news and blogs Archives
241 canlyniadau
Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr tai sicrhau bod pob tŷ newydd sy’n cael ei adeiladu yn gallu derbyn cysylltiad band eang gigadid. Bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i ddatblygwyr sicrhau: bod seilwaith ffisegol gigabit parod ar gyfer cysylltiadau sy'n gallu delio â gigabit yn cael eu gosod ym mhob cartref newydd bod cysylltiad galluog...
Gwneud gwaith yn decach, yn fwy diogel ac yn well i bawb yw’r peth gorau i weithwyr ac i fusnesau. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu i hyrwyddo gwaith teg bob cyfle fel rhan o'i chenhadaeth i adeiladu Cymru decach, wyrddach, sy’n gryfach a mwy llwyddiannus. Mae gwaith teg i bawb, waeth beth yw maint eich busnes, y sector na lle rydych chi ar eich taith tuag at waith teg ar hyn o bryd...
Mae’r Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth yn fudiad byd-eang ac fe’i gynhelir ar 11 Chwefror bob blwyddyn. Nod Menywod Cymru mewn STEM yw amlygu a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu menywod sy'n gweithio ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae'n dod â'r rheiny sy'n gweithredu newid yn y sector, a'r rheiny sy'n gweithio i greu amgylchedd cadarnhaol, ynghyd lle gall menywod a merched ffynnu drwy gydol eu gyrfaoedd. I gael...
Ymunwch â Chwarae Teg am weithdy 45 munud AM DDIM i archwilio ffactorau cyfranogol allweddol wrth adeiladu amgylchedd cynhwysol ac arweinyddiaeth gynhwysol. Mae llawer o astudiaethau wedi cael eu cynnal ar y berthynas rhwng amrywiaeth a chynhwysiant a pherfformiad cwmni, ac mae bron pob un ohonynt wedi dod i'r un casgliad. Yn syml: mae amrywiaeth a chynhwysiant yn dda i fusnes. Bydd y gweithdy'n cynnwys: Cyflwyniad Beth yw ystyr 'cynhwysiant'? Beth yw arweinydd cynhwysol? Sut...
Mae Enterprise Nation a VistaPrint wedi dod at ei gilydd i ddarparu rhaglen grant arian parod gwerth hyd at £150,000 a fydd yn helpu cyw entrepreneuriaid i dyfu eu mentrau. Yn y rhaglen, bydd 20 o fusnesau bach o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn ennill £7,500 yr un, ochr yn ochr â chymorth ac arbenigedd marchnata a dylunio, i helpu eu busnes i ffynnu. I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i’ch busnes...
Mae’r Comisiwn Elusennau wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ddyletswyddau craidd ymddiriedolwyr, y canllawiau sydd ar gael i elusennau ac mae wedi datblygu casgliad o ganllawiau byr a difyr o’r enw’r ‘Canllawiau 5 Munud’ ar: Gyflawni dibenion Rheoli gwrthdaro buddiannau Adrodd gwybodaeth Diogelu pobl Gwneud penderfyniadau Rheoli cyllid Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Cyngor ac arweiniad i Ymddiriedolwyr Elusen – Gwneud y mwyaf o fod yn ymddiriedolwr elusen
Mae Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, 6 i 12 Chwefror 2023, yn ymgyrch flynyddol ledled y DU, sy'n cael ei threfnu gan Race Equality Matters, ac mae’n dwyn ynghyd miloedd o sefydliadau ac unigolion i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gydraddoldeb hiliol yn y gweithle. Y thema ar gyfer eleni yw #Mae’nFusnesiBawb gan fod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yn fusnes i bawb. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolenni ganlynol Race Equality...
Bellach, gellir gwneud cais ar gyfer Gwobrau Gwnaed yn y DU, Gwerthu i'r Byd, sy’n cael eu cynnal gan yr Adran dros Fasnach Ryngwladol (DIT). Bydd y gwobrau'n cydnabod ac yn dathlu llwyddiant masnachu byd-eang busnesau bach o bob rhan o'r DU ac mae modd gwneud cais yn rhad ac am ddim. Bydd y cynllun yn gwobrwyo busnesau mewn saith sector: Amaeth, bwyd a diod Nwyddau defnyddwyr Diwydiannau creadigol Digidol Addysg Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol...
‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ yw ymgyrch ailgylchu mwyaf a mwyaf uchelgeisiol Cymru. Mae’n cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 a rhoi hwb i Gymru tuag at gyrraedd y nod o fod yn genedl ailgylchu orau’r byd. Ein thema eleni yw “Pwer ailgylchu gwastraff bwyd” a bydd yr ymgyrch, sy'n dechrau ar 6 Chwefror 2023, yn dangos sut mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu i greu ynni adnewyddadwy sy’n brwydro...
Cynhelir yr Wythnos Prentisiaethau rhwng 6 a 12 Chwefror 2023. Wrth i’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau fynd rhagddi, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn annog mwy o gwmnïau i ystyried sut y gall prentis eu helpu i hybu eu busnesau. Nod yr wythnos hon yw dathlu a hyrwyddo prentisiaethau yng Nghymru fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd. a'r buddion a ddaw yn eu sgil i unigolion a chyflogwyr. Fel rhan o'r ymgyrch "Dewis...
Pagination
- Previous page
- Page 24
- Next page