news and blogs Archives
861 canlyniadau
Croesewir cynigion o bob sector ledled y diwydiannau Cyfathrebu a Chynnwys, gan gynnwys cyhoeddi, papur, argraffu a phecynnu, cynhyrchion swyddfa, marchnata, meddalwedd a gemau, cyfathrebu, addysg, darlledu, newyddiaduraeth a’r cyfryngau digidol. Anogir enwebiadau gan gwmnïau masnachol, busnesau newydd, elusennau, cymdeithasau masnach, sefydliadau addysgol a chyrff cyhoeddus fel amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau ac archifau. Gellir rhoi cynnig ar y gwobrau am ddim. Mae chwe Gwobr i gyd: Proses Busnes Cyfathrebu a Marchnata Profiad Cwsmeriaid Cynllunio Cynnyrch Cynllun...
Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar bobl ar hyd a lled y wlad i ymuno ag ymgynghoriad cenedlaethol a fydd yn helpu i lunio ei strategaeth i wneud Cymru’n ddi-fwg erbyn 2030. Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a rhoi mwy o gymorth i helpu pobl i roi’r gorau i smygu yn allweddol i uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n ddi-fwg cyn diwedd y degawd. Ar hyn o bryd, mae tua 14% o bobl...
Mae Cronfa Gweithgynhyrchu Arloesol Gwyddorau Bywyd (LSIMF) yn rhan o Gronfa Fuddsoddi Prydain Fyd-eang, a bydd £354 miliwn ohono'n cefnogi’r gwaith o weithgynhyrchu ym maes gwyddorau bywyd. Bydd yr LSIMF ei hun yn darparu £60 miliwn mewn grantiau cyfalaf ar gyfer buddsoddi yn y gwaith o weithgynhyrchu: • meddyginiaethau dynol (cynnyrch cyffuriau a chyffuriau) • diagnosteg feddygol • Cynhyrchion MedTech Anogir ceisiadau yn enwedig gan gwmnïau sy'n barod i ddefnyddio eu technolegau newydd ar raddfa...
Mae CThEM yn rhybuddio unigolion i beidio â rhannu eu gwybodaeth bersonol ar-lein er mwyn osgoi bod eu manylion yn cael eu defnyddio i hawlio ad-daliadau treth ffug wedi Hunanasesiad. Mae unigolion, yn amrywio o bobl ifanc yn eu harddegau i bensiynwyr, yn cael eu targedu ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol gan dwyllwyr sy’n ceisio ‘benthyg’ eu manylion personol. Yn gyfnewid am hynny, rhoddir addewid i unigolion am gyfran o’u had-daliadau treth ‘heb unrhyw risg’. Mae...
Mae enwebiadau Chambers Wales ar gyfer y De-ddwyrain, y De-orllewin a’r Canolbarth wedi agor ar gyfer Gwobrau Busnes Cymru 2022 hirddisgwyliedig, gan roi’r cyfle i BBaChau ledled y wlad gystadlu am wobrau mwyaf mawreddog Cymru. Er mwyn creu gwell profiad i gystadleuwyr, mae’r broses enwebu wedi’i symleiddio eleni ac mae modd cystadlu ar ffurf fideo ar gyfer y categorïau amrywiol isod: Busnes digidol y flwyddyn Busnes byd-eang y flwyddyn Busnes gwyrdd y flwyddyn Busnes arloesol...
Mae canllawiau newydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ar wyliadwriaeth yn darparu adnodd wedi'i ddiweddaru i sefydliadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus, sy'n mynd i'r afael â chymwysiadau technolegau gwyliadwriaeth fideo newydd, a disgrifiad mwy cynhwysfawr o sut mae GDPR y DU a DPA 2018 yn berthnasol. Mae'r technolegau'n cynnwys: Teledu cylch cyfyng traddodiadol ANPR Fideo a wisgir ar y corff (BWV) Technoleg adnabod wynebau (FRT) Dronau Technolegau mwy masnachol sydd ar gael fel clychau...
Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd busnesau sy'n recriwtio prentisiaid anabl llawn amser dros y flwyddyn nesaf yn gallu disgwyl derbyn cymhelliant ychwanegol o £2,000. Mae Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr ar gyfer Prentisiaid Anabl Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd i annog cyflogwyr i gael profiad uniongyrchol o fanteision recriwtio pobl anabl, yn cael ei ymestyn o 1 Ebrill 2022 tan ddiwedd mis Mawrth 2023, gyda chynnydd o £500. Mae'r ymrwymiad yn cefnogi cynllun...
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cysylltu â chyflogwyr am eu cymorth i helpu gweithwyr i ddeall bod y cyfraniad Yswiriant Gwladol cynyddol o 1.25 pwynt canran o 6 Ebrill 2022 yn helpu i ariannu'r GIG, iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw'n gofyn i gyflogwyr gynnwys neges ar slip cyflog pob gweithiwr a gaiff ei effeithio gan hyn, rhwng 6 Ebrill 2022 a 5 Ebrill 2023, gan esbonio'r cyfraniad Yswiriant Gwladol cynyddol. Dylai'r neges...
Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi datgelu cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl yng Nghymru i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Mae'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau newydd yn nodi'r camau y bydd Gweinidogion yn eu cymryd i gyflawni'r Warant i Bobl Ifanc, cefnogi’r bobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur i ddod o hyd i waith, a chanolbwyntio ar wella’r canlyniadau yn y farchnad lafur...
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn galw am farn pobl fel rhan o adolygiad o’r system dyluniadau i sicrhau ei fod yn parhau yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae’r system dyluniadau yn galluogi deiliaid hawliau i ddiogelu dyluniadau a gorfodi eu hawliau. Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn ceisio barn a thystiolaeth gan ddefnyddwyr y system fel y gallant sicrhau bod fframwaith dyluniadau’r DU yn gweithio ar gyfer y busnesau, defnyddwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n...
Pagination
- Previous page
- Page 86
- Next page