BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

971 canlyniadau

Mae cymuned bysgota Cymru yn cael ei gwahodd i gyflwyno ceisiadau i gronfa gwerth £1 filiwn a fwriedir yn bennaf i helpu i liniaru'r effaith y mae Covid yn parhau i’w chael ar y diwydiant, a’i helpu i addasu yn wyneb y newidiadau i amodau'r farchnad ar gyfer cynhyrchion bwyd môr. Mae Cronfa Pysgodfeydd Morol Ewrop (EMFF) yn cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd ac mae wedi cefnogi llawer...
Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw'r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. O 15 Gorffennaf 2022, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu eu heiddo. Bydd yn gwella'r ffordd yr ydym yn rhentu, rheoli a byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru. Ar bwy y bydd y gyfraith newydd yn effeithio? Tenant cymdeithasol a phreifat, bob landlord cymdeithasol a phreifat, gan gynnwys y...
Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i thargedu at fusnesau a sefydliadau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio’n sylweddol gan ostyngiad o fwy na 50% o drosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022. Amcan y gronfa yw ategu mesurau ymateb Covid-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru. Bydd y Gronfa yn cefnogi: Busnesau wedi cael eu heffeithio rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14...
Bydd Awdurdodau Lleol yn darparu cronfa ddewisol i fusnesau sy'n anghymwys i gael cymorth Cyfradd Ardrethi Annomestig gyda throsiant llai na £85,000 drwy broses ymgeisio fer. Bydd unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsis yn gallu gwneud cais am £1,000 a gall busnesau sy'n cyflogi pobl wneud cais am £2,000. Mae'r cyllid hwn hefyd ar gael i weithwyr llawrydd yn y sectorau creadigol. Am ragor o wybodaeth, ewch i Y Gronfa Argyfwng Busnes | Drupal...
O dan Ddeddf Pensiynau 2008, rhaid i bob cyflogwr yn y DU drefnu bod staff penodol yn rhan o gynllun pensiwn y gweithle a chyfrannu ato. Gelwir hyn yn 'gofrestru awtomatig'. Os ydych chi'n cyflogi o leiaf un person, rydych chi'n gyflogwr â dyletswyddau cyfreithiol penodol. Mae'n bwysig eich bod yn deall beth i'w wneud ac erbyn pryd, er mwyn cyflawni eich dyletswyddau cofrestru awtomatig yn brydlon. Mae eich dyletswyddau cyfreithiol yn dechrau ar ddiwrnod...
Oni bai bod angen addasiadau i amodau gwaith am resymau sy’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch neu feichiogrwydd ar weithiwr beichiog, dylech eu trin yr un fath ag unrhyw weithiwr arall. Mae canllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnig cyngor syml ar y pethau y dylai ac na ddylai cyflogwyr eu gwneud er mwyn gofalu nad ydyn nhw’n gwahaniaethu yn erbyn y rhai sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch...
O 1 Ionawr 2022, rhaid i unrhyw un sy'n symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r Undeb Ewropeaidd (UE) drwy leoliad ar ffin sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau (GVMS) gofrestru gyda’r gwasanaeth. Gweler y Canllawiau ar wefan HMRC ar sut i wneud cais. Bydd y trefniadau presennol ar gyfer symud nwyddau o ynys Iwerddon i Brydain Fawr yn parhau, wrth i’r trafodaethau ar Brotocol Gogledd Iwerddon fynd yn eu blaenau. Ond bydd y gofynion newydd...
Beth yw CyberAlarm yr Heddlu? Mae CyberAlarm yr Heddlu yn adnodd am ddim i helpu’ch busnes i ddeall a monitro gweithgarwch seiber maleisus. Mae’n gweithredu fel “Camera CCTV” sy’n monitro traffig a welir gan gysylltiad eich busnes â’r rhyngrwyd. Bydd yn canfod a darparu adroddiadau rheolaidd am weithgarwch maleisus amheus, gan leihau pa mor agored yw’ch busnes i niwed. Ar ôl i chi ddod yn aelod o CyberAlarm yr Heddlu, byddwch yn gosod ‘Gweinydd Rhithwir...
Mae CThEM yn datblygu system ar gyfer gwiriadau treth a fydd yn berthnasol wrth adnewyddu trwyddedau gyrwyr tacsi a safleoedd metel sgrap, i enwi dim ond rhai, yng Nghymru a Lloegr. Bydd y gwiriad yn cael ei integreiddio i’r cais am drwydded ac ni fydd asiantau yn gallu ei gwblhau ar ran cleientiaid. O fis Ebrill 2022, wrth adnewyddu trwyddedau penodol yn y sectorau trafnidiaeth a metel sgrap, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gwblhau gwiriad...
Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS Gallwn nawr edrych yn fwy hyderus tua’r dyfodol a chynllunio ar gyfer dechrau codi cyfyngiadau rhybudd lefel dau. Rydym heddiw yn cyhoeddi cynllun i ddychwelyd i lefel rhybudd sero. Fel o’r blaen, byddwn yn dechrau trwy lacio’r cyfyngiadau yn yr awyr agored. Mae un newid yn cael ei wneud ar unwaith – o fory (15 Ionawr 2022), bydd nifer y bobl sy’n cael bod mewn digwyddiad awyr agor yn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.