BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

511 canlyniadau

Mae safleoedd adeiladu yn cael eu targedu fel rhan o fenter arolygu iechyd a gefnogir gan ymgyrch ' Work Right Construction: Your health. Your future'. Crëwyd yr ymgyrch ‘Your health. Your future’ gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae'r ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd o ran symud a thrin deunyddiau er mwyn gwella iechyd hirdymor y rheiny sy'n gweithio ym maes adeiladu. Gan ddechrau ddydd Llun, 3 Hydref 2022, bydd archwiliadau...
Bydd 5ed cynhadledd flynyddol BEYOND yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, ac ar-lein rhwng 18 a 20 Hydref 2022. Mae BEYOND yn gasgliad unigryw, blynyddol o arloeswyr y presennol a’r dyfodol sy'n canolbwyntio ar Ymchwil a Datblygu ar draws y Diwydiannau Creadigol, gan ddod ag ymchwilwyr, gwneuthurwyr, buddsoddwyr, arweinwyr busnes, a meddylwyr sy'n arwain y byd at ei gilydd. Bydd thema cynhadledd eleni yn mynd i'r afael â chwestiynau sy'n hanfodol i'n diwydiannau creadigol yn...
Mae Expo Menywod mewn Busnes a Thechnoleg wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sydd eisiau symud ymlaen yn eu gyrfa neu eu busnes. Mae’n darparu ysbrydoliaeth, arweiniad, cyfleoedd recriwtio, a gwasanaethau busnes i symud i fyny yn eich taith broffesiynol. Mae pum maes yn canolbwyntio ar wahanol bynciau a seminarau ar gyfer y menywod amrywiol yn y gweithlu: Gyrfaoedd Menywod mewn Technoleg Ceiswyr gwaith Perchnogion busnes Dechrau busnes Y rheiny sy’n dychwelyd i yrfa Cynhelir y...


 

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2022
Diweddarwyd diwethaf:
6 Medi 2023
Ydych chi'n barod i TechX hybu eich busnes newydd ac ennill mwy o gefnogaeth gan ddiwydiant, cyllid a thwf? Gallwch nawr wneud cais ar gyfer Cyflymydd Ynni Glân TechX, sy'n darparu'r offer, y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar fusnesau newydd a busnesau cyfnod cynnar ym maes ynni glân i dyfu a chefnogi'r newid. Mae'r cyflymydd yn rhaglen ddwys 15 wythnos ar gyfer hyd at 12 o fusnesau newydd, arloesol ym maes ynni glân...
Mae Trade Finance Global (TFG) wedi ffurfio partneriaeth â Chyllid Allforio y DU (UKEF), sef asiantaeth credyd allforio Llywodraeth y DU, a’r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) i gynhyrchu Canllaw Cyllid Masnach ac Allforio y DU. Daw'r canllaw 60 tudalen yn erbyn cefndir o amgylchiadau daearwleidyddol cymhleth a thirwedd ariannol sy'n newid yn barhaus. Wrth archwilio materion diweddar, fel pandemig COVID-19, Brexit, a'r gwrthdaro presennol rhwng Rwsia a’r Wcráin, nod y canllaw hwn yw rhoi darlun...
Mae tymor y Nadolig yn cael effaith fawr ar fwyafrif busnesau a gweithwyr y Deyrnas Unedig. Dyma amser pan fydd mwy o alw am gynnyrch a gwasanaethau a nwyddau i’w gwerthu mewn rhai busnesau. Mae eraill yn wynebu cyfnod tawel neu’n cau efallai dros y gwyliau. Eleni, mae Dydd Nadolig, 25 Rhagfyr 2022, ar ddydd Sul a Gŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr 2022, ar dydd Llun. Sy'n golygu y bydd dydd Mawrth 27 Rhagfyr 2022...
Mae buddsoddiad sylweddol o bron i £100 miliwn yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i wella argaeledd gofal plant, cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ac ariannu llefydd rhan-amser am ddim. Mae’r cyllid yn cynnwys £26 miliwn ar gyfer cam nesaf ehangu gofal plant rhan-amser Dechrau’n Deg; £70 miliwn ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw hanfodol fydd ar gael i bob lleoliad gofal plant a £3.8 miliwn i gefnogi mwy o ddarparwyr gofal plant i...
Heddiw (26 Medi 2022), cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod Bil Amaethyddiaeth cyntaf Cymru erioed wedi cael ei osod gerbron y Senedd. Mae’r Bil yn paratoi'r ffordd ar gyfer deddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol i gefnogi ffermwyr, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a gwarchod a gwella cefn gwlad Cymru, y diwylliant a’r Gymraeg. Mae'r Bil hefyd yn cynnwys ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud yn llwyr. Cymru fydd y wlad...
Mae Gwobrau Twristiaeth Go North Wales bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Diben y gwobrau yw dathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth. Dyma'r categorïau eleni: Gwesty'r Flwyddyn GO Gwely a Brecwast / Tafarn y Flwyddyn GO Llety Hunanarlwyo'r Flwyddyn GO Parc Gwyliau'r Flwyddyn GO Safle Carafanau, Gwersylla neu Glampio GO Atyniad y Flwyddyn GO Gweithgaredd y Flwyddyn GO Gwobr Digwyddiad Gorau'r Flwyddyn GO Gwobr Bwyd a Diod GO Gwobr Cyflenwr...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.