BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau am ddim y gellir eu lawrlwytho i ddechrau neu dyfu eich busnes

Eisiau dechrau neu dyfu eich busnes ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Archwiliwch adnoddau am ddim gan Enterprise Nation i'ch helpu i ddechrau arni.

Darganfyddwch y Startup Kit i lansio eich menter a phori canllawiau arbenigol ar sut i lwyddo ar draws diwydiannau a sianeli poblogaidd. Mae'r Startup Kit yn cynnig yr holl offer a'r awgrymiadau sydd eu hangen arnoch i fod yn entrepreneur. Cewch gymorth i ddod o hyd i syniad, amlygu bwlch yn y farchnad a dechrau eich busnes bach eich hun.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i StartUp UK: Free resources to start a business | Enterprise Nation

Mae grant o hyd at £2,000 ar gael i helpu unigolion gyda chostau hanfodol dechrau busnes. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer pobl 25 oed a hŷn  | Busnes Cymru (gov.wales) a Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc i bobl dan 25 oed.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.