Rwy’n hynod ddiolchgar fy mod yn derbyn cymorth ariannol gan Busnes Cymru. Mae hyn yn rhoi cymhelliant i mi ddatblygu fy musnes.
Mae gan Yevgeniia Vradii yrfa lwyddiannus fel ffotograffydd proffesiynol yn Wcráin ers 2010.
Newidiodd ei hamgylchiadau yn ddramatig pan ddechreuodd y rhyfel yn Wcráin, gan orfodi Yevgeniia i werthu ei chamera i dalu costau teithio gyda’i theulu i’r DU.
Ar ôl ychydig o fisoedd o addasu i’w bywyd newydd a chael cymorth gan Lywodraeth Cymru, roedd Yevgeniia yn barod i sefydlu ei busnes ffotograffiaeth ei hun yng Nghymru.
Gan nad Saesneg yw iaith gyntaf Yevgeniia, sicrhaodd ei chynghorydd busnes fod y gweminarau Cychwyn Busnes a Cyflymu Cymru i Fusnesau ar gael yn Wcreineg. Darparwyd ystod eang o gymorth busnes, yn trafod trethi, marchnata, adeiladu sylfaen busnes, ac roedd cyllid ar gael.
Arweiniodd hyn at baratoi a gwneud cais ar gyfer y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a hŷn; cefnogodd ei chynghorydd busnes hi gyda’r cais a oedd yn gofyn am gynllun busnes, rhagolwg llif arian a dogfennaeth ategol.
Cafodd y cais am gyllid ei gymeradwyo’n llwyddiannus, gan ganiatau i Yevgeniia brynu camera newydd a llwyddo i gychwyn ei busnes newydd, Eva Vradiy, yng Nghymru o’r diwedd.
Cysylltwch heddiw os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â sefydlu busnes newydd yng Nghymru! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)