BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Didoli Gwastraff

Mae gwastraff yn cynnwys unrhyw ddeunydd, elifiant neu sylwedd dros ben nad oes
ei angen neu eitem sy’n cael ei gwaredu am ei bod wedi torri, wedi gwisgo, ei halogi neu wedi’i difetha mewn ffordd arall. Gwastraff yw’r ‘sylweddau neu’r gwrthrychau hynny sy’n cwympo allan o’r cylch masnachol neu’r gadwyn ddefnyddioldeb’.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff cyfreithiol yng Nghymru sy’n rheoleiddio mathau penodol o wastraff – a adwaenir fel 'gwastraff a reolir'. Mae’r rhain yn cynnwys gwastraff cartrefi, diwydiannol a masnachol. Nid yw mathau eraill o wastraff a elwir yn 'wastraff heb ei reoli' (amaeth, mwynfeydd a chwareli) yn cael ei reoli yn yr un ffordd ar hyn o bryd.

Beth yw gwastraff peryglus?

Mae rhai mathau o wastraff yn cael eu dosbarthu fel gwastraff ‘peryglus’. Mae hwn yn derm cyffredinol ar gyfer ystod eang o sylweddau a all achosi lefelau amrywiol o risg. Er enghraifft, mae sylweddau gwenwynig a all achosi canser yn cael eu cyfrif fel rhai peryglus. Mae tiwbiau fflwroleuol neu diwbiau pelydrau catod mewn setiau teledu’n cael eu cyfrif fel gwastraff peryglus er nad ydynt yn fygythiad mawr ond gallant achosi difrod tymor hir dros gyfnod o amser.
Ceir arweiniad i wastraff peryglus ar wefan GOV UK

Ailgylchu 

Mae llawer o ddeunyddiau a fyddai yn y gorffennol wedi diweddu mewn safleoedd tirlenwi neu’n cael eu llosgi bellach yn cael eu casglu a’u hailgylchu i wneud cynnyrch newydd. Mae’r prif ddeunyddiau sy’n gallu cael eu hailgylchu’n rhwydd yn cynnwys papur, cardfwrdd, gwydr, pren a rhai plastigau. Bydd y darparwr sy’n casglu eich gwastraff neu eich awdurdod lleol yn gallu rhoi gwybodaeth fanwl i chi am yr hyn ellir ei ailgylchu yn eich ardal, a bydd hyn yn ddibynnol ar argaeledd gwasanaethau casglu pwrpasol a lleoliad cyfleusterau prosesu. Casglu deunyddiau sydd wedi’u didoli yn eu tarddle yw’r allwedd i gynhyrchu deunyddiau ailgylchu o ansawdd uchel i’w defnyddio mewn cynnyrch newydd gan fod halogiad yn gallu arwain at wrthod llwyth a fydd wedyn yn diweddu mewn safle tirlenwi. 

Beth yw gwastraff gweddilliol?

Mae gwastraff gweddilliol yn derm a ddefnyddir am wastraff na ellir ei ailgylchu neu wastraff sy’n weddill ar ôl cymryd yr holl ddeunydd y gellir ei ailgylchu ohono. Gall hefyd olygu’r gwastraff gweddilliol sy’n weddill ar ôl trin gwastraff.

Gwastraff Bwyd

Gall gwastraff bwyd costio hyd at £1,800 y dunnell i’ch busnes! Mae cadw gwastraff bwyd o’r ffrwd gwastraff cyffredinol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae buddsoddiad sylweddol wedi’i wneud i ddatblygu gweithiau treulio anaerobig i droi gwastraff bwyd yn ynni. Os nad yw wedi’i wahanu bydd gwastraff bwyd yn aml yn mynd i safleoedd tirlenwi lle bydd yn dadelfennu’n anaerobaidd ac yn cynhyrchu methan, nwy tŷ gwydr cryf. Mae hefyd yn halogi deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu fel papur a cherdyn sydd wedyn yn golygu na ellir eu hailgylchu hwythau ychwaith. Mae casglu a thrin gwastraff bwyd ar wahân yn golygu bod modd osgoi allyriadau, gan roi sicrwydd bod gwastraff bwyd yn cael ei adennill ac yn cael ei drosi’n ynni adnewyddadwy a / neu wrtaith neu gompost. Ewch i wefan WRAP sy’n cynnwys arweiniad ac sy’n disgrifio buddiannau ailgylchu bwyd i fusnesau.

Beth sy’n cael ei gyfrif fel gwastraff swmpus?

Gellir diffinio gwastraff swmpus yn ôl math, pwysau ac yn ôl cyfaint. Y diffiniad cyfreithiol o “wastraff swmpus” yw: 

  • unrhyw eitem sy’n pwyso mwy na 25 cilogram; a/neu
  • unrhyw eitem nad yw’n ffitio neu na ellir ei ffitio i: 
    • gynhwysydd ar gyfer gwastraff y cartref yn unol ag adran 46 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990; neu
    • lle nad oes cynhwysydd o’r fath wedi’i gyflenwi, cynhwysydd silindraidd 750 milimetr mewn diamedr ac 1 metr o hyd.

Mae awdurdodau casglu’n disgrifio eitemau swmpus fel “y rhai hynny y byddech yn mynd â hwy gyda chi pan fyddwch yn symud”. Yn ôl y dybiaeth hon, mae’n cynnwys dodrefn, cyfarpar trydanol fel nwyddau gwyn, beiciau, matiau, dodrefn yr ardd ac eitemau cludadwy eraill y cartref. Ni fyddai’n cynnwys carpedi na’r isgarped, unedau ystafelloedd gwely neu gegin (h.y. y rhai sydd fel arfer yn sownd i’r wal), gwastraff sachau duon, drysau a ffenestri, panelau ffensys neu giatiau, tai gwydr neu siediau, boeleri neu wresogyddion stôr.

Beth os oes gen i Gyfarpar Trydanol neu Electronig Gwastraff?
Os ydych chi’n defnyddio, yn gweithgynhyrchu, yn mewnforio, yn ail-frandio, dosbarthu, gwerthu, storio, trin, datgymalu, ailgylchu, neu waredu cyfarpar trydanol neu electronig (EEE) yna gallai’r ddeddfwriaeth WEEE effeithio ar eich sefydliad. Mae gofynion sy’n gysylltiedig â chasglu ar wahân, gwaredu ac ailgylchu; safonau ar gyfer eu trin mewn cyfleusterau awdurdodedig; a thargedau casglu, ailgylchu ac adennill.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.