustra sy’n ystyried cyflwyno gwasanaeth danfon i’r cartref i gwsmeriaid. Mae rhagor o adwerthwyr cyfleustra yn ystyried danfon nwyddau fel opsiwn i gyrraedd cwsmeriaid lleol sy’n hunanynysu, neu’r rhai sy’n methu â theithio i’w siop leol. Mae’r canllaw newydd yma’n rhoi manylion ynghylch beth ddylai adwerthwyr ei ystyried wrth ddechrau gwasanaeth danfon i’r cartref. Mae’r canllaw yn cynnwys y meysydd canlynol: sut...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.