BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

591 canlyniadau

Mae'n rhaid i fusnesau sy'n cyflwyno datganiadau mewnforio ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau o 1 Hydref 2022, pan fydd y system Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF) yn cau ar gyfer datganiadau mewnforio. Dylai busnesau wirio bod eu hasiantau tollau yn barod i ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Rhaid i'r rheiny sydd heb asiant tollau drefnu gwneud eu datganiadau eu hunain gan ddefnyddio meddalwedd sy'n gweithio gyda'r system. Gall gymryd sawl...
Mae The Great British Businesswoman Awards yn dwyn ynghyd gymuned gyfan y Great British Businesswoman Series i ddathlu’r menywod sy'n newid wyneb busnes ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r gwobrau'n arddangos y modelau rôl, eiriolwyr a mentoriaid busnes, yn ogystal â'r menywod ysbrydoledig sy'n arwain busnesau a'r rheiny sy'n esgyn i uchelfannau newydd! Mae The Great British Businesswoman Awards yn fwy na seremoni wobrwyo yn unig. Mae’n rhaglen ymgysylltu trwy gydol y flwyddyn, sy’n cyflwyno pwyntiau...
Heddiw (3 Awst 2022), bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn rhoi rhagflas o’r camau gweithredu sy’n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith a lle mae nifer uwch o ail gartrefi. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys nifer o ymyraethau megis anogaeth i berchnogion tai i roi cyfle teg i bobl leol wrth werthu eu heiddo. Bydd y Gweinidog hefyd yn cyhoeddi Comisiwn Cymunedau Cymraeg, fydd yn dod...
Sefydlodd ymchwil gan CIPD a gynhaliwyd yn 2021 fod 6 o bob 10 o fenywod sy'n gweithio ac sy’n profi'r menopos yn dweud ei fod yn cael effaith negyddol arnyn nhw yn y gwaith ar hyn o bryd. Mae un o bob deg menyw yn y DU yn gadael eu swyddi'n llwyr oherwydd symptomau'r menopos, nid yw un o bob pump menyw yn ceisio'r dyrchafiadau y maen nhw'n eu haeddu - gallai hyn fod yn...
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Ar 22 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU ddatganiad i’r wasg ynghylch cyflwyno’r brechlyn brech y mwncïod yn gyflymach yn Llundain. Diben y datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o ran effeithiau hyn ar gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru. Nid yw’r brechlynnau brech y mwncïod yn cael eu cynhyrchu i’w defnyddio’n rheolaidd mewn unrhyw wlad...
Gallwch nawr wneud cais ar gyfer Gwobrau Busnes Caerdydd 2022! Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflym fel canolfan ar gyfer gweithgarwch economaidd ac fel lle gwych i weithio a byw. Nid yn unig y mae cwmnïau gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn cael eu denu i adleoli i'r ddinas, mae cwmnïau presennol yn ehangu ac mae yna gyfleoedd newydd gyffrous i gwmnïau newydd mewn sectorau fel gwyddorau bywyd a'r economi ddigidol. Yn 2015, daeth Gwobrau Busnes cyntaf...
Bydd gwledd o sesiynau yn darparu prydau bwyd iach a gweithgareddau addysgol i blant a phobl ifanc ar gael eto'r haf hwn drwy'r rhaglen Bwyd a Hwyl. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hyd at £4.85 miliwn ar gyfer darparu Bwyd a Hwyl, a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn ysgolion yn ystod gwyliau'r haf. Mae'r sesiynau yn cynnig brecwast a chinio iach i blant a phobl ifanc, yn ogystal â gweithgareddau ymarfer corff...
Ar ôl diffinio'ch gweledigaeth yn glir a pharatoi eich hun yn feddyliol ar gyfer eich cenhadaeth, mae un cam pellach i'w gymryd cyn i chi anelu am y sêr. Mae angen i chi gydnabod, yn y pen draw, mai chi sy'n gyfrifol am lwyddo neu fethu, ac mai chi fydd y prif sbardun y tu ôl i'ch ymgais. Mae hyn yn golygu mai chi fydd â’r cyfrifoldeb, a bydd angen i chi fod yn barod...
Bydd miliynau o gartrefi ledled Prydain Fawr yn derbyn gostyngiadau na fydd angen eu had-dalu ar eu biliau ynni y gaeaf hwn, wrth i lywodraeth y DU amlinellu manylion pellach y Cynllun Cymorth Biliau Ynni. Bydd y gostyngiad o £400, sy'n cael ei weinyddu gan gyflenwyr ynni, yn cael ei dalu i ddefnyddwyr dros 6 mis gyda thaliadau'n cychwyn o fis Hydref 2022, er mwyn sicrhau bod aelwydydd yn derbyn cymorth ariannol trwy gydol misoedd...
Bydd ail Gynhadledd flynyddol Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) De Cymru, yn benodol ar gyfer busnesau bach yn y rhanbarth, yn helpu perchnogion a rheolwyr i ddeall sut y gallant dyfu eu busnesau. Bydd y gynhadledd yn dod â busnesau ac arbenigwyr ynghyd i ganolbwyntio ar sut y gall busnesau bach gyflymu eu twf mewn ffordd barhaus a chynaliadwy. Bydd sesiynau amrywiol drwy'r dydd yn helpu busnesau i ddeall: Sut y gallant amlygu opsiynau strategol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.