Maes o fuddsoddiad darbodus ar gyfer busnes twf uchel yw buddsoddi mewn technoleg gwybodaeth. Er ein bod ni i gyd wedi clywed am - ac efallai hyd yn oed wedi profi - erchyllterau gweithrediadau TG sydd wedi mynd o chwith, nid oes rhaid iddo fod felly. Cadwch bethau'n syml. Y cyfan sydd ei angen arnoch chi mewn gwirionedd yw rhai pethau sylfaenol:
- adroddiadau gwybodaeth reoli misol safonol - llif arian, elw, dyledwyr
- cofnodion cwsmeriaid - cronfa ddata
- e-bost - cyfathrebu mewnol ac allanol cyflym
- gwefan - hawdd i bobl ddod o hyd i chi a chael gwybod beth rydych chi'n ei wneud... byddwch yn arbed ffortiwn mewn llyfrynnau a llenyddiaeth
- mewnrwyd - llyfrgell lle rydych yn cadw eich holl ddogfennau polisi allweddol e.e. Llawlyfr Ansawdd, Polisi Iechyd a Diogelwch, Manylebau Cynnyrch, Deunyddiau Hyfforddi, Siart Sefydliad, Pecyn Ymsefydlu. Mae’n ei gwneud hi'n hawdd cyrchu deunyddiau cyfeirio
Peidiwch â gorgymhlethu. Os oes angen adran TG fewnol mawr arnoch - yna symleiddiwch eich TG a chael gwared ar yr adran. Bydd bywyd yn llawer haws a byddwch yn gwneud llawer mwy o arian.
Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.