BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Hoop Recruitment

Hoop Recruitment

Fe wnaeth Busnes Cymru gynorthwyo gyda’r sylfeini roedden ni eu hangen i adeiladu un o’r busnesau cyflymaf ei dwf yng Nghymru.

Mae Busnes Cymru wedi cynorthwyo Hoop Recruitment, sef asiantaeth recriwtio a leolir yng Nghaerdydd, ers ei sefydlu yn 2016.

Erbyn hyn, mae’n un o’r cwmnïau cyflymaf ei dwf yng Nghymru, gyda throsiant 8 ffigur a miloedd o gwsmeriaid hapus.

Roedd y cwmni’n awyddus i archwilio cyfleoedd hyfforddi wedi’u hariannu er budd datblygiad ei staff, felly fe wnaeth cynghorydd busnes y cwmni ei atgyfeirio at gymorth y Porth Sgiliau, a fydd yn helpu’r gweithwyr i gyrraedd eu llawn botensial.

Hefyd, mae Hoop Recruitment wedi ymrwymo i’r Addewid Twf Gwyrdd i gynnal cynllun gweithredu di-garbon. Fe fydd hyn yn sicrhau y bydd modd i’r cwmni leihau gwastraff, cefnogi cymunedau lleol a hyrwyddo arferion da.

A ydych yn anelu at gyrraedd twf cynaliadwy yn eich busnes? Gall ein cynghorwyr eich cynorthwyo gyda chyngor arbenigol i’ch helpu i gyrraedd y nod hwnnw Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.