BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithredu ar Newid Hinsawdd – Sut i Ddatgarboneiddio’ch Busnes

graph to depict decarbonisation

Ymunwch â Busnes yn y Gymuned (BITC) yng Ngorsaf Injan Glannau Dyfrdwy Toyota i drafod yr hyn y gall busnesau ei wneud i leihau'r effaith ar yr amgylchedd.

Bydd y digwyddiad hwn, ar 31 Ionawr 2025, yn cefnogi busnesau ledled Cymru i ddatgarboneiddio a chyflawni ymrwymiadau sero net Llywodraeth Cymru erbyn 2050 er mwyn inni allu creu Cymru wyrddach.

Mae gan ddefnyddwyr ddiddordeb cynyddol mewn rhinweddau cynaliadwyedd sefydliad. Yn yr un modd, mae mwy o fusnesau yn ceisio creu partneriaeth â busnesau cynaliadwy a buddsoddi ynddynt i leihau eu hallyriadau Cwmpas 3. Oherwydd y pwysau cynyddol hwn, nawr yw’r adeg i sicrhau bod eich busnes yn barod i drosglwyddo i ddatgarboneiddio.

Y digwyddiad hwn yw eich cyfle i gysylltu â busnesau o bob maint o bob cwr o Gymru a rhannu arfer gorau. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cyfnewid yr hyn y maent wedi’i wneud i drawsnewid eu busnesau a’r hyn sy’n eu galluogi i gyflymu’r broses o drosglwyddo er mwyn bodloni ymrwymiadau sero net Cymru.

Byddwch yn cael cyfle unigryw nid yn unig i glywed sut mae Toyota Manufacturing UK yn gwneud y daith i Garbon Niwtral, ond hefyd i fynd o amgylch eu Ffatri Foduron i weld rhai o'r newidiadau y maent wedi'u rhoi ar waith. Mae’r cyfleuster yng Nglannau Dyfrdwy, sy’n adnabyddus am gynhyrchu moduron o ansawdd uchel ar gyfer cerbydau Toyota, ar fin arwain y ffordd ym maes arloesi amgylcheddol ac mae’n fodel ar gyfer arferion gweithgynhyrchu cynaliadwy o fewn Toyota.

Byddwch hefyd yn clywed gan Gyfarwyddwr Hinsawdd Busnes yn y Gymuned, Gudrun Cartwright, ynghylch sut y gallwn ni yn BITC helpu eich busnes ar eich taith eich hun i Garbon Niwtral.

I gofrestru i ddod i’r digwyddiad unigryw hwn, dewiswch y ddolen ganlynol: Climate Action - How To Decarbonise Your Business Tickets, Fri, Jan 31, 2025 at 9:00 AM | Eventbrite

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.