BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

111 canlyniadau

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn annog busnesau i amddiffyn eu hunain rhag asiantiaid ardrethi busnes twyllodrus. Daeth gwerthoedd ardrethi newydd ar gyfer eiddo busnes i rym yn Ebrill 2023. Defnyddiodd cynghorau’r gwerthoedd newydd hyn i gyfrifo biliau ardrethi busnes. Gall busnesau herio’u prisiad os ydynt o’r farn ei fod yn anghywir. Gallant ddefnyddio asiant ardrethi i wneud hyn. Ond mae rhai asiantiaid twyllodrus yn cyflwyno gwybodaeth anghywir. Gallai hyn arwain at gosbau neu...
Mae cynhadledd flynyddol y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) Gogledd Cymru yn dychwelyd â chasgliad o siaradwyr gwych, cyfleoedd rhwydweithio a’r cyfle i gael rhai offerynnau gwerthfawr i helpu’ch busnes ffynnu. Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar 13 Gorffennaf 2023 yng ngwesty Grosvenor Pulford Hotel and Spa, Pulford, CH4 9DG. Bydd y sesiynau’n ymdrin â phynciau fel lles ariannol, gwydnwch personol, cadernid meddwl, sut i fabwysiadu diwylliant o wasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chwalu dirgelwch seiberddiogelwch...
Os nad ydych yn hawlio’r treuliau iawn ar gyfer eich busnes, fe allai effeithio ar faint o dreth rydych chi’n ei thalu. I gael mwy o wybodaeth am dreuliau busnes, ymunwch â gweminarau Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF). Gallwch ofyn cwestiynau yn ystod y weminar gan ddefnyddio’r blwch testun ar y sgrin. Treuliau busnes ar gyfer pobl hunangyflogedig Bydd y weminar hon yn esbonio beth a ganiateir ac ni chaniateir, ac yn edrych ar...
Map Llwybr Gwastraff Bwyd Cymru newydd gan WRAP yn nodi cyfres o ymyriadau posibl a allai leihau gwastraff bwyd ar draws y gadwyn gyflenwi. Mae adolygiad cynhwysfawr o dystiolaeth yn nodi sut y gall y mecanweithiau weithio a sut maent wedi gweithio wrth gael eu cymhwyso mewn mannau eraill yn y byd. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Map Llwybr Gwastraff Bwyd Cymru | WRAP (wrapcymru.org.uk)
Mae’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ), ar y cyd ag Innovate UK KTN, yn cynnal gweminar am 10am ddydd Mercher 5 Gorffennaf 2023 i gyflwyno’r cwmpas a’r dull cyflwyno arfaethedig ar gyfer Cam 3 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) gwerth £185 miliwn. Mae’r IETF yn cynorthwyo busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni i newid i ddyfodol carbon isel, a lleihau eu biliau ynni a’u hallyriadau carbon trwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon a...
Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi (20 Mehefin 2023) fod llinell ffôn genedlaethol newydd yn cael ei lansio heddiw ledled Cymru ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl brys. Mae gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG ar gyfer iechyd meddwl ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i bob oedran. Gall pobl ddefnyddio'r rhif hwn os oes ganddynt bryder iechyd meddwl brys eu hunain neu bryder...
Mae buddsoddiad Cymru Greadigol mewn cynyrchiadau wedi rhoi hwb o £187 miliwn i economi Cymru ers iddi gael ei chreu yn 2020, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden heddiw (20 Mehefin 2023). Datgelodd y Dirprwy Weinidog y ffigurau yn nigwyddiad arddangos personol cyntaf Cymru Greadigol sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd, a fydd yn dathlu llwyddiannau'r sector ac yn amlinellu cynlluniau ar gyfer twf a datblygiad yn y dyfodol. Ers ei...
Mae’r BSI wedi lansio arweiniad newydd gyda’r nod o helpu sefydliadau i gefnogi gweithwyr sy’n cael profiad o’r menopos neu’r mislif a’u galluogi i gadw pobl brofiadol a dawnus o bob oedran. Mae’r BSI, sef Corff Safonau Cenedlaethol y DU, wedi cyhoeddi safon y mislif, iechyd mislifol a’r menopos yn y gweithle (BSI 30416), yn dilyn ymgynghori helaeth ag arbenigwyr a’r cyhoedd. Mae’n amlinellu argymhellion ymarferol ar gyfer addasiadau i’r gweithle, ynghyd â strategaethau i...
Mae rhifyn mis Mehefin o Fwletin y Cyflogwr yn rhoi’r holl ddiweddariadau a chanllawiau diweddaraf gan CThEF i gynorthwyo cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol cyflogres ac asiantau. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys diweddariadau pwysig ynghylch y canlynol: rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau - nodi ceir cwmni diesel yn gywir dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu dyddiad cau Cytundeb Setliad TWE a gwasanaethau digidol gwneud hawlio Budd-dal Plant yn haws ac yn gyflymach...


 

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2023
Diweddarwyd diwethaf:
20 Medi 2023

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.