BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Wall Art For All

Wall Art For All

Rwy’n ddiolchgar am y cymorth strwythuredig a phwrpasol rwyf yn ei gael gan Busnes Cymru.

Cafodd busnes newydd Ioan Raileanu, Wall Art For All, ei gefnogi gan y Rhaglen Cyflymu Lansio mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru. Mae'r rhaglen hon yn annog cyn-fyfyrwyr i ddechrau eu busnes eu hunain drwy gynnig amrywiaeth eang o gymorth cychwyn busnes drwy staff USW, Syniadau Mawr Cymru a chynghorwyr Busnes Cymru.

Galluogodd arweiniad a chefnogaeth ei gynghorydd busnes ef i wneud y defnydd gorau o’i gymhwyster proffesiynol yn y celfyddydau therapiwtig a darlunio. Roedd cael cymorth i ddechrau a rhedeg busnes, cyngor ar gynllunio busnes, marchnata, rheoli cyllidebau'r busnes a chyngor tendro arbenigol, oll yn cyfrannu tuag at Ioan yn dechrau ei fusnes ei hun.

Mae Ioan bellach yn gweithio fel darlunydd llawrydd, gan baentio murluniau masnachol a domestig. Mae’n paentio murluniau gyda grwpiau o unigolion niwroamrywiol ac ar gyfer y rhai sydd ag anawsterau dysgu, yn y canolfannau y maent yn eu mynychu. Mae’r grwpiau’n chwarae rhan lawn yn natblygiad y murluniau, gan gyfrannu syniadau y gall Ioan eu hymgorffori yn y dyluniad gorffenedig.

Rydym yn falch iawn o glywed bod Ioan wedi sicrhau contract mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru yn ddiweddar, contract i ddarparu gweithdy llesiant creu murlun yng Nghaerdydd a Glynebwy. 

Mae hefyd wedi cwblhau gweithdy i hyrwyddo’r gofalwyr ifanc I.D yn yr RCT wrth weithio hefyd gydag Ymddiriedolaeth Elusennol sy’n gofalu am bobl agored i niwed yng Nghymru, drwy wneud cais am arian gan y Cyngor Celfyddydau i ddatblygu murlun mawr cyfranogol gyda'r unigolion y maent yn gofalu amdanynt.

A hoffech gymorth i ddechrau eich busnes? Cysylltwch â ni heddiw! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.