news and blogs Archives
121 canlyniadau
Meet In Wales: Adolygiad Cyrchfan 2023. Helpwch ni i rannu dyfodol digwyddiadau busnes yng Nghymru. Mae Meet In Wales yn rhan o dîm Digwyddiadau Cymru, sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan digwyddiadau. Mae denu unrhyw fath o ddigwyddiadau i gyrchfan yn fenter gydweithredol. Mae'n ymwneud ag arddangos y gorau o bob bwyty, bar, gwesty, atyniad, canolfan gynadledda, siop goffi, profiad antur a diwylliannol. Mae Meet In Wales yn ymgymryd ag adolygiad llawn...
Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion yn rhoi cymorth i fudiadau treftadaeth micro, bach a chanolig neu fudiadau sy’n cynnal prosiect treftadaeth ehangu eu ffrydiau incwm a chyrraedd cynulleidfaoedd a phobl newydd. Wedi’i chyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae CGGC yn rhedeg prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion mewn partneriaeth â mudiad Cwmpas, a elwid yn Ganolfan Cydweithredol Cymru cyn hyn. Caiff y prosiect hefyd ei gefnogi gan y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd ac leuenctid Cymru, Anabledd...
Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Yn ystod Mis Balchder eleni, rydym eisiau talu teyrnged i eiriolwyr a gweithredwyr sydd wedi helpu i adeiladu mudiad cryf ac unedig dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Mae ymdrechion yr arloeswyr a wnaeth arwain y ffordd wedi sicrhau bod cydraddoldeb i bobl LHDTC+ wedi symud ymlaen yn aruthrol. Rydym yn cofio ac yn cydnabod y cenedlaethau o bobl LHDTC+ sydd wedi ymladd fel unigolion, ac fel...
Mae cynllunio a threfnu da yn hanfodol i gynnal digwyddiad sy'n ddiogel ac yn bleserus. Gallwch ddechrau gydag arweiniad i drefnwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar sut i gynllunio, rheoli a monitro eich digwyddiad. Bydd yn eich helpu i sicrhau nad yw gweithwyr a'r cyhoedd sy'n ymweld yn agored i risgiau iechyd a diogelwch. P'un a ydych yn drefnydd, yn berchennog lleoliad neu'n wirfoddolwr, darganfyddwch fwy am eich cyfrifoldebau. Gan dibynnu ar...
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion ar gyfer meysydd allweddol cyfraith cyflogaeth yr UE a ddargedwir y mae'r Adran Busnes a Masnach (DBT) yn gyfrifol amdanynt. Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar 3 maes cyfraith cyflogaeth yr UE a ddargedwir a allai elwa o gael eu diwygio: gofynion cadw cofnodion o dan y rheoliadau oriau gwaith symleiddio cyfrifiadau gwyliau blynyddol a thâl gwyliau yn y rheoliadau oriau gwaith gofynion ymgynghori o dan reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau...
Os: ydych chi rhwng 18 a 30 oed ydych chi’n perthyn i gymuned pobl ddu neu leiafrifoedd ethnig sy’n byw yng Nghymru oes gennych chi syniad busnes, talent a/neu sgil oes gennych chi uchelgais i wneud newid cadarnhaol i’n cymunedau trwy eich syniadau busnes arloesol Ymunwch â ASSADAQAAT Community Finance i rannu eich syniadau a dysgu sut i droi eich cynnyrch neu wasanaeth yn realiti masnachol. Mae’r ‘rhaglen flasu’ undydd hon wedi’i llunio i roi...
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl! Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ei wneud i fywydau ein gilydd. Gallwch enwebu mewn wyth categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru: Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed a hŷn) Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed...
Gall pobl greadigol ledled Cymru a Ffrainc bellach wneud cais am grantiau trwy Gronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc. Nod y Gronfa £100,000, a gyflwynir gan y Cyngor Prydeinig mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru, yw tanio cysylltiadau newydd ac adnewyddu cysylltiadau presennol rhwng Cymru a Ffrainc, gan gefnogi cydweithrediadau sy’n meithrin perthnasoedd hirdymor ymhlith artistiaid, ymarferwyr creadigol a sefydliadau’r celfyddydau a diwylliant. Rhaid i’r ceisiadau, sy’n agored i unigolion...
Diwrnod Aer Glân, a gynhelir ar 15 Mehefin 2023, yw ymgyrch llygredd aer fwyaf y DU, sy’n ymgysylltu â miloedd o bobl mewn cannoedd o ddigwyddiadau, ac yn cyrraedd miliynau yn fwy trwy'r cyfryngau. Mae Diwrnod Aer Glân, a gydlynir gan y Global Action Plan, yn dod â chymunedau, busnesau, addysg a'r sector iechyd at ei gilydd i: wella dealltwriaeth y cyhoedd o lygredd aer meithrin ymwybyddiaeth o sut mae llygredd aer yn effeithio ar...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr ar sut i fesur, adrodd ar a mynd i'r afael ag unrhyw wahaniaethau cyflog ethnigrwydd o fewn eu gweithlu. Mae adrodd ar gyflogau ethnigrwydd yn un o'r offer y gall cyflogwyr eu defnyddio i adeiladu tryloywder ac ymddiriedaeth ymhlith eu gweithwyr. Mae'r canllawiau'n cynnwys cyngor ar: gasglu data tâl ethnigrwydd ar gyfer gweithwyr sut i ystyried materion data fel cyfrinachedd, cydgasglu grwpiau ethnig a lleoliad gweithwyr...
Pagination
- Previous page
- Page 12
- Next page