BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

541 canlyniadau

Os yw eich busnes yn cynhyrchu neu'n mewnforio pecynnau plastig, gall fod yn amser cofrestru ar gyfer y Dreth Pecynnau Plastig (PPT) newydd. Rhaid i fusnesau o unrhyw faint a math gofrestru ar gyfer PPT ar GOV.UK os ydyn nhw'n disgwyl cynhyrchu neu fewnforio 10 tunnell neu fwy o becynnau plastig yn y 30 diwrnod nesaf, neu os ydynt wedi cynhyrchu neu fewnforio 10 tunnell neu fwy o becynnu plastig ers 1 Ebrill 2022. Os...
Mae Enterprise Nation yn cydweithio â Meta er mwyn cefnogi menywod ledled y DU sydd eisiau dechrau neu dyfu busnes, gyda hyfforddiant ar-lein am ddim ar gyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol. Mae'r hyfforddwyr #SheMeansBusiness achrededig yn cyflwyno calendr bywiog o hyfforddiant rhithwir a digwyddiadau gydol y flwyddyn i gefnogi menywod arloesol i wthio ffiniau ac ailddiffinio'r hyn sy'n bosibl i entrepreneuriaid benywaidd. Mae'r fenter yn cynnwys digwyddiadau chwarterol, cyfarfodydd misol a chanolfan adnoddau bwrpasol ar...
Mae cynllun ad-daliad TAW yn annog amgueddfeydd ac orielau i ddarparu mynediad am ddim ac agor mynediad at waith mewn casgliadau. Mae amgueddfeydd ac orielau yn cael eu hannog i wneud cais am ad-daliadau TAW i gefnogi agor yn rhad ac am ddim fel rhan o gynlluniau i hybu nifer yr ymwelwyr a rhoi mynediad at y celfyddydau a diwylliant i fwy o bobl. Gall unrhyw amgueddfa ac oriel sydd ar agor i'r cyhoedd am...
Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru. Dyddiad i’r dyddiadur: 17 i 23 Hydref 2022 Mae’r ymgyrch yn dathlu llwyddiannau dysgwyr a darpariaeth addysg oedolion ar draws Cymru, gan ysbrydoli miloedd o oedolion bob blwyddyn i gymryd rhan mewn ystod eang o gyfleoedd dysgu tra’n cynyddu ymwybyddiaeth o werth addysg oedolion. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Wythnos Addysg Oedolion - Learning and Work Institute (sefydliaddysguagwaith.cymru)
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi £32 miliwn heddiw (1 Medi 2022) i helpu ffermwyr a pherchenogion tir yng Nghymru i blannu 86 miliwn o goed cyn diwedd y degawd fel ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae’r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad byr a manwl gan y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd i weld sut orau i drechu’r rhwystrau sy’n cadw pobl rhag creu coetir. Mae angen i Gymru blannu 43,000 hectar o goetir newydd...
Cymorth Llywodraeth Cymru i helpu aelwydydd â’r pwysau ar gostau byw. Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 gan eu hawdurdod lleol. Diben yr arian yw rhoi cymorth tuag at dalu biliau tanwydd y gaeaf. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad tanwydd gaeaf sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU. Bydd y taliad ar gael i bob cwsmer ynni cymwys ni waeth sut y maent yn talu am danwydd. Mae hyn yn...
Os oes angen i chi gyflwyno cyfrifon gyda Thŷ'r Cwmnïau erbyn diwedd mis Medi 2022, defnyddiwch eu gwasanaethau ar-lein, lle y bo'n bosibl, a chaniatewch ddigon o amser cyn eich dyddiad cau. Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw cyflwyno cyfrifon cwmni. Gallech gael cofnod troseddol, dirwy neu gael eich datgymhwyso os nad ydych yn cyflwyno eich cyfrifon mewn pryd. Os ydych chi'n gwmni bach, ni allwch gyflwyno cyfrifon talfyredig, bellach. Darganfyddwch fwy am eich dewisiadau cyflwyno cyfrifon...
Heddiw (1 Medi 2022), mae Llywodraethau Cymru a'r DU yn gwahodd ceisiadau am borthladd rhydd cyntaf Cymru, a ddylai fod ar agor erbyn haf 2023. Ym mis Mai 2022, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb gyda Llywodraeth y DU i sefydlu Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru. Cytunodd Gweinidogion Cymru i gefnogi polisïau porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn dilyn cytundeb Llywodraeth y DU y byddai'n ateb galwadau Llywodraeth Cymru y byddai'r ddwy lywodraeth yn gweithredu fel 'partneriaeth...
Mae’r broses o gyflwyno pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref wedi dechrau heddiw (1 Medi 2022) yng Nghymru gyda phreswylwyr a staff cartrefi gofal ledled Cymru y rhai cyntaf i gael y brechlyn. Bydd pawb sy’n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu yr hydref yn cael eu gwahodd am frechiad gan eu byrddau iechyd. Bydd gwahoddiadau’n cael eu rhoi yn nhrefn y rhai mwyaf agored i niwed, gyda phawb sy’n gymwys yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu erbyn...
Rhaid i fusnesau gyflwyno datganiadau mewnforio drwy Wasanaeth Datganiadau Tollau o 1 Hydref 2022. Dim ond ychydig wythnosau sydd gan fusnesau sy'n mewnforio nwyddau ar ôl i symud i system dollau symlach newydd y DU. Mae'n rhaid cyflwyno datganiadau mewnforio drwy'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau newydd o 1 Hydref 2022 eleni pan fydd yn cymryd yr awenau o'r system Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF) ar gyfer datganiadau mewnforio. Mae...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.