BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2021

Bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn i hyrwyddo'r defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol, yn arbennig ymhlith plant a phobl ifanc. Bydd tua 140 o wledydd ledled y byd yn ei ddathlu, bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2021 yn cael ei gynnal ar 11 Chwefror 2021.

O seiberfwlio i rwydweithiau cymdeithasol, bob blwyddyn, bwriad y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n codi ar-lein ac estyn allan at blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, athrawon, addysgwyr a gweithwyr cymdeithasol, yn ogystal â’r diwydiant, penderfynwyr a gwleidyddion, er mwyn annog pawb i gyfrannu at greu rhyngrwyd gwell. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

Ewch i dudalennau Troseddau Busnes i gael cyngor ar sut mae diogelu eich busnes rhag pob math o drosedd yn cynnwys e-Droseddau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.