BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

851 canlyniadau

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Nhregaron, Ceredigion rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022. Er mai cystadlu yw calon yr ŵyl, a’i bod yn denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, mae'r Maes ei hun wedi tyfu a datblygu'n ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu cyfan. Mae'r Brifwyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, felly bachwch ar y cyfle hwn i hyrwyddo'ch busnes i gynulleidfa...
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £4 miliwn dros y flwyddyn nesaf i helpu busnesau o Gymru i ddod o hyd i gyfleoedd allforio newydd mewn marchnadoedd byd-eang, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw: buddsoddiad o £4 miliwn mewn rhaglenni i greu allforwyr newydd ac i helpu busnesau sy’n allforio eisoes i dyfu ac ehangu i farchnadoedd newydd dramor cyhoeddi rhaglen newydd o ddigwyddiadau rhyngwladol, gan gynnwys teithiau masnach i Ogledd America ac...
Cynhelir y Diwrnod Ailgylchu Byd-eang ddydd Gwener 18 Mawrth, a'r thema eleni yw #ArwyrAilgylchu. Mae'n cydnabod y bobl, y lleoedd a'r gweithgareddau sy'n dangos sut mae'r Seithfed Adnodd ac ailgylchu yn cyfrannu at blaned amgylcheddol sefydlog a dyfodol gwyrddach i bawb. Bob blwyddyn, mae'r Ddaear yn cynhyrchu biliynau o dunelli o adnoddau naturiol a ddaw i ben, rhywbryd yn y dyfodol agos. Dyna pam fod yn rhaid i ni feddwl eto am yr hyn rydyn...
Mae Gwobrau Cyllid Cymru wedi’u llunio i adnabod, denu a buddsoddi yn y gweithwyr proffesiynol a thalentog sy’n gweithio ym maes cyllid yng Nghymru. Dyma’r categorïau eleni: Prif Swyddog Ariannol/Cyfarwyddwr Cyllid y Flwyddyn (dros £25 miliwn) Prif Swyddog Ariannol/Cyfarwyddwr Cyllid y Flwyddyn (hyd at £25 miliwn) Cyfarwyddwr Cyllid Ifanc y Flwyddyn Rheolwr Cyllid y Flwyddyn Cyfrifydd y Flwyddyn Technegydd Cyfrifon y Flwyddyn Seren Newydd y Flwyddyn Tîm Cyllid (Gwasanaethau Ariannol) Y Flwyddyn Tîm Cyllid Bach...
Mae tua 420,000 o bobl anabl o oedran gweithio yng Nghymru, sy’n golygu bod cronfa enfawr o dalent heb ei chyffwrdd yn aros i lenwi eich swyddi gwag. Ymunwch â’r weminar fer hon i gael cyngor arbenigol am ddim ar sut mae creu gweithlu amrywiol yn gallu cynyddu ceisiadau o safon ar gyfer eich swyddi gwag, a chreu gweithlu cynhwysol sy’n adlewyrchu amrywiaeth eich cwsmeriaid. Manylion y Digwyddiad; Pryd: Dydd Iau, 7 Ebrill 2022, 10:00am...
Mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol Prydain (NCSC) yn cynghori sefydliadau i fanteisio ar y cyfle i gryfhau gwydnwch seiber, wrth i’r bygythiad seiber gynyddu. Gallai hynny olygu mesurau technegol, ond mwy o graffu a gwyliadwriaeth hefyd, sicrhau bod systemau'n cael eu clytio a'u diweddaru, ac atgoffa staff o arferion da gydag e-byst ac ymosodiadau gwe-rwydo. Am ragor o wybodaeth, ewch i: NCSC advises organisations to act following Russia’s... - NCSC.GOV.UK Mae cyfoeth o gyngor ac arweiniad...
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar Orchymyn drafft. Mae'r Gorchymyn yn newid y ffordd y caiff llety hunanddarpar ei drin at ddibenion trethiant lleol. At ddibenion trethiant lleol, mae eiddo’n cael ei gategoreiddio naill ai’n eiddo domestig neu'n eiddo annomestig. Y dreth gyngor sy’n cael ei thalu ar eiddo domestig. Ardrethi annomestig sy’n cael eu talu ar eiddo annomestig. Gelwir y rhain yn ardrethi busnes hefyd. Er mwyn bod yn atebol i dalu ardrethi...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fis Ebrill 2022. Yn llawn, dyma’r cynnydd: Y Cyflog Byw Cenedlaethol (23+) yn codi o £8.91 i £9.50 Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (21-22) yn codi o £8.36 i £9.18 Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (18-20) yn codi o £6.56 i £6.83 Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (16-17) yn codi o £4.62 i £4.81 Cyflog Prentisiaeth yn codi o £4.30 i...
Dathlwch ferched anhygoel! Mae elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw Cymru yn dathlu llwyddiannau menywod o bob cefnir a chyfnod mewn bywyd ar hyd a lled Cymru. Mae Gwobrau Womenspire yn canu cydnabod menywod o bob agwedd ar fywyd, gan ddathlu llwyddiannau personol a chyfraniad eithriadol. Mae'r enwebiadau ar agor ac mae'r categorïau eleni yn cynnwys: Cysylltydd Cymunedol Pencampwraig Gymunedol Entrepreneur Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd Arweinydd Dysgwr Seren Ddisglair Menyw Mewn Iechyd a Gofal Menyw Mewn Chwaraeon Menyw...
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido Cyngor ar Bopeth Cymru, y sefydliad trydydd sector Settled a'r cyfreithwyr Newfields Law, sy’n arbenigo ar fewnfudo, tan 30 Medi 2022, er mwyn parhau i ddarparu cymorth i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir sydd am aros yng Nghymru. Er i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.