BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

521 canlyniadau

Os ydych chi'n un o gwmnïau technoleg mwyaf addawol y DU, dyma'r gystadleuaeth i chi. Rising Stars yw cystadleuaeth fwyaf cyffrous y DU ar gyfer cwmnïau sydd yng nghamau cyntaf datblygu, sydd wedi'i chynllunio i arddangos a chefnogi'r gorau sydd gan y wlad i'w gynnig ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Mae cystadleuwyr yn elwa ar godi proffil sylweddol drwy gydol y gystadleuaeth, ynghyd â'r cyfle i roi eu busnes o flaen buddsoddwyr, dylanwadwyr a...
Heddiw (23 Medi 2022), mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gostyngiadau yn ystod y flwyddyn i gyfraddau Yswiriant Gwladol a chanslo’r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel treth ar wahân. Dyma’r prif newidiadau: Bydd cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu torri 1.25 pwynt canran i gyflogeion, cyflogwyr a’r rhai hunangyflogedig, gan wrthdroi, i bob pwrpas, y cynnydd a gyflwynwyd yn Ebrill 2022 ar gyfer gweddill y flwyddyn dreth. Bydd y toriad hwn yn effeithiol...
Heddiw (Dydd Gwener 23 Medi), datgelodd y Canghellor ei Gynllun Twf. Y Canghellor yn datgelu cynllun twf newydd, gan fynd i’r afael â chostau ynni er mwyn gostwng chwyddiant, cefnogi busnesau a helpu cartrefi.. Y cynnydd yn y dreth gorfforaeth wedi’i ganslo, gan ei chadw ar 19% wrth i’r llywodraeth anelu at duedd o 2.5% yn y gyfradd twf. Cyfradd sylfaenol treth incwm i’w thorri i 19% yn Ebrill 2023 – blwyddyn yn gynharach nag...
Mae Institute of the Motor Industry (IMI) yn adolygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy'n cyfrannu'n uniongyrchol i gymwysterau ar gyfer y canlynol: Trwsio yn dilyn damweiniau - Corff Adeiladu'r Corff Gweithrediadau Rhannau Cymorth Wrth Ymyl y Ffordd, ac Adfer Cerbydau Mae'r Safonau’n parhau i fod yn adnodd gwerthfawr i lywio hyfforddiant galwedigaethol, cymwysterau a phrentisiaethau. Mae'r IMI eisiau i gyflogwyr, arbenigwyr y diwydiant a rhanddeiliaid perthnasol eraill gyfrannu at yr adolygiad er mwyn sicrhau bod y...
Mae Grŵp yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cynnal Digwyddiadau i Gyflenwyr Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) wyneb-yn-wyneb yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar 20 Hydref 2022 i gynnig cyfle i BBaChau rwydweithio ag uwch gynrychiolwyr o bob rhan o’r Adran. Dyma’r cyntaf o sawl digwyddiad rhanbarthol a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf. Bydd y digwyddiad yn cynnwys: prif araith gan...
Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar ystod o gynigion a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i gyfraddau annomestig yng Nghymru. Mae’r cynigion yn cynnwys y canlynol: cylchredau ailbrisio amlach gwella llif gwybodaeth rhwng llywodraeth a thalwyr ardrethi rhoi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ddiwygio rhyddhadau ac eithriadau adolygu rhyddhadau ac eithriadau darparu mwy o gyfleoedd i amrywio’r lluosydd gella sut y caiff y swyddogaethau prisio eu gweinyddu mesurau pellach i sicrhau y gallwn...
Mae cefnogaeth i aelwydydd, busnesau a sefydliadau sector cyhoeddus sy'n wynebu biliau ynni cynyddol wedi'i datgelu. Bydd cynllun newydd y Llywodraeth yn gweld prisiau ynni cwsmeriaid ynni annomestig fel busnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus yn cael eu lleihau – eu diogelu rhag costau ynni cynyddol Bydd gwaith y llywodraeth gyda chyflenwyr yn lleihau costau ynni cyfanwerthu - a'r cynnydd sylweddol mewn biliau y mae busnesau wedi'u gweld Mae'r gefnogaeth hon yn ychwanegol at y...
Mae’n amser Twrnameintiau Secure Code Warrior y 4 Cenedl! Mae'r twrnameintiau'n cynnig cyfle i gyfranogwyr gynrychioli eu rhanbarth: Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru a Lloegr, gan ganiatáu i chi gystadlu yn erbyn y cyfranogwyr eraill mewn cyfres o heriau cod bregus sy'n gofyn i chi amlygu problem, lleoli cod ansicr neu wendid, a/neu drwsio bregusrwydd. Bydd y deg uchaf sy’n cyrraedd y rownd derfynol ym mhob rhanbarth yn cystadlu yng Ngemau Cenedlaethol UK Secure by...
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd i helpu i ddatblygu’r dalent bresennol a’r genhedlaeth nesaf o dalent ym meysydd teledu a ffilm, cerddoriaeth a chynnwys digidol. Lansiodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, gronfa gwerth £1 miliwn hefyd er mwyn cefnogi’r cynllun newydd hwn. Mae’r diwydiannau creadigol yn hynod bwysig i economi a diwylliant Cymru. Yn ôl data ar gyfer 2021, roedd sectorau’r diwydiannau creadigol yng Nghymru – sy’n cynnwys 3,423 o...
Heddiw (20 Medi 2022), bydd cam allweddol yn cael ei gymryd i leihau’r llif o wastraff plastig sy’n dinistrio bywyd gwyllt a’r amgylchedd yng Nghymru gan y disgwylir i Fil sy’n gwahardd plastigion untro gael ei osod gerbron y Senedd. Mae mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yn ganolog i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Caiff y rhan fwyaf o blastigion eu gwneud o danwyddau ffosil. Gall eu lleihau gynorthwyo ein hymdrechion tuag at sero...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.