news and blogs Archives
101 canlyniadau
Bydd deddfwriaeth newydd i gyfyngu ar werthu cynnyrch uchel mewn braster, siwgr a halen am brisiau rhatach dros dro, ac i gyfyngu ar eu lleoliad mewn siopau, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru. Mae’r gyfraith newydd, a fydd yn cael ei chyflwyno yn 2024 ac mewn grym ar draws Cymru erbyn 2025, yn adeiladu ar yr ymrwymiad i wella deiet ac atal gordewdra drwy gyfyngu ar y ffyrdd y gellir hyrwyddo bwydydd uchel mewn braster...
Mae'r rhyngrwyd yn le lle gall pobl ddweud pethau heb ddangos eu hunaniaeth go iawn. Mae hyn yn golygu bod rhai pobl weithiau'n defnyddio'r rhyngrwyd i ddweud pethau fell a niweidiol i eraill. Galwir hyn yn 'casineb ar-lein', ac mae'n digwydd pan fo rhywun yn dweud pethau ar-lein i wneud eraill deimlo'n wael oherwydd pwy ydyn nhw. Mae yna rai pethau am berson sy'n cael eu diogelu rhag gwahaniaethu ar y rhyngrwyd. Mae'r rhain yn...
Yn ogystal ag achub bywydau, bydd arafu’r traffig yn cryfhau cymunedau ac yn eu gwneud yn fwy diogel, dywedodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters dri mis cyn y daw’r terfyn cyflymder 20mya diofyn i rym. Bydd y rhan fwyaf o strydoedd yng Nghymru sydd â therfyn cyflymder o 30mya yn newid i 20mya ddydd Sul, 17 Medi 2023 a disgrifiwyd y newid hwnnw fel y newid mwyaf i fesurau diogelu cymunedol mewn cenhedlaeth. Daw’r newid...
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, wedi cymeradwyo heddiw (23 Mehefin 2023) y taliadau rheoleiddio y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnig eu codi yn 2023-2024 a’r trefniadau y mae angen i CNC eu gwneud i godi’r taliadau hyn o 1 Gorffennaf 2023 yn y meysydd canlynol: Rheoleiddio diwydiant Gwastraff safleoedd Ansawdd dŵr Adnoddau dŵr Rheoleiddio cronfeydd dŵr Cyflwyno taliadau ar gyfer trwyddedu rhywogaethau Mae’r taliadau a godir gan CNC yn cael eu...
Heddiw (26 June 2023), cyhoeddodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, fod Llywodraeth Cymru yn darparu £200,000 er mwyn helpu i gryfhau newyddiaduraeth leol yng Nghymru. Mae ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ariannu mentrau hen a newydd i wella newyddiaduraeth yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â diffygion o ran gwybodaeth. Bydd sefydliadau annibynnol yn y cyfryngau cymunedol yn elwa ar £100,000. Mae’r Cynllun...
Heddiw (23 Mehefin 2023), d ywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, fod Llywodraeth Cymru ar drywydd i fwy na dyblu nifer y busnesau yng Nghymru sy’n eiddo i’w gweithwyr fel rhan o’i hymdrechion i sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn parhau yn nwylo Cymru. Un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yw dyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn ystod tymor hwn y Senedd, gan ddarparu mwy o gymorth i weithwyr...
Pleidleisiodd Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr ar 22 Mehefin 2023 i gynyddu cyfradd sylfaenol Banc Lloegr i 5% o 4.5%. Mae cyfraddau llog CThEF yn gysylltiedig â chyfradd sylfaen Banc Lloegr. O ganlyniad i'r newid yn y gyfradd sylfaenol, bydd cyfraddau llog CThEF ar gyfer talu'n hwyr ac ad-dalu yn cynyddu. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar: 3 Gorffennaf 2023 am randaliadau chwarterol 11 Gorffennaf 2023 am randaliadau heb fod yn rhai...
Mae pwerau newydd o Ddeddf Elusennau 2022 bellach wedi dod i rym, gan arwain at newidiadau i’r sector yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Comisiwn Elusennau wedi diweddaru ei ganllawiau presennol i adlewyrchu’r newidiadau hyn, sy’n cynnwys hyblygrwydd i ymddiriedolwyr wrth geisio gwaredu tir elusennol, a phwerau newydd ynglŷn â defnyddio gwaddol parhaol. I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Deddf Elusennau 2022: gwybodaeth am y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno - GOV.UK (www.gov.uk)
Heddiw (21 June 2023), cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y bydd pobl ifanc sydd mewn perygl o adael addysg yn cael profiad gwaith ystyrlon fel rhan o ymdrechion i sicrhau eu bod yn ailgysylltu â'u haddysg. Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, bydd y cynllun hanner miliwn o bunnoedd yn cefnogi hyd at 500 o ddysgwyr 14-16 oed ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn 2023/24. Byddant yn elwa ar leoliadau profiad gwaith o...
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) wedi cyhoeddi estyniad i’r cymorth a ddarperir i Horizon Europe y DU. Bydd y warant ar waith ar gyfer pob galwad Horizon Europe sy’n cau ar 30 Medi 2023 neu cyn hynny. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus cymwys i Horizon Europe yn cael gwerth llawn eu cyllid yn eu sefydliad cynhaliol yn y DU ar hyd oes eu grant. Mae manylion ynglŷn â chwmpas a thelerau’r estyniad ar gael ar wefan...
Pagination
- Previous page
- Page 10
- Next page