BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Susan Hatherley Hypnotherapy

Mae'r cymorth rwyf wedi ei dderbyn gan Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy. Oni bai am hynny ni fyddwn wedi gallu dechrau fy musnes hypnotherapi.

Cafodd hypnotherapi effaith mor gadarnhaol ar fywyd Susan Hatherley wedi iddi brofi trawma personol ei hun, fel yr ysgogodd hi i ddechrau ei busnes ei hun, gan gynorthwyo eraill i dorri’n rhydd oddi wrth eu hofnau a’u pryderon.

Yn awyddus i ddechrau arni gyda’r busnes, cysylltodd Susan â ni yn Busnes Cymru am gymorth a chyngor ynglŷn â sefydlu ei busnes hypnotherapi. I ddechrau mynychodd ein gweminar ‘Dechrau a Rhedeg Eich Busnes Eich Hun', ac yna cafodd gymorth un i un ychwanegol gan ei chynghorydd busnes. Canolbwyntiodd hyn yn bennaf ar reoli cyllid a marchnata’r busnes megis prisio, treth, ymchwil i’r farchnad a brandio.

Cefnogwyd Susan gan ei chynghorydd busnes i ymgeisio am y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes, ac arweiniodd hynny ati’n llwyddo i gael y grant. Cofrestrodd hefyd â’r Addewid Cydraddoldeb a’r Addewid Twf Gwyrdd a fydd yn sicrhau bod gwasanaeth Susan yn cyfrannu at lesiant y gymuned leol ac yn hygyrch.

Mae menter busnes Hypnotherapi Susan Hatherley newydd ddechrau, ac mae bellach yn helpu eraill i deimlo rhyddhad, llonyddwch a gobaith ar gyfer eu dyfodol.

A oes gennych chi syniad busnes? Gall ein tîm eich helpu chi heddiw! Dechrau a Chynllunio Busnes | Drupal (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.