BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

961 canlyniadau

Beth yw Gweithlu Bwyd Cymru? Mae Gweithlu Bwyd Cymru yn ymgyrch a gyflenwir gan Sgiliau Bwyd Cymru (Lantra) ar ran Bwyd a Diod Cymru (Llywodraeth Cymru). Gan arddangos pa mor foddhaus ac amrywiol y gall gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru fod, nod yr ymgyrch hon yw i roi ffocws ar rolau sydd yn helpu i fwydo’r genedl. O gyfrannu ar draws y gadwyn gyflenwi a chynhyrchu bwyd i fod ar flaen...
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd sylwadau ar gynigion i newid tâl ac amodau gweithwyr amaethyddol. Mae hyn yn cynnwys: Cyfraddau a lwfansau cyflog lleiaf. Cynnwys seibiannau o fewn y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 7 Chwefror 2022. Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.Cymru
Mae’n rhaid i chi ddarparu’r cyfleusterau iawn i bawb yn eich gweithle, gan gynnwys pobl ag anableddau. Mae’n rhaid i chi fod â’r canlynol: cyfleusterau lles – y nifer cywir o doiledau a basnau ymolchi, dŵr yfed a rhywle i orffwys a bwyta pryd amgylchedd gwaith iach – gweithle glân gyda thymheredd gwaith rhesymol, awyru da, goleuadau addas a digon o le a seddi gweithle diogel – cyfarpar yn cael ei gadw mewn cyflwr da...
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o gefnogaeth i adfywio canol trefi Cymru. Y nod yw galluogi busnesau i gynllunio prosiectau sy'n arwain at dwf economaidd ynghyd â'u helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data i helpu cwmnïau ddeall sylfaen a thueddiadau eu cwsmeriaid yn well, er mwyn cefnogi busnesau yn eu gweithgareddau cynllunio a marchnata yn y dyfodol. A wnaethoch chi golli'r cyfle i fynychu un...
Mae Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, wedi datgelu cynlluniau i drawsnewid y diwydiant gwastraff yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws mynd i'r afael ag allforion anghyfreithlon ac ar droseddau gwastraff. Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cyd â gwledydd eraill y DU ar wasanaeth olrhain gwastraff digidol. Byddai'r gwasanaeth olrhain yn ei gwneud yn orfodol i'r rhai sy'n trin gwastraff gofnodi gwybodaeth am yr hyn...
As the end of January is fast approaching, it's a good a time as any to reflect on the past year - our experiences, challenges and how we've overcome them. 2021 has been quite a year for all of us, I’m sure you’ll agree. For me, it’s been a year of change – there’s been some big ones, change of house, change of job (twice!), becoming a secondary carer to my mum. Some changes I...
Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero ar 28 Ionawr 2022, oni bai fod y sefyllfa iechyd gyhoeddus yn gwaethygu. Bydd y cynllun i lacio’r mesurau lefel rhybudd dau yn raddol a symud yn ôl i lefel rhybudd sero yn parhau. O ddydd Gwener 21 Ionawr 2022 ymlaen, bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored. Mae...
Ydy’ch busnes chi’n cyrraedd y safonau gofynnol yng Nghymru? Bydd safon diwydiant ‘We’re Good To Go’, sy’n sicrhau cwsmeriaid bod eich busnes yn dilyn canllawiau diogelwch COVID diweddaraf y Llywodraeth, yn parhau hyd ddiwedd mis Mawrth 2022. Nawr, gall busnesau sy’n cymryd rhan lawrlwytho eu tystysgrif ‘We're Good To Go’, i’w harddangos ar eu safle a dangos eu bod wedi cymryd y camau gofynnol i groesawu eich ymwelwyr yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth ac Iechyd...
Mae Acas yn gweithio gyda miliynau o gyflogwyr a gweithwyr bob blwyddyn i wella perthnasoedd yn y gweithle. Mae Acas yn darparu cyngor cyfrinachol am ddim i gyflogwyr o bob maint ac ar draws pob diwydiant sydd â chwestiynau am reolau cyflogaeth, y gyfraith, dyletswydd gofal cyflogwyr a pholisïau a gweithdrefnau AD. Ffoniwch linell gymorth Acas ar 0300 123 1100, dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm. Neu anfonwch neges breifat at @acasorguk ar...
Os ydych yn gyflogwr sydd â llai na 250 o weithwyr, a'ch bod wedi talu Tâl Salwch Statudol i'ch gweithwyr am absenoldebau sy'n gysylltiedig â salwch neu hunanynysu sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws, gallech fod yn gymwys i gael cymorth. Byddwch yn derbyn ad-daliadau ar gyfradd safonol berthnasol y Tâl Salwch Statudol a dalwyd gennych i'ch gweithwyr presennol neu gyn-weithwyr am unrhyw gyfnodau cymwys o salwch a ddechreuodd ar neu ar ôl 21 Rhagfyr 2021. Byddwch...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.