BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

131 canlyniadau

Mae Gwobrau Entrepreneuriaid Barclays yn ôl ac ar agor nawr ar gyfer enwebiadau. Mae'r Gwobrau'n dathlu'r entrepreneuriaid hynny sy'n tarfu ar y sefyllfa bresennol, gan yrru arloesedd a chefnogi cymunedau a'r economi yn ehangach. Dyma’ch cyfle i arddangos eich busnes a'r daith rydych chi wedi bod arni hyd yn hyn. Bydd yr enwebiadau'n cau am hanner nos, ddydd Gwener, 30 Mehefin 2023. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Entrepreneur Awards | Barclays
Mae'r Cynllun Rheoli Cymorth i Dyfu yn cynnig 50 awr o hyfforddiant arwain a rheoli i arweinwyr busnes ar draws 12 wythnos. Mae'n golygu y gall arweinwyr busnes, am gyn lleied â £750, elwa ar gymorth un-i-un gan fentor busnes, mynediad at rwydwaith o arweinwyr busnes o'r un meddylfryd, a chynllun twf pwrpasol i helpu'r busnes i gyrraedd ei lawn botensial. Fe’i cynlluniwyd i fod yn rhaglen hyblyg i’w chyflawni ochr yn ochr â gwaith...
Mae Cyflymydd NatWest yn cefnogi a grymuso entrepreneuriaid y DU i ddatblygu eu busnesau i'r lefel nesaf. Gallai'r rhaglen eich helpu i ennill y wybodaeth a'r sgiliau i ragori mewn ystod o feysydd busnes gan gynnwys: cyrchu marchnadoedd newydd denu talent ac adeiladu tîm effeithiol mynediad at gyllid twf datblygu arweinyddiaeth datblygu seilwaith y gellir ei ddatblygu Mae'r rhaglenni Cyflymydd presennol yn agored i bob perchennog busnes, nid oes rhaid i chi fod yn gwsmer...
Mae moderneiddio a symleiddio’r prosesau ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith yng Nghymru wrth wraidd bil newydd sy’n cael ei osod heddiw (dydd Llun, 12 Mehefin 2023). Disgrifiodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, fod y Bil Seilwaith (Cymru) newydd yn 'gam pwysig' tuag at gyflawni targedau ynni adnewyddadwy wrth i Gymru symud tuag at gyflawni ein targed sero net erbyn 2050. Mae’r cynigion yn y Bil yn cefnogi sawl ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru...
Mae enwebiadau bellach yn agored ar gyfer gwobrau Technology Fast 50 2023, a’r dyddiad cau yw hanner nos ar 1 Medi 2023. Mae’r gwobrau’n rhoi sylw i’r 50 cwmni technoleg cyflymaf eu twf yn y DU. Mae rhaglen UK Technology Fast 50 yn cynnwys pedwar categori: UK Technology Fast 50 Fast 50 Menywod mewn Arweinyddiaeth Enillwyr Rhanbarthol Sêr ar eu Cynnydd I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Home | UK Technology Fast...
Bellach, mae gan drethdalwyr tan 5 Ebrill 2025 i lenwi bylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol o fis Ebrill 2006, a allai gynyddu eu Pensiwn y Wladwriaeth – sef estyniad o bron i 2 flynedd – yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU. Mae ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol tan 2025 yn golygu bod gan bobl fwy o amser i ystyried yn llawn os yw talu cyfraniadau gwirfoddol yn briodol...
Sylfeini dylunio rownd 2: ymatebol Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £4 miliwn ar gyfer prosiectau dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n ymwybodol o systemau i ddylanwadu ar eu gweithgarwch ymchwil a datblygu yn y dyfodol. Y dyddiad cau yw 26 Gorffennaf 2023. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais Design foundations round two: responsive – UKRI Ymchwil a datblygu cydweithredol rhwng India a’r Deyrnas Unedig...
Datganiad Ysgrifenedig: Vaughan Gething, Weinidog yr Economi, Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip. Ym mis Chwefror 2023, comisiynodd Llywodraeth y DU y Pwyllgor Cynghori ar Fudo i adolygu’r rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder, fel rhan allweddol o bolisi cyffredinol Llywodraeth y DU ar gyfer mewnfudo. Fel rhan benodol o’r adolygiad hwn, gofynnodd Llywodraeth y DU i’r Pwyllgor adolygu’r rhestr o alwedigaethau cymwys, gan ei gwneud yn glir na fyddai unrhyw alwedigaeth...
Mae Wythnos Ffasiwn Cynaliadwy yn wythnos o weithgarwch cymunedol, gan gasglu pobl ynghyd i ysbrydoli, gwella sgiliau a grymuso’r gymuned i wneud dewisiadau ffasiwn cynaliadwy ac fe’i cynhelir rhwng 25 Medi ac 8 Hydref 2023. Am y tro cyntaf, mae Wythnos Ffasiwn Cynaliadwy yn partneru ag unigolion, sefydliadau, brandiau a darparwyr addysg i greu Hybiau ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y rhain yn fannau trochi, hygyrch lle y gallwch gael eich ysbrydoli – gan ddysgu...
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30 miliwn mewn rhaglenni newydd a fydd yn helpu sefydliadau yng Nghymru i ddatblygu ac ymgorffori cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd i helpu i wella bywydau pobl, tyfu'r economi a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: Lansio cyllid newydd gwerth £30 miliwn i hybu arloesedd yng Nghymru | LLYW.CYMRU Rhaglen Cefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART (SMART FIS)...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.