BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

531 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd 8000 o fusnesau yng Nghymru i gymryd rhan yn y bedwaredd Arolwg Masnach Cymru. Bydd y rhan fwyaf o fusnesau a wahoddir i gymryd rhan yn cyflogi dros 20 o bobl. Mi fydd ymateb pob busnes i Arolwg Masnach Cymru yn llywio gwaith i roi hwb i'n hadferiad economaidd ac adeiladu Cymru well. Dywedodd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru: "Mae’r digwyddiadau digynsail y tair blynedd diwethaf wedi arwain at...
Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn am y tair blynedd nesaf i ddathlu cynhwysiant mewn arloesedd. Bydd 50 o wobrau’n cael eu cynnig i fentrau micro, bach neu ganolig ledled y DU i gefnogi amrywiaeth mewn busnesau. Mae Innovate UK ac Innovate UK KTN yn cynnal digwyddiad briffio ar 26 Medi 2022, i roi mwy o wybodaeth i chi am y cwmpas ar gyfer y gystadleuaeth hon a'r gefnogaeth sydd...
Er mwyn diogelu eich eiddo deallusol y tu allan i'r DU, fel arfer, bydd angen i chi wneud cais ym mhob gwlad rydych chi eisiau amddiffyn eich eiddo deallusol ynddi. Mae hawliau eiddo deallusol (IP) yn diriogaethol. Maen nhw ond yn rhoi amddiffyniad yn y gwledydd lle cant eu caniatáu neu eu cofrestru. Os dim ond amddiffyniad yn y DU sydd gennych, efallai y bydd eraill yn cael defnyddio eich IP dramor heb dorri eich...
I nodi dyddiad Angladd Gwladol Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II, bydd dydd Llun, 19 Medi 2022, yn Ŵyl Banc genedlaethol. Bydd hyn yn caniatáu i unigolion, busnesau a sefydliadau eraill dalu eu parch i'w Mawrhydi a choffáu Ei theyrnasiad, tra'n nodi diwrnod olaf y cyfnod o alaru cenedlaethol. Bydd yr Ŵyl Banc hon yn gweithredu yn yr un modd â Gwyliau Banc eraill, ac nid oes hawl statudol i amser i ffwrdd. Gall cyflogwyr gynnwys...
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido Cyngor ar Bopeth Cymru, y sefydliad trydydd sector Settled a'r cyfreithwyr Newfields Law, sy’n arbenigo ar fewnfudo, er mwyn parhau i ddarparu cymorth, tan 31 Mawrth 2023, i wladolion yr Undeb Ewropeaidd (UE), yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir sydd am aros yng Nghymru. Ers mis Mehefin 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu...
Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Gwarant Pris Ynni i deuluoedd a busnesau tra'n cymryd camau ar frys i ddiwygio marchnad ynni sydd wedi torri. Gwarant Pris Ynni O 1 Hydref 2022, bydd 'Gwarant Pris Ynni' newydd yn golygu y bydd aelwyd nodweddiadol yn y DU nawr yn talu hyd at £2,500 y flwyddyn ar gyfartaledd am eu bil ynni am y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn awtomatig ac yn berthnasol i bob aelwyd. Bydd...
Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mae data ein gwaith gwyliadwriaeth yn parhau i ddangos bod cyffredinrwydd COVID-19 mewn cymunedau ac ysbytai yn gostwng yn dilyn y don ddiweddar a achoswyd gan is-deipiau BA.4 a BA.5 o amrywiolyn Omicron y coronafeirws. Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau o hyd, ac rydym newydd ddechrau cyflwyno brechiad atgyfnerthu yr hydref yn erbyn COVID-19. Bydd pawb sy’n gymwys yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu erbyn mis Rhagfyr a...
Eisiau dechrau neu dyfu eich busnes ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Archwiliwch adnoddau am ddim gan Enterprise Nation i'ch helpu i ddechrau arni. Darganfyddwch y Startup Kit i lansio eich menter a phori canllawiau arbenigol ar sut i lwyddo ar draws diwydiannau a sianeli poblogaidd. Mae'r Startup Kit yn cynnig yr holl offer a'r awgrymiadau sydd eu hangen arnoch i fod yn entrepreneur. Cewch gymorth i ddod o hyd i syniad, amlygu bwlch...
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi llunio canllawiau ar sut i atal damweiniau i blant ar ffermydd. Mae gan amaethyddiaeth un o'r cyfraddau anafiadau angheuol uchaf o unrhyw ddiwydiant ym Mhrydain Fawr ond dyma'r unig ddiwydiant risg uchel sy'n gorfod delio â phresenoldeb cyson plant. Mae ffermydd yn gartrefi yn ogystal â gweithleoedd, ac mae'n bosibl y bydd ymwelwyr, gan gynnwys plant, hefyd yn bresennol ar ffermydd. Gallwch ddod o hyd i gyngor...
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi deunydd newydd ar eu hwb i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) ynghylch delio gyda chwynion diogelu data, gan gynnwys canllawiau ar chwe cham allweddol i'w cymryd os ydych chi'n destun cwyn. Hyd yn oed gyda pholisïau diogelu data priodol ar waith, weithiau gall eich staff, contractwyr, cwsmeriaid neu eraill rydych yn cadw data amdanynt, fod yn anhapus â’r ffordd rydych chi wedi ymdrin â’u gwybodaeth bersonol. Mae eich...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.