news and blogs Archives
841 canlyniadau
Eich eiddo deallusol yw un o’ch asedau busnes pwysicaf ac mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol am helpu busnesau ledled y DU i ddiogelu a manteisio i’r eithaf ar eu heiddo deallusol nhw. Bydd gan bron bob buses ryw fath o eiddo deallusol, ac mae’n bwysig gwybod sut y gallwch ei ddiogelu i sicrhau nad oes unrhyw un arall yn eich copïo. Mae eiddo deallusol yn rhywbeth rydych chi’n ei greu gan ddefnyddio’ch meddwl - er enghraifft...
Cyflwynodd y Canghellor Ddatganiad Cyllideb Gwanwyn heddiw (23 Mawrth 2022) sy'n cynnwys: trothwyon talu Yswiriant Gwladol yn codi i £12,570 o fis Gorffennaf 2022 y dreth tanwydd ar gyfer petrol a disel yn cael ei thorri 5c y litr torri cyfradd sylfaenol treth incwm 1c yn y bunt yn 2024 cynnyddu'r Cyflog Byw Cenedlaethol toriad i'r cyfradd tapr Credyd Cynhwysol Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan: GOV.UK (www.gov.uk) Spring Statement 2022: documents - GOV.UK...
Eisiau gwybod sut bydd ymuno â’r Chwyldro Ail-lenwi o fudd i’ch busnes? Gwyliwch y ffilm fer hon i wybod mwy: Mae cael eich cynnwys ar yr ap Ail-lenwi yn eich cysylltu â miloedd o ddefnyddwyr yr ap yng Nghymru sy’n chwilio am lefydd lle gallant ail-lenwi eu poteli dŵr yn rhad ac am ddim. Rhowch eich tap ar y map a manteisio ar fwy o sylw, cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’ch busnes, a chyfle...
Ers dros 50 mlynedd, roedd talwyr ardrethi a oedd yn meddiannu mwy nag un uned o eiddo mewn adeilad a rennir gyda busnesau a sefydliadau eraill yn cael eu hasesu ar gyfer ardrethi annomestig (NDR) yn seiliedig ar y rhagosodiad canlynol: Lle'r oedd eu hunedau eiddo yn gyffiniol (yn cyffwrdd), roeddent yn cael un bil ardrethi. Lle'r oedd yr unedau o eiddo'n cael eu gwahanu gan fusnes arall neu arwynebedd mewn cyd-ddefnydd, roeddent yn cael...
Bydd prosiect llanw pwysig oddi ar Ynys Môn yn elwa ar £31 miliwn sy’n debygol o fod y grant mawr olaf gan raglen ariannu ranbarthol yr UE. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James wedi cadarnhau y bydd arian yn cael ei roi i brosiect seilwaith Morlais Menter Môn. Nod datblygiad Seilwaith Morlais yw datblygu technoleg cynhyrchu ynni’r llanw ymhellach drwy gysylltiad â’r grid. Mae Grŵp Cynghori yn cael ei sefydlu i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu...
Ymunwch â ni 25 Mawrth – 10 Ebrill 2022. Yn ystod y gwanwyn eleni, rydym yn galw arnoch i’n helpu i ddiogelu’r amgylchedd am fod gweithredoedd bach ar eich stepen drws yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym eisiau ysbrydoli miloedd ohonoch chi, #ArwyrSbwriel ar hyd a lled Cymru, i ddod ynghyd i gasglu a gwaredu sbwriel yn ddiogel o’n strydoedd, mannau gwyrdd a’n traethau. Mae’r neges eleni yn syml. Ymunwch â ni a gwnewch addewid i...
O Orffennaf 2022, bydd angen cynnal archwiliadau ffisegol ac adnabod ac archwilio tystysgrifau a dogfennau ar gynnyrch anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Llywodraeth y DU am roi gwybodaeth i fusnesau cyn bod y mesurau rheoli mewnforion yn cael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf. Bydd Defra’n cynnal cyfres o weminarau a sesiynau holi ac ateb fydd yn rhoi gwybodaeth fanwl am...
Mae angen i chi gofrestru ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig os ydych chi wedi gweithgynhyrchu neu fewnforio 10 neu ragor o dunelli o gydrannau pecynnau plastig gorffenedig yn ystod y 12 mis diwethaf, neu os byddwch chi’n gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf. Rhwng 1 Ebrill 2022 a 30 Mawrth 2023, bydd y trothwy 12 mis yn cael ei gyfrifo’n wahanol, Dim ond gwneuthurwyr a mewnforwyr cydrannau pecynnau plastig sy’n cynnwys...
Mae rheolaethau tollau llawn bellach ar waith ar gyfer masnachu rhwng Prydain Fawr (Cymru, yr Alban a Lloegr) a'r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae hyn yn golygu y bydd angen datganiadau tollau llawn a thalu’r tariffau perthnasol ar bob nwydd sy'n cael ei fewnforio gan eich cleient o'r UE, ar adeg mewnforio. Symud nwyddau rhwng Iwerddon a Phrydain Fawr Bydd y trefniadau presennol yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer nwyddau nad ydynt yn cael...
Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i fentrau meicro, bach a chanolig. Mae’r benthyciadau ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu arloesol iawn sydd wedi cyrraedd cam hwyr yn y broses ac sydd â’r potensial gorau ar gyfer y dyfodol. Dylid cael llwybr clir i fasnacheiddio ac effaith economaidd. Bydd y benthyciadau yn cefnogi prosiectau arloesol sydd â’r potensial cryfaf i gefnogi twf economaidd yn y dyfodol a mynd i’r afael...
Pagination
- Previous page
- Page 84
- Next page