BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Allforwyr – Ydych chi’n barod ar gyfer 31 Rhagfyr?

Yn ddiweddar, lluniodd Tîm Allforio Llywodraeth Cymru gyfres o weminarau oedd â’r nod o gefnogi allforwyr o Gymru i baratoi ar gyfer diwedd cyfnod pontio’r UE. Fe’i darparwyd mewn partneriaeth ag ymgynghorwyr masnach rhyngwladol a Siambr Masnach De Cymru a thrafodwyd y pedwar pwnc canlynol:

  • Brexit – Deall Rheolau Tarddiad: Defnyddir Rheolau Tarddiad i ddiffinio ymhle y gwnaed cynnyrch ac mae’n pennu’r doll mewnforio sy’n berthnasol iddynt. Mae’r ffaith syml hon ar fin dod yn bwysig iawn i allforwyr ar ôl Brexit.
  • Brexit – Gweithio gydag asiantau a dosbarthwyr: Wrth ymuno â marchnad allforio newydd, y llwybr hawsaf a’r un gyda’r lleiaf o risg yn aml yw’r un drwy asiant neu ddosbarthwr. Gall un gyda phrofiad addas a chysylltiadau da roi mynediad cyflym i chi at y farchnad. Ond sut mae dewis a sut mae manteisio i’r eithaf arnyn nhw?
  • Brexit – Eich allforion a Chytundebau Masnach Rydd, beth nesaf?: Beth yw Cytundebau Masnach Rydd a beth maen nhw’n ei olygu i chi a’ch busnes? Ar hyn o bryd, rydym yn masnachu gyda gweddill y byd o dan y Cytundebau Masnach Rydd a gafodd eu trafod a’u cytuno gyda’r UE. Bydd hyn i gyd yn newid ddiwedd y flwyddyn. Beth fydd hyn yn ei olygu i’ch busnes allforio?
  • Datganiadau Tollau, ar ôl Brexit: Mae popeth ar fin newid, ac mae angen i chi fod yn barod! Ar ôl Brexit, bydd gofynion ychwanegol ar allforwyr a mewnforwyr o ran datganiadau a gweithdrefnau tollau. Ydych chi’n barod?

 

Mae dwy ffordd o fwynhau’r gweminarau hyn, drwy Barth Allforio Busnes Cymru https://businesswales.gov.wales/export/cy/gweminarau a drwy sianel YouTube Busnes Cymru https://www.youtube.com/user/businesswales.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.