news and blogs Archives
601 canlyniadau
Mae CIPD wedi casglu rhywfaint o wybodaeth ymarferol i gyflogwyr i gefnogi eu gweithwyr drwy'r argyfwng costau byw. Yn erbyn cefndir o brisiau cynyddol am fwyd, ynni a nwyddau a gwasanaethau hanfodol eraill, mae llawer o gyflogwyr yn y DU yn gofyn beth y gallant ei wneud i gefnogi lles ariannol eu pobl. Y newyddion da yw, hyd yn oed os na allwch fforddio cynnig codiadau cyflog sy'n curo chwyddiant, mae llawer y gallwch ei...
Mae cronfa newydd gwerth £5 miliwn wedi agor heddiw ar gyfer prosiectau a fydd yn darparu triniaethau gofal iechyd arloesol i gyn-filwyr. Bydd y cyllid yn cefnogi sefydliadau sy'n ceisio ymchwilio i a threialu technoleg arloesol a allai helpu cyn-filwyr ag anghenion gofal iechyd cymhleth. Weithiau, bydd cyn-filwyr yn wynebu problemau iechyd unigryw o ganlyniad i'w gwasanaeth milwrol a bydd y Gronfa Arloesi Iechyd Cyn-filwyr yn sbarduno arloesedd mewn technegau a fydd yn y pen...
Mae'r Rhaglen Innovation Exchange yn gweithio ochr yn ochr ag Oxford Innovation Advice a’r UK National Innovation Centre for Ageing (NICA) i ddod o hyd i gwmnïau arloesol sydd ag uchelgais i dyfu eu busnes. Mae'r gystadleuaeth yn chwilio am arloeswyr gyda syniadau ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd a all gefnogi pobl i gadw'n iach ac yn egnïol i'n helpu i barhau i fod yn symudol a chysylltiedig wrth i ni heneiddio. Y farchnad...
Bydd busnesau a gweithwyr, yn enwedig y rheiny yn yr economi gig, yn elwa ar fwy o eglurder ynghylch eu statws cyflogaeth, diolch i ganllawiau newydd a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU. Mae gan bobl sydd â statws cyflogaeth gwahanol hawliau gwahanol wedi'u nodi’n gyfreithiol. Nod yr hawliau yw amddiffyn unigolion. Mae'r rhan fwyaf o'r hawliau yn orfodol, ac fel arfer does dim modd eu dileu. Mae’r canllawiau manwl yn ategu canllawiau statws cyflogaeth GOV.UK...
Yn y sesiwn ar-lein a gynhaliwyd gan Croeso Cymru y llynedd, cafodd busnesau twristiaeth gyfle i glywed gan yr RNLI ac AdventureSmart UK ynghylch sut i helpu gwesteion ac ymwelwyr i gadw'n fwy diogel yn yr awyr agored. Mae adnoddau o'r weminar hon yn dal i fod ar gael ar Arhoswch yn Fwy Diogel yn yr Awyr Agored | Busnes Cymru (gov.wales) Gyda milltiroedd o arfordir, afonydd a llynnoedd trawiadol i'w harchwilio yng Nghymru, mae'r...
Bydd cynllun cymorth hanfodol sy'n cynnig benthyciadau a gefnogir gan lywodraeth y DU i fusnesau bach yn cael ei ymestyn am ddwy flynedd arall. Mae'r Cynllun Benthyciadau Adfer (RLS), a lansiwyd yn wreiddiol ym mis Ebrill 2021 i helpu busnesau sy'n adfer o bandemig Covid-19, wedi cefnogi bron i 19,000 o fusnesau, gyda chefnogaeth gwerth £202,000 ar gyfartaledd. Mae’r benthyciad mwyaf y gellir ei gael yn parhau i fod hyd at £2 miliwn. Fodd bynnag...
Mae BSI yn gweithio gyda BEIS a'r ymgyrch Ras i Sero i gyflenwi 100,000 o gopïau am ddim o BS ISO 50005, gan sicrhau ni waeth beth yw maint sefydliad, gall pawb gymryd y cam cyntaf i ddyfodol Sero Net. Mae safon ISO 50005 yn darparu modd i BBaChau ddatblygu dull ymarferol, cost isel o reoli ynni i leihau'r defnydd o ynni, biliau ynni ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae defnyddio dull graddol yn galluogi...
Mae Gwobr yr UE i Arloeswyr Benywaidd yn dathlu'r entrepreneuriaid benywaidd y tu ôl i arloesiadau trawsnewidiol. Trwy wneud hynny, mae'r UE yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o arloeswyr benywaidd a chreu modelau rôl ar gyfer menywod a merched ym mhob man. Dyfernir y wobr i'r entrepreneuriaid benywaidd mwyaf talentog o bob rhan o'r UE a gwledydd sy'n gysylltiedig â Horizon Europe, sydd wedi sefydlu cwmni llwyddiannus ac wedi cyflwyno arloesedd i'r...
Mae CThEM yn anfon llythyr at fasnachwyr ynghylch gweithredu nawr i symud i’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn gwneud eich datganiadau eich hun neu os bydd rhywun yn cyflwyno datganiadau mewnforio ac allforio ar eich rhan. Efallai na fyddwch yn gallu parhau i fasnachu os na fyddwch yn symud i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau mewn pryd. Ar ôl 30 Medi 2022, bydd y system Tollau Tramor ar Gludo Nwyddau Mewnforio ac...
Mae Gwobrau Caws y Byd, sy’n ddigwyddiad caws gwirioneddol fyd-eang, yn dod â gwneuthurwyr caws, manwerthwyr, prynwyr, defnyddwyr a sylwebyddion bwyd ledled y byd at ei gilydd i farnu bron i 4,000 o gawsiau o dros 40 o wledydd. Gydag emosiynau cymysg ond gyda balchder a chyffro enfawr, rydym yn mynd â rhifyn 2022 o Wobrau Caws y Byd i Gymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Dylai'r gwobrau fod yn cael eu cynnal yn Kyiv ym...
Pagination
- Previous page
- Page 60
- Next page