news and blogs Archives
391 canlyniadau
Mae'r Rhaglen Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol yn grant newydd a ariennir gan Cadw sy'n canolbwyntio ar atgyweirio adeiladau rhestredig sydd mewn perygl neu mewn cyflwr bregus; er mwyn diogelu eu harwyddocâd, gwella eu cyflwr, cefnogi defnydd buddiol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw yn y tymor hir. Gall y Rhaglen Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol ariannu 50% o waith cymwys (hyd at uchafswm o £250,000) a'i nod yw buddsoddi cyfalaf hanfodol mewn...
Gall gwaith – a dylai gwaith – fod yn llwybr dibynadwy allan o dlodi. Ond gydag un o bob wyth o weithwyr yn y DU yn byw mewn tlodi, a chostau byw yn codi, gallai canran o'ch gweithlu fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Mae tlodi yn effeithio ar bobl yn wahanol, ac nid yw bob amser yn hawdd i gyflogwyr sylwi arno. Mae'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) wedi ymuno â Sefydliad...
Eleni, cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd ddydd Gwener, 2 Rhagfyr 2022. Mae’r National Energy Action (NEA) yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol i'r rheiny sy'n byw mewn tlodi tanwydd a bydd yn rhannu ystod o adnoddau ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd #DiwrnodYmwybyddiaethTlodiTanwydd. Mae NEA hefyd wedi cyfieithu eu dogfennau cynghori i wahanol ieithoedd er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cyrchu’r wybodaeth hon. Mae’r dogfennau cynghori yn cynnwys: 10 prif awgrym am arbed ynni Help...
Heddiw (23 Tachwedd 2022) cyhoeddodd Gweinidogion fod cynllun grant newydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio ar draws darparwyr Gofal Cymdeithasol Preswyl, a fydd yn helpu’r sector i ddelio â chostau’r argyfwng ynni, wedi’i lansio a bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Mae’r cynllun £1.4 miliwn yn rhan o Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd i gefnogi busnesau mewn rhannau o’n heconomi bob dydd leol, a elwir hefyd yn...
Ar 20 Hydref 2022, cyhoeddwyd drafft newydd o’r ‘ Strategaeth ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd’ er mwyn ymgynghori arni. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn partneriaid Tîm Cymru a'r cyhoedd am sut y gallwn gydweithio i annog a chefnogi unigolion, aelwydydd a chymunedau ledled Cymru i chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Yn allweddol i gymhelliant pobl i weithredu ar newid...
Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn atgoffa cwsmeriaid hunangyflogedig bod yn rhaid iddyn nhw ddatgan taliadau COVID-19 yn eu ffurflen dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022. Mae'r grantiau hyn yn drethadwy a dylid eu datgan ar ffurflenni treth ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022 cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2023. Y cyfnodau ar gyfer gwneud cais a thaliadau’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (SEISS) yn ystod blwyddyn dreth 2021...
Gall allforio drawsnewid eich busnes. P’un a ydych yn newydd i fasnachu dramor neu’n allforiwr profiadol, mae ystod o offerynnau a gwasanaethau ar gael i’ch cefnogi lle bynnag yr ydych chi ar hyd eich taith allforio. Yr Hwb Allforio: Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yn cwmpasu pob agwedd ar fewnforio. Mae’r Hwb yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth i’ch helpu i archwilio marchnadoedd tramor, dod o hyd i gleientiaid newydd, sicrhau cydymffurfedd yn y...
Mae Cyllid Allforio'r DU wedi lansio cynnyrch newydd i helpu i gefnogi BBaChau drwy amodau heriol yn y farchnad. Mae’r cynnyrch Biliau a Nodiadau newydd bellach ar agor i warantu taliadau gan brynwyr tramor. Bydd y cynnyrch ar gael i fwy o sefydliadau ariannol gyda phroses symlach a llyfnach. Mae Biliau a Nodiadau yn ddull safonol o dalu lle mae arian yn ddyledus o dan filiau cyfnewid neu nodion addewid. Mae UKEF bellach wedi gwella...
Mae ein gwaith i greu economi gylchol yn hanfodol er mwyn cyflawni Cymru sero net erbyn 2050. Golyga hyn leihau gwastraff, ailddefnyddio deunyddiau cyhyd â phosibl, a chreu modelau busnes newydd mwy cynaliadwy. Gall ein Canllaw Ymgysylltu â’r Farchnad Ar Gaffael Cynaliadwy gefnogi sefydliadau’r sector cyhoeddus i symud oddi wrth y model caffael traddodiadol ‘cymryd-gwneud-gwastraffu’ a chwilio yn hytrach am ffyrdd y gallwn gadw nwyddau’n ddefnyddiol am amser hwy. Bydd ymgysylltu â’r farchnad yn hollbwysig...
Pagination
- Previous page
- Page 39
- Next page