BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

231 canlyniadau

Mae gwyliau blynyddol â thâl yn hawl gyfreithiol y mae'n rhaid i gyflogwr ei darparu. Mae tâl gwyliau yn cael ei gyfrifo yn ôl y math o oriau mae rhywun yn gweithio a sut maen nhw'n cael eu talu am yr oriau. Mae hyn yn cynnwys: gweithwyr amser llawn gweithwyr rhan amser gweithwyr asiantaeth gweithwyr sy'n gweithio sifftiau anghyson gweithwyr achlysurol gan gynnwys cytundebau dim oriau Mae gan weithwyr hawl i gyflog wythnos am bob...
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg eleni ar 23 Mehefin 2023 a’r thema yw Gwneud Diogelwch yn Weladwy #INWED23 Eleni byddwn yn dathlu’r gwaith anhygoel y mae peirianwyr benywaidd yn ei wneud o amgylch y byd i gefnogi bywydau a bywoliaethau bob dydd ac yn portreadu’r menywod gorau, disgleiriaf a dewraf ym maes peirianneg, y dyfeiswyr a’r arloeswyr sy’n mentro bod yn rhan o’r datrysiad ac yn helpu i greu dyfodol mwy llewyrchus. Am gymryd...
Trwy 10,000 o Fenywod, mae Goldman Sachs yn darparu'r addysg, y cyfleoedd a mynediad at gyfalaf sydd eu hangen ar fenywod i dyfu eu busnesau. Mae cwrs ar-lein 10,000 o Fenywod Goldman Sachs yn rhaglen addysg fusnes ymarferol, am ddim, sydd ar gael i bob menyw ledled y byd. Ynglŷn â'r Rhaglen Ar-lein Deg cwrs sy'n trafod pob agwedd ar redeg busnes Gallwch gymryd unrhyw gwrs, neu gyfuniad o gyrsiau. Addysg ymarferol a gweithgareddau rhyngweithiol...
Gall elusennau bach a lleol, sy'n gweithio gyda phobl sy'n wynebu problemau a rhwystrau cymhleth, wneud cais am arian grant gan Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr. Gall elusennau arbenigol gydag incwm blynyddol rhwng £25,000 a £500,000 wneud cais am grant tair blynedd, heb gyfyngiad gwerth hyd at £75,000. Bydd y Sefydliad yn cefnogi elusennau sy'n deall cymhlethdod y materion y mae pobl yn eu hwynebu ac sydd yn y sefyllfa orau i...
Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2023 rhwng 24 Gorffennaf a 27 Gorffennaf. Yn ogystal â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau dangos da byw, â chystadleuwyr yn teithio o fannau pell ac agos i gystadlu, mae gan y sioe rywbeth o ddiddordeb i bawb, diolch i’w hamrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous. Mae Sioe Frenhinol...
“Rydyn ni am sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant i bobl LHDTC+, er mwyn inni fel cymuned deimlo’n ddiogel i fod yn ni ein hunain, yn rhydd rhag ofn, gwahaniaethu a chasineb.” Dyna eiriau’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, ochr yn ochr ag Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, i amlinellu sut yn union y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau, rhagolygon a sefyllfa pobl LHDTC+. Wrth lansio Cynllun Gweithredu LHDTC+, sy’n...
Dewch i glywed gan Phil Budden o MIT Management wrth iddo drafod pam mai nawr yw'r amser ar gyfer Arloesi ac Entrepreneuriaid. Mae o'n Uwch Ddarlithydd mewn Technoleg, Arloesedd, Entrepreneuriaeth a Strategaeth (TIES) o MIT Management a bydd yn galw o Boston, UDA. Gweinyddir gan M-SParc cynhelir y gweminar ar 17 Chwefror 2023 ar 2pm. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Yr Amser i Arloesi a Mentro/Now is the time for...
Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 10 Chwefror 2023. P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg. Ond does dim rhaid i ti aros tan Dydd Miwsig Cymru i rannu dy gariad at gerddoriaeth Gymraeg neu i ddod o hyd i...
O 6 Chwefror 2023, bydd aelwydydd ledled Prydain nad ydynt yn defnyddio nwy o’r prif gyflenwad ar gyfer gwresogi yn dechrau derbyn £200 tuag at eu biliau ynni wrth i’r cynllun Taliadau Tanwydd Amgen (AFP) lansio. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael y £200 yn awtomatig ar ffurf credyd i’w bil trydan, ond bydd angen i rai cwsmeriaid wneud cais am y cymorth yn nes ymlaen fis yma. Bydd y mwyafrif helaeth, gan gynnwys...
Mae mwy nag 11,000 o bobl ifanc wedi cael help i gael swydd yn ystod blwyddyn gyntaf rhaglen flaengar Llywodraeth Cymru i bobl ifanc, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw (8 Chwefror 2023). Mae Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc (YPG) yn cynnig help i bobl dan 25 oed yng Nghymru i gael swydd neu le mewn addysg neu hyfforddiant neu i fynd yn hunangyflogedig. Mae Gweinidogion wedi ymrwymo £1.4 biliwn y flwyddyn o...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.