BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad o Ddiddordeb – Cronfa’r Sector Addysg Awyr Agored Preswyl

 

 

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2021
Diweddarwyd diwethaf:
12 Medi 2023

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa i gefnogi'r sector addysg awyr agored preswyl yng Nghymru gyda dyraniad cychwynnol o £2 miliwn. Bydd y gronfa hon yn rhoi cymorth i ganolfannau cymwys ledled Cymru i dalu costau gweithredu hanfodol yn ystod y cyfnod rhwng misoedd Mehefin a Medi 2021.

Bydd y gronfa'n cynnwys uchafswm grant wedi'i gapio o £45,000 fesul ymgeisydd llwyddiannus.

Er mwyn mesur cymhwystra tebygol a'r nifer sy'n manteisio ar y gronfa, rydym yn gofyn i'r sefydliadau hynny a allai fod yn gymwys i gael cymorth ac sy'n dymuno gwneud cais, lenwi ffurflen fer datganiad o ddiddordeb. Yna bydd sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen yn cael eu hysbysu'n uniongyrchol pan fyddwn yn gwahodd ceisiadau ffurfiol am gyllid. 

Mae sefydliadau'n cynnwys:

  • Canolfannau addysg sy'n defnyddio'r awyr agored i ennyn diddordeb ac addysgu pobl ifanc.
  • Canolfannau addysg awyr agored a gyflwynodd o leiaf 50% o'u profiadau preswyl addysgol i bobl ifanc cyn mis Mawrth 2020.
  • Canolfannau addysg awyr agored preswyl wedi eu lleoli yng Nghymru.
  • Canolfannau addysg awyr agored preswyl sy'n gweithredu yn y sector cyhoeddus (nad ydynt yn eiddo i Awdurdodau Lleol nac yn cael eu noddi ganddynt).

I gael rhagor o wybodaeth, ac i wirio eich cymhwysedd ewch i dudalen Covid-19 Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.