BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru: cyfarwyddyd i bobl o dramor

Mae gweithio mewn gofal cymdeithasol yn yrfa werthfawr ac yn gyfle i wneud cyfraniad pwysig i gymdeithas.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â diddordeb, gan gynnwys:

  • pobl o dramor
  • ffoaduriaid
  • pobl alltud o Wcráin

Os ydych yn chwilio am waith ac yn mwynhau gweithio gyda phobl, efallai yr hoffech ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol.

Byddwch yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl eraill, gan feithrin perthynas â’r bobl yr ydych yn gofalu amdanynt. Mae gwên neu sgwrs yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i ddiwrnod rhywun.

I gael rhagor o wybodaeth am rolau mewn gofal cymdeithasol, ewch i: Hafan | Gweithio mewn gofal cymdeithasol a gofal plant | Gofalwn Cymru

Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn dymuno gwybod mwy am weithio yn y maes gofal cymdeithasol, mae cwrs tridiau am ddim ar gael i chi.

Gallai eich cyflogwr hefyd. gael cymorth ar gyfer eich cyflogi os ydych yn bodloni’r meini prawf. Gallai hynny ddigwydd drwy gynllun REACT+: ReAct+ | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales) 

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth Gweithio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru: cyfarwyddyd i bobl o dramor | LLYW.CYMRU


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.