Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd yw’r diwrnod gweithredu mwyaf yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd ledled y byd, ac fe’i cynhelir ddydd Mercher 24 Ebrill 2024.
Mae gwastraff bwyd yn broblem fyd-eang, ac yn ei sgil daw amrywiaeth eang o effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Y nodau yw:
- Atal gwastraff bwyd byd-eang yn y man cychwyn, trwy storio bwyd yn y ffordd orau bosibl, gwneud defnydd o bob rhan fwytadwy o’r cynhwysyn, a chynllunio prydau bwyd ymlaen llaw.
- Ysbrydoli pawb – ffrindiau, cydweithwyr, cymunedau lleol – i leihau gwastraff bwyd ac ailddefnyddio mwy.
- Addasu bwyd at ddibenion eraill arall wrth roi ail fywyd i gynhwysion sy’n cael eu gwastraffu gan amlaf, neu wrth ailddosbarthu bwyd dros ben i’ch cymuned leol.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: About (stopfoodwasteday.com)
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am atal gwastraff bwyd yn y man cychwyn, ewch i Wrap Surplus food redistribution | WRAP, ac i gael gwybodaeth am ddargyfeirio eich bwyd dros ben i elusennau rheng flaen, a sut y gallech fod yn gymwys i gael cyllid i helpu i leihau eich gwastraff bwyd, dewiswch y ddolen ganlynol: Bwyd Dros Ben ag Amcan - FareShare Cymru
Gallwch gofrestru ar gyfer ‘Yr Addewid Twf Gwyrdd’ a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eich cynaliadwyedd.