BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Cake Academy Wales

Rydw i wrth fy modd gyda Chymru a byddaf yn parhau i ymgeisio am wobrau gan ddefnyddio cynhyrchion Cymreig yn unig.

Ers symud i Gymru, roedd Cogydd o Efrog Newydd a hyfforddwyd yn Cordon Bleu, Nichola Ferron, eisiau sefydlu busnes o’i chartref oedd yn cyfuno ei chariad tuag at sgiliau coginio a’i chariad tuag at gelf, tra’n cynnig hyblygrwydd i’w theulu. Ar ôl derbyn cymorth gan Busnes Cymru, fe wnaeth Nichola wireddu’r uchelgais hon a lansio Cake Academy Wales, ysgol gacennau newydd yng Nghastell-nedd.

Trafododd ei hymgynghorydd Busnes Cymru nifer o agweddau ar y busnes gyda Nichola, gan gynnwys cymorth ariannol posibl a allai fynd tuag at ddatblygu cacennau figan a heb glwten a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer prentisiaethau.

Gan fod Nichola hefyd yn angerddol dros greu a chynnig cyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau a meithrin hyder, bydd yn siarad gydag ymgynghorydd AD arbenigol i gyflwyno contractau cyflogaeth newydd a datblygu llawlyfr staff.

Ydych chi angen cymorth i ddechrau arni? Cysylltwch â’r tîm i ddysgu mwy Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.